top of page

Gyrfa ar Gynfas

Mae’r Cymry yn genedl greadigol tu hwnt. O ganu a pherfformio i ysgrifennu a chreu celf, mae diwylliant a’r celfyddydau reit ar ein stepen ddrws.

Un sydd wedi llwyddo i greu gyrfa hunan gyflogedig ym myd celf ydi Lisa Eurgain Taylor, sydd yn rhedeg galeri a stiwdio yng Nghei Llechi, Caernarfon. Wrth astudio yng Ngholeg Celf Wimbledon a breuddwydio am ei dyfodol, nid oedd Lisa yn dychmygu y byddai mynd ati i wneud bywoliaeth drwy gelf yn bosib.

“Hyd yn oed pan oeddwn i’n astudio Celf yn y coleg, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n dilyn gyrfa fel artist,” meddai. “Roedd yn freuddwyd llwyr a dwi’n ddiolchgar iawn o bob cyfle sydd wedi fy ngalluogi i fod yn artist llawn amser.”

Yn aml, y pethau sydd o’n cwmpas ni sydd yn ein siapio ni - o’r amgylchedd i’r bobl. Mae’n amlwg iawn mai mynyddoedd Eryri sy’n ysgogi dychymyg Lisa, gyda chasgliadau lu wedi eu selio ar y mynyddoedd hyn. Gyda lliwiau nefol a golygfeydd arallfydol, mae gwaith Lisa yn addurno ystafelloedd tai ar hyd y wlad. Yn ogystal ag ysbrydoliaeth o’i chynefin, mae yna bobl sydd hefyd wedi ysbrydoli Lisa i fynd amdani fel artist llawn amser.

 

“Roedd yna gwpwl ifanc o’r enw Marc a Madeleine Heaton yn byw i fyny’r lôn i mi pan oeddwn i’n tyfu fyny, oedd yn artistiaid llawn amser,” esboniodd Lisa. “Roedd y ddau yn dod draw reit aml a dwi’n cofio meddwl ‘Waw am cŵl, a braf arnyn nhw yn cael gwneud lluniau bob dydd’. Roedd yr artist Eirian Llwyd hefyd yn byw yn y pentref oedd yn fy helpu ac yn barod i rannu ei chyngor gyda mi, felly dwi’n siŵr bod y tri ohonyn nhw wedi cael dylanwad cryf arnaf ac wedi fy ysbrydoli i geisio gweithio yn y maes.”

Yn y byd sydd ohoni, nid dim ond creu gwaith celf sy’n rhaid i artist ei gyflawni. Mae marchnata, hyrwyddo a’r holl waith papur wedi dod yn rhan fawr o fywydau artistiaid, rhywbeth sydd yn anweledol i ni.

“Dwi bendant yn meddwl bod marchnata a’r gwaith admin o redeg busnes yn bwysig iawn ac yn bwysicach heddiw nac erioed. Mae pawb â’u pennau yn eu ffons dyddiau yma a dyna’r ffordd orau o ddal sylw pobl.  Mae bywyd mor brysur i bawb ac mae’n hawdd i fusnesau fynd o dan y radar, felly mae’n bwysig cadw i fyny efo’r marchnata, hel syniadau am sut i ddatblygu’r busnes a meddwl am y camau nesa o hyd. Mae’n dipyn o waith ond dwi’n rili mwynhau.”

 

Wrth fynd i drafod y cyfryngau cymdeithasol, un o’r manteision daeth i’r amlwg ydi fod gan ei chwsmeriaid y gallu i gysylltu’n hawdd - rhywbeth sydd yn newydd i artistiaid, yn wahanol i’r rhai a fu degawdau yn ôl!

“Mae cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn lot fawr o help i mi hyrwyddo fy ngwaith a chyrraedd cynulleidfa newydd. Mae hefyd yn ffordd dda o hybu darnau newydd neu ddigwyddiad ac yn gyfle i gwsmeriaid yrru neges a gofyn cwestiynau i chi. Mae hefyd yn ffordd dda o ddangos pwy ydi’r gwyneb tu ôl i’r busnes. Mae pobl leol yn hoffi gwybod gan bwy maen nhw’n prynu a dod i adnabod y person, felly mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o ddangos hynny hefyd.”

 

bottom of page