top of page

Cliciwch isod i gyfrannu:

Cylchgrawn ar-lein di-elw yw Lysh.Cymru ar gyfer pobl ifanc 11-14 oed yn eu harddegau. Ein nod yw cynnig cynnwys hwyliog i'n darllenwyr i'w darllen yn eu hamser hamdden a ffordd o gyfathrebu, yn y Gymraeg, drwy gyfrwng cyfryngau cyfoes fel ffonau clyfar. Bonws Lysh yw y gallwn hefyd ddechrau cyfathrebu dwy ffordd, uniongyrchol â'n cynulleidfa a chael eu barn er mwyn eu rhannu â chynulleidfa ehangach. Mae gan y gynulleidfa ifanc hon lais erbyn hyn, trwy gyfrwng Lysh! Rydyn ni'n bwriadu apelio tuag at:

• Pobl ifanc, yn enwedig merched 11-14 oed

• Rhieni pobl ifanc yn eu harddegau

• Ysgolion

• Canolfannau ieuenctid

• Dysgwyr

Bydd yr holl arian a godwn o roddion, tanysgrifiadau a hysbysebion yn cael ei fuddsoddi i wneud Lysh.Cymru y wefan orau i bobl ifanc yn eu harddegau. Bydd arian ychwanegol yn ein galluogi i gynyddu ein herthyglau a chynnwys cyfranwyr eraill i gwmpasu amrywiaeth ehangach o bynciau. Mwy o erthyglau a deunydd hwyliog!

Diolch o galon!

Love.png
Love.png

Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'r arian rydym yn ei godi?

bottom of page