top of page

Gwefr Gwirfoddoli

Dywed rhai mai profiad yw athro popeth. Serch hynny, mae dod o hyd i brofiad o weithio ym maes eich breuddwydion fel ceisio dod o hyd i bot o aur ar ben pellaf enfys. Mae bron pawb wedi wynebu sefyllfa wrth chwilio am waith pan mae cyflogwr yn nodi nad oes ganddo’ch chi “ddigon o brofiad”, ac mae pawb yn gwneud eye roll wrth glywed y geiriau yna.

Wel, sorri, ond sut ydw i am gael profiad os nad oes rhywun yn cynnig y profiad? Mae’n rhaid i mi gael profiad er mwyn cael profiad, ond allai ddim cael y profiad cychwynol oherwydd nad oes gennai brofiad? Mae’r holl beth yn gwbl boncyrs.

Un ffordd rownd hyn ydi gwirfoddoli a thrwy hynny adeiladu set gryf o sgiliau defnyddiol. Gyda gwyliau haf ar y gweill, pa amser gwell sydd i fynd amdani?

 

Beth yw’r manteision?

Mae’r profiad o wirfoddoli yn cynnig amryw o fanteision, a rheini’n fanteision personol a chymunedol. Wrth fynd ati i gynnig eich amser, mae’n bosib y byddwch chi’n helpu eich cymuned ac, ar yr un pryd, yn mynd ati i fagu nifer o sgiliau a phrofiadau fydd yn siŵr o fod o fudd i chi am flynyddoedd i ddod.

Wrth wirfoddoli, byddwch chi’n cwrdd â chymaint o bobl wahanol. Mae’n swnio ychydig yn cringe i ddweud fod gwirfoddoli yn gyfle gwych i wneud ffrindiau, ond mewn gwirionedd mae’n bosib cyfarfod sawl cymeriad gwahanol ar eich siwrnai wirfoddoli.

 

Gyda misoedd hir yr haf wedi ein cyrraedd, mae’n siwr y byddwch chi’n edrych ymlaen at ymlacio a bod yn rhydd o gaethiwed arholiadau. Wrth wirfoddoli, gallwch chi gynnig eich amser fel sy’n gyfleus i chi. Dim ond awr i sbario? Gwych! Eisiau llenwi prynhawn cyfan? Lyfli! Cyn belled â’ch bod chi’n ddibynadwy a ddim yn gaddo amser nad ydych chi’n gallu ymrwymo iddo, gallwch chi gynnig eich amser fel sy’n gyfleus i chi.

Gall gwirfoddoli fod yn lot o hwyl, a pha ffordd well i ddyrchafu’r sbort na thrwy wahodd eich ffrindiau i wirfoddoli gyda chi? Mae trio rhywbeth newydd yn gallu bod yn anodd, ond gyda ffrind wrth eich ochr cewch gysur a chreu atgofion melys i’w trysori.

 

Yn y Maes

Mae’n almwg fod gwirfoddoli yn brolio ystod eang o fanteision ond does dim rhaid i chi wirfoddoli mewn maes sy’n gwbl newydd i chi. Mae gan bawb ei bethau, diddordebau a dymuniadau ar gyfer y dyfodol, felly mae’n syniad da i  geisio dod o hyd i gyfle gwirfoddoli sydd am fod o fudd i chi yn y dyfodol. Er enghraifft, os ydych chi’n bwriadu dilyn gyrfa mewn milfeddygaeth, ewch ati i chwilio am loches anifeiliaid sydd angen cymorth.

Efallai eich bod chi’n fwy cyffyrddus yn yr awyr agored ac felly fyddai chwilio am gyfleoedd i blannu coed gyda phrosiect cymunedol yn syniad.

Am brofiadau sy’n cynnig mwy o brofiadau gyda phobl, ceisiwch ddod o hyd i Eisteddfodau lleol. Anfonwch neges i holi os oes angen cymorth, rwy’n siwr bydd sawl un yn falch iawn o’r cymorth a chefnogaeth!

Chwilio am Gyfle

Y peth anoddaf am fynd ati i wirfoddoli ydi chwilio am gyfle. Mae sawl ffordd o fynd ati, gan gynnwys:

-    Gofyn! Holwch yn yr ysgol, y coleg neu holwch ymgynghorydd gyrfa.
-    Anfonwch neges i lochesi anifeiliaid sy’n lleol i chi.
-    Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol. Mae grŵp Llais y Goedwig ar Facebook yn lle gwych i gychwyn chwilio am brofiadau awyr agored.
-    Hoffi gweithio gyda’r cyhoedd? Ewch i ymweld â siop elusen gyfagos i holi os oes cyfle ar gael.
-    Barod am sialens? Ewch draw i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

 

Felly, beth am fynd amdani? Cofiwch, os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i fynd ati i roi eich amser i brosiect cymunedol, i blannu coed neu unrhyw antur arall gwirfoddol, rhowch wybod i ni! Byddwn ni wrth ein boddau yn rhannu eich stori gyda holl ddarllenwyr Lysh!
 

bottom of page