top of page

Dweud dy Ddweud:
Byw a Bod yn Gymraeg

Untitled design.jpg

Hawdd iawn yw cymryd pethau yn ganiataol, ac mae ein hiaith yn un o’r rheini. I’r rhai ohonon ni sy’n siarad Cymraeg bob dydd, byw ymysg cymdogion Cymraeg, wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ffyddlon, mae’n bwysig cofio nad ydi pawb yn derbyn yr un fraint. Yn wir, wrth edrych ar gymunedau ledled Cymru mae cyfleoedd i siarad yr iaith yn ein cymdeithas yn lleihau. Dydi edrych ar y cyfryngau cymdeithasol fawr o help chwaith, wrth i’r Cymry ffraeo ymysg ei gilydd am gam-dreiglad ar arwyddion mewn siopau a phlismyn iaith yn barod dy erlyn os fyddi di’n meiddio rhoi to bach yn y lle anghywir.

Wel, fyddi di’n gwybod erbyn rŵan fod Lysh yn hoff o chwilio am ochr bositif i bob stori, ac yn wir mae yna newyddion da am yr iaith!

 

Yn dilyn arolwg gan Comisiynydd y Gymraeg, mae ffigyrau addawol wedi cael eu casglu. Roedd 80% o bobl ifanc oedd yn mynychu’r coleg yn meddwl bod eu gallu i siarad Cymraeg yn mynd i helpu mewn gyrfa yn y dyfodol. Ar ben hynny, roedd 92% yn teimlo’n falch eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg. Mae’n wir fod y Gymraeg yn agor llawer o ddrysau, nid yn unig yng Nghymru ond mae’n fuddiol wrth fynd ymlaen i ddysgu iaith arall hefyd.

Mae’r ffigyrau yn disgyn wedyn, gyda 58% o bobl ifanc yn ffyddiog y byddant yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfa yn y dyfodol.

Mae’n debyg fod bod yn ddwyieithog o fantais yrfaol, beth bynnag yw’r iaith. Dros y blynyddoedd, mae sawl gwaith ymchwil yn edrych yn fanwl ar fanteision bod yn ddwyieithog ac mae canlyniadau yn dangos fod pobl sy’n siarad dwy iaith neu fwy yn gallu cofio pethau yn well. Nid yn unig hynny, ond mae ymchwil yn dangos fod pobl dwyieithog yn dda yn amlweithio (multitasking).

 

Reviewing for the Exam
Colleagues Working Together

Barn y Darllenwyr

Fel yr arfer, mae gan ddarllenwyr Lysh digon i’w ddweud! Wythnos ddiwethaf, rhoddwyd cwestiynau ar ein Instagram Stories i ddod i wybod mwy am brofiadau ein darllenwyr.

Wrth holi os ydyn nhw’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, roedd 97% yn dweud eu bod nhw. Yna, wrth holi os ydyn nhw’n defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith, roedd 37% yn dweud mai’r Gymraeg oedd yr unig iaith roedden nhw’n siarad yno a 44% yn dweud mai’r Gymraeg ydi’r brif iaith. Dim ond 4% oedd yn dweud nad oedden nhw’n defnyddio’r Gymraeg o gwbl wrth eu gwaith.

O’r rhai doedd ddim yn defnyddio’r Gymraeg yn unig, roedd 89% o bobl yn cytuno y byddant yn hoffi mwy o gyfle i siarad Cymraeg yn y gweithle.

O’r hyn sydd wedi cael ei gasglu, mae’n deg i ddweud fod yna lle haeddiannol i’r Gymraeg yn y gweithle!

 

Dy Farn Di

Beth yw dy farn di? Wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg fwy yn dy waith nag wyt ti adref? Wyt ti’n gweithio yn y Gymraeg yn unig ac ydi siarad Cymraeg wedi arwain at yr yrfa ti’n ei ddilyn nawr? Rho wybod i ni ar ein cyfryfin cymdeithasol, neu drwy anfon e-bost!

Eisiau dweud dy ddweud am bwnc yn y dyfodol? Dilyna ni ar Instagram, Facebook a Twitter a cadwa lygaid allan am y pwnc llosg nesaf.

 

bottom of page