top of page

Telerau ac Amodau

Mae defnydd o'r wefan hon yn golygu eich bod chi yn derbyn y Telerau Defnyddio canlynol:

 

Hawlfraint a Nodau Masnach

 

Fe weithredir ac fe feddianir y Safle hwn gan Lysh Cymru ("Lysh Cymru") ac mae'r wybodaeth a'r deunyddiau sy'n ymddangos ar y Safle ("y Cynnwys") yn cael eu harddangos ar gyfer defnydd personol, di fasnach yn unig. Mae pob meddalwedd a ddefnyddir ar y Safle hwn a'r holl Gynnwys a gynhwysir ar y Safle hwn (gan gynnwys heb gyfyngiad dyluniad y Safle, testun, graffeg, sain, a fideo a’r dewis a’r trefniant ohonynt) yn eiddo i Lysh Cymru neu ei gyflenwyr ac fe'i warchodir gan ddeddfau hawlfraint rhyngwladol.

 

Ni chaniateir i'r Cynnwys gael ei lawrlwytho, copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, postio, darlledu, storio, na'i werthu na'i ddosbarthu heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan ddeiliad yr hawlfraint. Mae hyn yn eithrio lawrlwytho un copi o ddetholiadau o'r safle ar unrhyw gyfrifiadur unigol ar gyfer defnydd personol, di fasnach, yn y cartref yn unig, ar yr amod bod holl hysbysiadau hawlfraint a pherchnogaeth wedi'u cadw. Gwaherddir addasu'r Cynnwys, ac unrhyw ddefnydd o'r Cynnwys at unrhyw ddiben heblaw am yr hyn a nodir yma (gan gynnwys heb gyfyngiad ar unrhyw wefan neu rwydwaith arall). Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau i ailgyhoeddi unrhyw ran o'r Cynnwys ac i ddefnyddio dyfyniadau neu ddetholiadau i'r cyfeiriad a nodir isod.

 

 

Dolenni i wefannau trydydd parti

 

Gall y Safle hwn gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti ar y rhyngrwyd, sy'n cael eu rheoli a'u cadw gan eraill. Cynhwysir y dolenni yma er cyfleustra i ddefnyddwyr yn unig ac nid yw'n gyfystyr â bod y gwefannau cysylltiedig, neu y rhai y cyfeirir atynt, yn cael eu cymeradwyo gan Lysh Cymru, ac nid oes gan Lysh Cymru unrhyw reolaeth dros gynnwys unrhyw safleoedd o'r fath.

Ymwrthodiad Atebolrwydd

 

Caiff y Safle hwn ei ddarparu gyda phob ewyllys da gan Lysh Cymru, ond nid yw Lysh Cymru yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth na gwarantiad o unrhyw fath, a fynegir neu a ensynir mewn perthynas â phob neu unrhyw ran o'r Safle neu'r Cynnwys neu gydag unrhyw Safle sy'n gysylltiedig, ac fe gaiff pob gwarant a chynrychiolaeth eu gwahardd i'r graddau a ganiateir gan y gyfraith.

 

Nid yw cynnwys y Safle yn gyfystyr â chyngor ac ni ddylid dibynnu arno wrth wneud, neu wrth ymatal rhag gwneud unrhyw benderfyniad.

 

Ni ellir sicrhau nad yw'r safle hwn yn cynnwys haint gan feirws neu unrhyw beth arall a all fod yn niweidiol neu'n ddinistriol.

 

I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, mae Lysh Cymru yn gwadu unrhyw atebolrwydd (sut bynnag y mae'n codi) mewn cysylltiad ag unrhyw golled a/neu ddifrod sy'n deillio o neu mewn cysylltiad gydag unrhyw ddefnydd, neu'r anallu i ddefnyddio, yr holl neu ran o'r Cynnwys, y Safle a/neu unrhyw wefan y mae'r Safle'n gysylltiedig, neu unrhyw weithred a gymerwyd (neu ymatal rhag eu cymeryd) fel canlyniad i ddefnyddio unrhyw un o'r rhain.

 

 

Newidiadau i'r amodau defnyddio hyn

 

Mae Lysh Cymru yn cadw'r hawl i ychwanegu at neu i newid yr amodau defnyddio hyn ac yn cytuno i sicrhau y bydd nodyn o'r dyddiad a rhif cymal unrhyw newidiadau o'r fath yn cael eu cynnwys fel rhan o'r amodau. Caiff unrhyw newidiadau eu postio i'r dudalen hon a'ch cyfrifoldeb chi fel defnyddiwr yw i fod yn ymwybodol o newidiadau o'r fath o bryd i'w gilydd. Bydd newidiadau yn dod i rym 24 awr ar ôl y postiad cyntaf ac fe ystyrir eich bod wedi derbyn unrhyw newid os ydych yn parhau i ymweld â'r Safle wedi'r amser hyn.

 

Gwybodaeth defnyddwyr

 

Mae Lysh Cymru yn gwarantu os gwnewch ddarparu eich cyfeiriad post ar-lein y byddwch yn derbyn y wybodaeth y gofynnoch amdano yn unig wrth ddarparu'r cyfeiriad ond os nad ydych yn dymuno derbyn e-bost gan Lysh Cymru yn y dyfodol, neu os y dymunwch gael eich tynnu oddi ar y rhestrau postio, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda drwy anfon e-bost neu ysgrifennu at:

 

 

Lynda Tunnicliffe

Rily Publications Ltd

Blwch Post 257

CAERFFILI

CF83 9FL

e-bost: ymholiadau@lysh.co.uk

bottom of page