top of page

Gigs a Gŵyliau Haf 2024

Music Festival

Reit, dyma ni. Tymor y gŵyliau, o’r diwedd! Boed glaw neu hindda, byddwn ni allan ar faes yr Eisteddfod mewn welis neu sandals, yn bloeddio canu mewn ambell i gig Bwncath ac, wrth gwrs, yn ymgynnull gyda’n cymunedau mewn gigs lleol.

Tydi sîn gigs a gŵyliau Cymru erioed wedi bod mor swnllyd. Yn wir, mae’r sîn mor brysur bellach nad ydi hi’n bosib mynychu bob dim! Mae penderfynu ble i fynd, a darganfod beth sydd ymlaen yn her a hanner – ond na phoener, achos mae Lysh yma i helpu! Isod, wele amserlen gyda gigs a gŵyliau all fod o ddiddordeb i ti. Cofia, safia’r ddelwedd ar dy ffôn i dy atgoffa di o ba gig sydd ymhle!

Gigs a Gywliau 2024.png

Chwilio am tips ar sut i oroesi’r holl ddawnsio a chanu? Wel, clicia yma i ddarllen erthygl ‘Blwyddyn o Gerddoriaeth’ er mwyn darganfod mwy!
 

bottom of page