top of page
Celwydd a Chân
gyda Popeth a Local Rainbow

Efallai fyddi di’n gyfarwydd gyda’r artist Local Rainbow, wedi iddi ymddangos yng nghyfres newydd Y Llais gyda fersiwn Gymraeg o’r gân boblogaidd Good Luck, Babe! gan Chapell Roan. A fyddi di’n siŵr o fod yn gyfarwydd gyda Popeth, wedi ein herthygl sbel fach yn ôl yn trafod ei drac gyda Martha Davies. Wel, mae Local Rainbow, sef Rosie, wedi mynd ati i gyd-weithio gyda Popeth, sef Ynyr, yn trosi yn o’i chaneuon Saesneg i’r Gymraeg - y ddau wedi gwneud joban dda iawn arni, hefyd!
Gyda’r gân ‘Celwydd’ bellach ar gael i’w wrando, tybed sut brofiad oedd cyd-weithio ar y gân a sut fath o broses creadigol sydd gan Popeth?
Lysh Cymru: Fedrwch chi ddweud ychydig mwy am y gân newydd, ‘Celwydd’?
Ynyr Roberts: Roeddwn yn gyfarwydd ag ambell gân gan yr artist Local Rainbow (sef Rosie Reed), ac yn teimlo y byddai 'remix' bywiog o'i chân 'Rumour' yn gweithio'n dda. A thra buo ni yn gweithio ar y remix buo ni hefyd yn trafod y dyliwn ni gyd-sgwennu geiriau Cymraeg i'r gân, gan fod Rosie am wneud mwy o ganu yng Nghymraeg eleni.
Rosie Reed: Ysgrifennais y gân 'Rumour' pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd, yn yr ystafell gerddoriaeth lle roeddwn i'n arfer mynd pan oeddwn yn cael amser caled yn yr ysgol. Daeth y syniad o golli cyfeillgarwch a sut roeddwn i'n teimlo bryd hynny. Yna pan ddoth y cyfle i weithio efo Popeth i sgwennu fersiwn Gymraeg o'm cân - fe benderfynon ni ei galw yn 'Celwydd' a selio stori'r ar stori Cinderella yn mynd i'r 'rêf' a dod o hyd i'w hun a phwy ydi hi go iawn, a chefnu ar fywyd gwael!
LC: Mor hyfryd bod yr iaith wedi ysbrydoli cân newydd sbon! Ynyr, beth arall sy’n dy ysbrydoli di pan ti’n cyfansoddi caneuon?
YR: Mae ysbrydoliaeth i gyfansoddi yn dod bob sut! Gall fod yn frawddeg, neu air mae rhywun yn ei ddweud, yn fy sbarduno i gyfansoddi - neu weithiau pan mae 'na alaw yn dod i'm mhen, dwi'n ceisio ei recordio ar fy ffôn neu ar y cyfrifiadur ac mae'r gân yn tyfu wrth i mi arbrofi gyda'r alaw. Ond y prif beth sy'n fy ngyrru i fod yn gynhyrchiol, yw fy mod yn ceisio gwneud rhywbeth newydd a gwahanol gyda phob cân dwi'n ei ryddhau.


LC: Beth amdanat ti, Rosie? Oes gen ti artistiaid sy’n dy ysbrydoli di?
R: Dwi'n ysgrifennu am brofiadau sy’n bersonol i mi... fel fy siwrnai iechyd meddwl, bod yn Queer, Awtistig a sôn am berthynas. Yr holl brofiadau bywyd hyn yw prif gynsail fy nghyfansoddiad caneuon a fy syniadau. Mae gen i gasgliad amrywiol o gerddoriaeth rydw i wrth fy modd yn gwrando arno, ond fy ysbrydoliaeth fwyaf yw David Bowie, Chappell Roan a Kate Bush.
LC: Ynyr, rwyt ti’n gweithio gyda chymaint o artistiaid gwahanol ar dy draciau. Sut brofiad ydi hynny? A beth sy’n dod gyntaf, syniad am gân neu syniad am ba artist fysa ti’n licio cyd-weithio gyda?
YR: Fel arfer... Y gân sy'n dod yn gyntaf - ac yna wrth nesu at orffen y gân - byddaf yn chwilio am rywun i'w chanu. Ond gyda 'Celwydd' roedd y drefn yn wahanol, gan mai Rosie wnaeth gyfansoddi'r gân a finnau efo 'job' hawdd o ddehongli ei chân 'acwstig' hi mewn cân disco-pop!
LC: Beth amdanat ti, Rosie? Sut brofiad oedd gweithio gyda phrosiect Popeth?
RR: Dyma fy 'collab' gyntaf, ac... ydw... Dwi wedi mwynhau cydweithio gydag Ynyr o Popeth yn arw. Dwi wrth fy modd gyda'i egni a’i gyffro am bopeth rydym yn ei wneud ac mae’r traciau’n swnio’n anhygoel.
LC: Beth am y dyfodol... Oes caneuon newydd ar y gweill?
RR: Fy ngobeithion yw parhau i weithio ar ganeuon Cymraeg a chydweithio gydag Ynyr, Popeth a throsi rhai o fy nghaneuon gwreiddiol eraill i'r Gymraeg, i hyrwyddo'r Gymraeg ymhellach. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hyrwyddo creu mannau diogel i bobl gydag Awtistiaeth mewn lleoliadau gig - sy'n rhywbeth nad yw ar gael yn rhwydd ym mhob lleoliad.
bottom of page