
Hysbysebu Gyda Ni
Pam hysbysebu gyda ni?
Cynulleidfa Unigryw
Cylchgrawn ar-lein di-elw yw Lysh.Cymru ar gyfer pobl ifanc 11-14 oed yn eu harddegau. Ein nod yw cynnig cynnwys hwyliog i'n darllenwyr i'w darllen yn eu hamser hamdden a ffordd o gyfathrebu, yn y Gymraeg, drwy gyfrwng cyfryngau cyfoes fel ffonau clyfar. Bonws Lysh yw y gallwn hefyd ddechrau cyfathrebu dwy ffordd, uniongyrchol â'n cynulleidfa a chael eu barn er mwyn eu rhannu â chynulleidfa ehangach. Mae gan y gynulleidfa ifanc hon lais erbyn hyn, trwy gyfrwng Lysh!
Pwy yw ein Cynulleidfa?
• Pobl ifanc, yn enwedig merched 16+
• Rhieni pobl ifanc yn eu harddegau
• Ysgolion
• Canolfannau ieuenctid
• Dysgwyr
Mae cynnwys Lysh ar gael am ddim trwy ein gwefan, www.lysh.cymru ar gyfrifiadur, ar dabled neu ffôn clyfar. Rydym hefyd yn postio'n aml ar Instagram, Twitter a Facebook. Wedi lansio ym mis Mai 2019, mae gennym eisoes ddilyniant cryf ar ein cyfryngau cymdeithasol gyda llawer o ddarllenwyr yn anfon eu cynnwys eu hunain atom i'w huwchlwytho i’n hadran gymunedol.
Effaith ddigidol ddwbl
Enghreifftiau o sut mae Lysh.Cymru yn edrych ar ffôn, tabled a chyfrifiadur.
Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'r arian rydym yn ei godi?
Bydd yr holl arian a godwn o roddion, tanysgrifiadau a hysbysebion yn cael ei fuddsoddi i wneud Lysh.Cymru y wefan orau i bobl ifanc yn eu harddegau. Bydd arian ychwanegol yn ein galluogi i gynyddu ein herthyglau a chynnwys cyfranwyr eraill i gwmpasu amrywiaeth ehangach o bynciau. Mwy o erthyglau a deunydd hwyliog!
Cyfraddau cystadleuol
Mae tair banner hysbysebu ar gael ar y wefan sy'n ymddangos ar sail cylchdro. Dangosir y cyfraddau hysbysebu isod:-
Dimensiynau: 728 x 90 picsel
Baner ar ffurf JPEG neu PNG
Un linc i wefan allanol
-
1 mis £150
-
3 mis £400
-
6 mis £700
-
12 mis £1100
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech hysbysebu ar Lysh, cysylltwch gyda ryan@rily.co.uk.

Ystadegau ar ein gynulleidfa cyn lansio yn ôl Instagram
