top of page

Adloniant | Popeth, a Gweld y ‘Golau’

Adloniant | Popeth, a Gweld y ‘Golau’

Mae gan bob cân neges. Mae gan bob cân rhywbeth pwysig i’w ddweud. Dyna pam mae pobl yn cyfansoddi!

Yng nghân newydd prosiect Popeth, sy’n cynhyrchu caneuon Pop Cymraeg, mae’r cerddorion yn ceisio torri’n rhydd o’r negeseuon traddodiadol Pop o gariad a thor-calon. Yn hytrach, mae’r gân newydd ‘Golau’ yn canolbwyntio ar gariad at ein hunain.

Ynyr Roberts sy’n gyfrifol am brosiect Popeth, ac mae’n hen law ar gyfansoddi caneuon Pop gyda phortffolio enfawr o ganeuon wedi ei gyfansoddi ar gyfer cewri Pop Cymraeg, fel Pheena! Gyda Popeth, mae Ynyr yn dychwelyd i fyd pop ac yn canolbwyntio ar gyd-weithio gydag artistiaid gwahanol, y newydd a’r profiadol, a gyda’r gân gyntaf, sef ‘Golau’, llais Martha Davies sy’n serennu.

“Y peth sy’n bwysig i’r prosiect yma ydi fy mod i’n cyd-weithio efo pobl er mwyn cael egni newydd ym mhob cân,” esbonia Ynyr. “Gan fy mod i wedi cyfansoddi gymaint o ganeuon dros y blynyddoedd, mae’n neis gweithio efo pobl wahanol oherwydd ti’n cael rhyw sŵn gwahanol sy’n helpu gwneud rhywbeth yn ffres.”

A’r unigolyn sy’n gyfrifol am yr egni ffres yng nghân ‘Golau’ ydi Martha o Gaerdydd, cantores ifanc gyda dawn gerddorol naturiol.

“Roedd gweithio gydag Ynyr a chyd-weithio ar lefel proffesiynol am y tro cyntaf erioed yn brofiad anhygoel iawn,” sonia Martha.

Ysbrydoliaeth

Nid cyfrinach yw’r ffaith fod Ynyr yn ffan fawr o gerddoriaeth pop a bwriad Ynyr oedd dod a’r genre yn ôl at ei wreiddiau pop yn y Gymraeg.

“Yn y Gymraeg, mae yna lot o gerddoriaeth ysgafn a dwi’n teimlo ein bod ni mor lwcus efo’r sin gerddoriaeth yng Nghymru oherwydd mae yna lot fawr o amrywiaeth. Er hynny, mae lot o fiwsig yn rhoi pwyslais ar y gitâr,” dywed Ynyr. “Oeddwn i eisiau creu rhywbeth oedd yn anelu fwy at electro-pop, efallai fel cerddoriaeth Dua Lipa, y math yna o sŵn a dyma sut wnaeth o ddechrau, i ddweud y gwir. Oeddwn i’n gwrando ar lot o gerddoriaeth fel hyn ac yn sylweddoli nad oedd llawer o’r math yma o fiwsig yn y Gymraeg.”

Er mwyn cael mewnwelediad i’r math o ganeuon oedd yn ysbrydoliaeth wrth greu ‘Golau’, cliciwch ar y linc yma i wrando ar y playlist:

Neges bwysig

Mae ‘Golau’ yn fwy na chân bop arferol. Mae’r gân yn cario neges bwysig, meddai Ynyr.

“Mae hi’n gan bositif. Mae o’n gân am fod yn falch o bwy wyt ti a gwneud y gorau o fywyd.”

Gyda neges gyfoes sy’n hynod o bwysig i genhedlaeth ifanc ein byd, creda Ynyr mai Martha oedd yr un perffaith i’w chanu ac eglurodd Martha beth roedd hi’n feddwl am y thema.

“Mae neges y gân yn bwysig iawn, yn enwedig ar gyfer fy nghenhedlaeth i,” meddai, yn llawn balchder mai hi sy’n lleddfu’r neges bwysig honno.

“Mae’n rhoi sicrwydd i bobl ifanc i roi gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a bod yna olau ar ddiwedd y twnnel!”

Er iddi fod yn neges bwysig, mae’n neges sydd yn brin pan mae’n dod at ganeuon y genre pop. Er bod yna ambell i diwn sy’n clodfori cariad at ein hunain, mae yna brinder llethol ac mae’r genre pop fel arfer yn rhoi llwyfan i ganeuon serch a thor calon.

Holodd Lysh Nia Davies, mam Martha, i wybod os fyddai hi wedi hoffi caneuon sy’n rhannu’r fath neges bositif am garu’n hunain pan oedd hi’n ei harddegau.

“Bydden i wedi bod wrth fy modd yn cael cân fel ‘Golau’ pan oeddwn i’n ifanc. Dwi’n meddwl bod y geiriau yn bwysig ac yn addas iawn, yn enwedig ar ôl yr her mae pobl ifanc a phawb wedi bod drwyddi dros y ddwy flynedd diwethaf,” eglura.

“Dwi’n gobeithio os oes rhywun yn teimlo’n isel neu jyst yn cael diwrnod diflas, bydd rhoi'r gân yma ymlaen yn codi eu hysbryd a byddan nhw’n gwybod bod ‘na ddiwrnodau gwell i ddod, bod ‘na olau!”

Beth nesaf?

Wrth i ‘Golau’ deithio ar hyd y wlad yn lleddfu’r feibs hafaidd, tybed beth sydd ar y gweill i’r crewyr cerddorol?

I Martha, rhagor o fiwsig ydi’r llwybr o’i dewis.

“Dwi wrth fy modd yn canu caneuon Pop ond dwi hefyd yn caru genres Sioe Gerdd, Jazz... llawer mwy! Dwi’n gobeithio gallu arbrofi ychydig bach mwy gyda’r genres yma dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.

“Dwi’n gobeithio mynd i ysgol ddrama ar ôl cymryd blwyddyn allan, datblygu fy sgiliau cerddorol a chyfansoddi ac efallai, yn y dyfodol, mi fyddai’n gallu cyd-weithio gyda Ynyr eto a rhyddhau caneuon fy hun!”

Yn ôl y si, mae caneuon newydd ar y gweill gyda sawl wyneb cyfarwydd, fel Kizzy Crawford a Shamoniks yn ogystal â chyflwyniad i artist newydd Lewis Owen. Cadwch lygad allan ar dudalennau cymdeithasol Popeth er mwyn dilyn unrhyw newydd a gwybod yn syth pan fydd cân newydd yn cael ei ryddhau!

Adloniant | Popeth, a Gweld y ‘Golau’
bottom of page