top of page

O'r Archif:
Y Calan Gaeaf Cymreig

Beth fyddi di’n gwneud heno? Mynd allan am y noson er mwyn osgoi’r plant sydd yn siwr o fod yn cnocio ar y drws yn holi am bethau da, neu ydi dy fowlen da-da di yn barod amdanyn nhw? Beth bynnag y byddi di’n wneud, dyma ddarn o’r archif i ddathlu’r achlysur:
 

Full Moon

Wel, dyma ni. Adeg yna’r flwyddyn eto pan mae oedolion hÅ·n yn nodi’n ddyddiol; 
“Doedd dim nonsens Calan Gaeaf pan oedden ni’n blant! Yr hen ŵyl Americanaidd yma!”
Sôn am sbwylio hwyl!

Wyddost ti, mae’r “nonsens” Calan Gaeaf yma yn mynd yn ôl sbel hir yng Nghymru, ymhell cyn y gwisgo fyny a cherfio pwmpen? Er bod traddodiadau fel y Trick or Treat yn weddol newydd, mae gan y Cymry draddodiadau hynafol sy’n gwreiddio o’r ŵyl Geltaidd oedd yn nodi diwedd yr Hydref a chychwyn y Gaeaf pan oedd pawb wedi gorffen y cynhaeaf ac yn paratoi i swatio dros y misoedd garw i ddod. Ledled y wlad, mae gan ardaloeddarferion ac ofergoelion gwahanol a’r cyfan yn cwmpasu un gred; dyma’r noson mae ysbrydion yn ymweld â ni, y rhai da a’r rhai drwg. Dewch i ni edrych ar ambell draddodiad.

 

Coelcerth
 
Dyma draddodiad sy’n perthyn i sawl gŵyl wahanol, sef goleuo coelcerth ac ymgynnull gyda ffrindiau. Serch hynny, dydi hi ddim yn Galan Gaeaf heb elfen ddychrynllyd! Ar Noson Galan Gaeaf, byddai  cyfeillion yn ysgrifennu eu henwau ar gerrig ac yn eu taflu i mewn i’r goelcerth. Y bore wedyn, bydden nhw’n mynd yn ôl i safle’r goelcerth er mwyn chwilota am eu cerrig. Os na fyddai eu carreg nhw yno, byddai hynny’n golygu lwc ddrwg am flwyddyn gyfan! Tybed os, mewn pentref bychan yn rhywle, roedd rhywun wedi codi’n gynnar un bore er mwyn mynd i ddwyn carreg a chodi trwbl?

Hwch Ddu Gwta

Mae’r nesaf yn hynod sbŵci i blant ond, wrth fynd yn hÅ·n, mae’n amlwg mai dim ond techneg i gael plant Gogledd Cymru i’w gwely ydi hi!

“Adre, adre am y cynta’, Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’.”

Dyma ymadrodd oedd yn cael ei lafarganu gan blant y wlad i’w hatgoffa i fynd adre ar Noson Galan Gaeaf cyn gynted â phosib, rhag ofn i’r Hwch Ddu Gwta ddod ar eu holau! Yn ôl y sôn, byddai un o drigolion y pentref yn gwisgo fyny fel mochyn dychrynllyd er mwyn rhedeg ar ôl gweddill y pentref.

 

Bonfire
Organic Potatoes

Gweld i’r Dyfodol

Nid yw bob traddodiad yn codi ofn. Credai rhai, yn ystod cyfnod Calan Gaeaf, bod y ffin rhwng ein byd ni a byd y meirw yn denau a bod modd cymryd mantais o’r amser yma i weld i mewn i’r dyfodol.

Yn Sir Fynwy, roedd hen arfer o edrych i mewn i’r dyfodol, nid drwy ddefnyddio crystal ball fel yn y ffilmiau, ond yn hytrach drwy fwyta tatws. Ia, tatws! Roedd plât o datws, moron a chennin wedi eu stwnshio gyda pherlysiau yn cael ei baratoi a modrwy briodas yn cael ei gosod yn y canol. Yna, byddai pob unigolyn yn cael llwyaid o’r bwyd ac, os fasen nhw’n dod o hyd i’r fodrwy, yna fe fydden nhw’n priodi o fewn y flwyddyn.

Mae sawl arfer ‘edrych i mewn i’r dyfodol’ yn bodoli ym mhob cwr o Gymru ac roedd rhai yn credu fod modd cael breuddwydion oedd yn rhoi cipolwg o’r hyn oedd o’u blaenau!

 

Ysbrydion

Mae pawb yn gwybod fod ysbrydion yn gysylltiedig â Chalan Gaeaf ond, wyddost ti, fod y Cymry ers talwm yn credu fod ysbrydion yn cwrdd mewn mannau penodol? Eu cred oeddbod ysbrydion yn ymgynnull mewn mynwentydd, croesffyrdd ac ar gamfa ac felly roedd rhaid osgoi’r mannau hyn. Mae’r mynwentydd yn gwneud synnwyr, ond y ddau arall? Beth sydd mor ddeniadol am gamfa fod ysbrydion yn mynd yno? A beth maen nhw’n gwneud yno, sgwrsio am y tywydd? Beth bynnag, y dyddiau yma dydi osgoi camfa ddim yn her!

Rhaid dweud, mae rhai o’r hen arferion, fel cynnau coelcerth gyda ffrindiau a chael hwyl, yn syniadau braf. Mae rhai o’r traddodiadau yn weddol ryfedd a dydw i ddim yn hollol siŵr os ydw i eisiau gweld i’r dyfodol. Ond, mae un peth yn sicr; mae’n gyfle i fwynhau pethau da a melysion!

 

Forest Scene
bottom of page