Eleni, cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer dewis logo, gan wahodd plant a phobl ifanc ledled Môn i gymryd rhan. Daeth Ellie Sian Jones o Dalwrn yn fuddugol.
Reit, dyma ni. Tymor y gŵyliau, o’r diwedd! Mae penderfynu ble i fynd, a darganfod beth sydd ymlaen yn her a hanner – ond na phoener, achos mae Lysh yma i helpu!
Ar lannau’r Afon Efyrnwy, mae pentref bychan wedi bod yn aros yn eiddgar am gyrhaeddiad Mr Urdd a’i griw. Eleni, mae Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â Meifod am y tro cyntaf ers 1988!
Pam mae popeth mor ddrud y dyddiau yma? Ar adeg pan mae prisiau yn wirion o uchel, sut mae mynd ati i dreulio amser gyda ffrindiau heb orfod gwario’n wallgo’?
Mae’r Cymry yn genedl greadigol tu hwnt. Un sydd wedi llwyddo i greu gyrfa hunan gyflogedig ym myd celf ydi Lisa Eurgain Taylor, sydd yn rhedeg galeri a stiwdio yng Nghei Llechi, Caernarfon.
Beth fyddi di’n galw’r bwyd traddodiadol Cymreig yma? Pice bach neu gacen gri? Pice ar y maen, efallai? Wel, beth bynnag byddi di’n eu galw nhw, maen nhw’n hynod o flasus ac mor hawdd i’w coginio.
Mae’n nhw’n dweud fod yna ddrwg ym mhob caws. Ond, cofiwch, mae yna dda ym mhob drwg hefyd! Tra bod y newyddion cyfoes yn ffynnu ar ddrama, dewch i ni edrych ar yr ochr bositif.
Gydag ychydig llai ‘na phythefnos nes Ddiwrnod Santes Dwynwen, mae’n amser chwilota am y syniadau perffaith. Mae Lysh wedi rhoi bwrdd ysbrydoliaeth at ei gilydd i dy roi ar ben ffordd.
Hawdd iawn yw cymryd pethau yn ganiataol, ac mae ein hiaith yn un o’r rheini. I’r rhai ohonon ni sy’n siarad Cymraeg bob dydd, mae’n bwysig cofio nad ydi pawb yn derbyn yr un fraint.
Er bod traddodiadau fel y Trick or Treat yn weddol newydd, mae gan y Cymry draddodiadau hynafol sy’n gwreiddio o’r ŵyl Geltaidd oedd yn nodi diwedd yr Hydref a chychwyn y Gaeaf.
‘Dach chi’n gwybod y dyluniadau cacennau anhygoel fyddwch chi’n gweld ar-lein a dydyn nhw byth yn diweddu’n edrych yn debyg i’r llun? Wel, dyma ddyluniad mor syml, gall PAWB ei gyflawni!
"Ar hyd y blynyddoedd, rwyf bendant wedi dysgu am bwysigrwydd seibiau. Ac felly, ymhlith y traethodau a darlithoedd i gyd, dyma fi’n troi at ganu, perfformio a chyfieithu’n greadigol."
Dyma ni, yr wythnos fawr ar droed! Mae tîm Lysh wedi bod yn brysur yn cribo amserlenni'r Eisteddfod er mwyn creu casgliad byr o bigion sy’n rhoi digon o amser i chi siopa a bwyta rhwng bob un.
Wyt ti wedi cael eich llyfr am ddim eto, heb dalu’r un geiniog? Wel, mae project Caru Darllen Ysgolion, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi cyrraedd carreg filltir.
Gyda gŵyl bron bob penwythnos ar hyd a lled y wlad, mae cyfle i bawb fwynhau, glaw neu hindda! Er mwyn creu'r atgofion melysa’ posib, mae yna ychydig o bethau sy’n rhaid i chi gofio.
Dywed rhai mai profiad yw athro popeth, ac mae gwirfoddoli yn gallu adeiladu set gryf o sgiliau defnyddiol. Gyda gwyliau haf ar y gweill, pa amser gwell sydd i fynd amdani?
Dyma ni wedi cyrraedd cyfnod Eisteddfod yr Urdd unwaith eto. Dyma lond llaw o argymhellion Lysh ar gyfer beth i wneud wrth ymweld ag ardal Llanymddyfri dros yr ŵyl.