top of page

Aur yw Popeth Disglair

3.Clawr-Disglair-LOWRES-WebOnly.jpg

Dyma ddechrau gwych i'r haf a'r holl dripiau yn y car - cân newydd sbon i'w ychwanegu i'r rhestr chwarae!

Byddi di'n siŵr o fod wedi dod ar draws Popeth, neu Ynys Roberts, wrth ymweld â gwyliau mwyaf y wlad. O'r Eisteddfod i Tafwyl, mae tiwns i'w fwynhau ym mhobman! Os nad 'da chi'n gyfarwydd gyda Popeth, mae un peth sy'n arbennig amdano. Hynny yw, dydi o prin byth ar ben ei hun!

Efallai y byddwch chi'n cofio
darllen am Popeth yn cydweithio gyda Martha Grug a Local Rainbow ar wefan Lysh sbel yn ôl. Mae'r DJ bellach wedi mynd ymlaen i ychwanegu mwy o leisiau i'w draciau, gan gynnwys Sara Owen! Nawr, llais Hanna Seirian sy'n serennu ar y traciau diweddaraf.

Wythnos diwethaf, rhyddhawyd albwm newydd, sef Disglair. Mae'r albwm yn cynnwys traciau eiconig Popeth, fel Celwydd a Diva. I ddweud y gwir, does dim rhaid i chi gydlynu rhestr chwarae ar gyfer taith hir yn y car neu i'w fwynhau ger glan y môr - mae'r albwm yma yn barod i chdi gyda'r holl vibes y byddwch chi angen!

 

Ar y traciau mwyaf diweddar sydd ar yr albwm mae llais arbennig Hanna Seirian o Flaenau Ffestiniog. Hi sydd yn canu 'Rebel Heb Achos' a 'Melys', heb anghofio ei chyfraniad fel llais cefndir ar y gân 'Gad Iddi Fynd'.

Mae'n bosib nad dyma'r tro cyntaf i chi ei chlywed! Roedd Hanna ar dîm Bronwen Lewis (ar ôl i'r beirniaid i gyd troi eu cadeiriau i geisio ei bachu!) ar gyfres gyntaf Y Llais ac mae hi eisoes wedi rhyddhau trac ei hun - er mae naws traciau Popeth yn fwy, wel, pop!

“Fyswn i’n disgrifio fy steil gerddorol fel indie-pop ballads,” meddai. “Cyn i mi weithio hefo Ynyr, do’n i erioed wedi canu ar drac synth-pop o’r blaen felly roedd o’n rhywbeth newydd a chyffrous! Mae o wedi bod mor lyfli cydweithio hefo rhywun am y tro cyntaf yn gwneud rhywbeth mor wahanol i’r arfer (a bob amser neis gweithio hefo gog arall!). Fel arfer mae 'ngherddoriaeth i yn eithaf emosiynol felly mae cael cydweithio hefo Ynyr yn siawns i fi gael canu ar drac hwyl a bywiog. Mae’n gyferbyniad da -  i grio gwrandwch ar ‘Cysur’, i ddawnsio gwrandwch ar ‘Melys’!”

 

HannaSeirian-portrait 3.jpg
Popeth-CD-SQ.jpg

Er bod eu steiliau mor wahanol, mae gan Hanna ac Ynyr un peth yn debyg, sef adnabod pwysigrwydd cydweithio mewn maes creadigol. “Mae cydweithio yn holl bwysig i greu cerddoriaeth yn sicr,” eglurai. “Pan ti’n meddwl am gerddorfa mae angen i bob un chwarae’u rhan a dwi jest yn falch cael rhoi fy llais i chwarae’r rhan yma!”

Y tu hwnt i brosiectau Popeth, mae yna lu o artistiaid eraill wedi ysbrydoli Hanna ar ei thaith gerddorol. “O ran ysbrydoliaeth i fi, mae fy mlas i yn eithaf eang, o fiwsig Cymraeg fel Buddug achos o naws ei chaneuon hi,” dywedai. “Dwi’n rili hoff o Ffatri Jam hefyd, yn enwedig ‘Dal dy Afael’, ond fel rhywun sy’n dod o Blaenau mae’n rhaid rhoi mensh i Anweledig ac i Yws Gwynedd. Maen nhw’n esiampl o bobl o’r ardal sydd ‘di fy ysbrydoli i allu mynd amdani.”

“Fydda i’n chwarae yn Sesiwn Fawr hefo Popeth ar yr 18fed o Orffennaf ac mae hynny’n gyffrous i wneud am y tro cyntaf. Dwi’n gobeithio gallu mynd yn ôl i’r stiwdio i allu cynhyrchu mwy o ganeuon newydd yn fuan felly gwyliwch y gofod!”

 

bottom of page