top of page

Newyddion Da!

Mae’n nhw’n dweud fod yna ddrwg ym mhob caws. Ond, cofiwch, mae yna dda ym mhob drwg hefyd! Tra bod y newyddion cyfoes yn ffynnu ar ddrama (dim byd newydd fan yna!) dewch i ni edrych ar yr ochr bositif. O fuddugoliaeth, i hawliau merched i gŵn bach ciwt, mae digon o newyddion da i’w gael, ‘mond i chi chwilio yn y lle iawn.
 

Mecsico yn dad-droseddu erthyliad ledled y wlad

Daw newyddion da i ferched Mecsico wrth i’r Goruchel Lys ddad-droseddu erthyliad ym mhob talaith. Mae hyn yn golygu fod merched yn gallu cael mynediad i wasanaethau erthylu.

Ers i Ddinas Mecsico ddad-droseddu erthyliad nôl yn 2017, y dalaith gyntaf i wneud, mae taleithau eraill wedi dilyn yr un trywydd. Ond, rŵan, mae erthyliad wedi cael ei ddad-droseddu ym mhob un o’r 32 talaith.

Mae’r newyddion yma, wrth reswm, yn cael ei groesawu gan grwpiau hawliau merched  ond er hynny mae pryderon yn cael eu codi am hygyrchedd gwasanaethau erthylu. Er fod erthylu wedi cael ei ddad-droseddu, mae diffyg cyfleusterau ac ymwybyddiaeth yn golygu fod dod o hyd i wasanaethau neu gwybodaeth am erthylu yn anodd i’w ddarganfod. Er hynny, mae’r newyddion yma bendant yn gam ymlaen i hawliau merched Mecsico.

 

Gall cennin pedr atal newid hinsawdd?

Wyddoch chi mai gwartheg sy’n gyfrifol am hanner yr allyriad methan yn y DU? Mae hynny’n ffaith ddrewllyd! Nid gwartheg yn unig sy’n gyfrifol am y llygru drewllyd – mae defaid yn rhannu’r baich hefyd.

Mae’n bosib fod yr ateb i’r broblem hon yn agosach nag oeddwn i’n meddwl, a hynny mewn cennin pedr. Ia, ein blodyn cenedlaethol! Mae gwyddonwyr wedi canfod fod cemegyn arbennig sy’n cael ei ddarganfod mewn cennin pedr â’r potensial i leihau’r lefelau methan sy’n cael ei greu gan wartheg. Wrth roi’r cemegyn yma ym mwyd anifeiliaid fferm, mae’r gwyddonwyr yn amcangyfrif fod cemegyn y cenin pedr yn gallu lleihau’r allyriad methan hyd ar 30%. Mae hyn yn cael ei arbrofi ar sawl fferm, gan gynnwys fferm yn ne Cymru.

 

Untitled design (42).png
Untitled design (43).png

Croesi i’r cŵn bach!

Ar flaen pob pot paent Dulux mae Olivia, Hen Gi Defaid Seisnig, gyda’i ffwr gwyn a llwyd eiconig. Wel, mae Olivia bellach yn fam, wedi iddi groesawu 7 ci bach newydd i’r byd, a phob un yn fwy blewog na’r llall!

Nôl yn 2020, rhoddwyd y brîd Hen Gi Defaid Seisnig ar restr gwarchod y Kennel Club gan fod nifer y cŵn bach newydd sy’n cael eu geni wedi gostwng yn sylweddol.

Mae’r brîd yma wedi cael eu harddangos ar hysbysebion Dulux ers 1961. Na, dydi Olivia ddim yn 62 oed – nid hi oedd y ci gwreiddiol! Dash oedd enw’r ci cyntaf i hyrwyddo’r brand, a hynny ar ddamwain. Yn ôl y sôn, ci y cyfarwyddwr oedd Dash ac roedd y ci wrth ei fodd yn rhedeg o flaen y camera. Yn y diwedd, penderfynodd y cwmni ddefnyddio fideos o Dash yn yr ymgyrch hyrwyddo, ac mae Hen Gŵn Defaid Seisnig wedi bod yn bencampwyr y brand ers hynny!

 

Yr Alban yn arwain ar ynni

Mae eco-anxiety yn rhemp y dyddiau yma, ond fel unrhyw bwnc arall mae newyddion da yno’n disgwyl amdanat. Draw yn yr Alban, mae gwyddonwyr a gwleidyddion yn dathlu cam yn nes at eu gôl o ddod yn wlad ‘net sero’.

Cyn fynd ymhellach, beth ydi ‘net sero’? Wel, mae hynny’n weddol syml. Mae ‘net sero’ yn golygu gostwng lefelau allyriad nwyon tÅ· gwydr i fod mor agos at sero â phosib. Cyflawni ‘net sero’? Wel, mae hynny ychydig yn fwy cymleth!

I gamu’n nes at y gôl, mae Llywodraeth yr Alban wedi cymeradwyo cynllun am orsaf storfa egni hydro yn ardal Argyll. O dan fynydd Ben Cruachan, mae yna orsaf bŵer sy’n defnyddio dŵr i greu trydan. Sefydlwyd yr orsaf bŵer yn 1965, y cyntaf o’i math yn y wlad, ond mae’r estyniad i’r orsaf bŵer yn golygu fod yr orsaf yn gallu cynhyrchu a storio dwbwl y trydan mae’n ei gynhyrchu rŵan.

 

Untitled design (44).png
bottom of page