top of page

Ysbryd-ffrind

Messaging

Mae'n siŵr dy fod wedi clywed am y term ghosting. Oes term Cymraeg? Ysbrydio, efallai? Beth bynnag, dyma'r gair sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pan mae gan berson ddiddordeb rhamantaidd mewn rhywun arall, ond yn sydyn reit yn diflannu heb daro gair - un munud roeddwch chi'n rhannu negeseuon, y munud nesaf mae'r blwch neges yn wag, fel tasa nhw’n ysbryd wedi diflannu! Dyna yw'r ystyr gwreiddiol, beth bynnag, ond mae ghosting hefyd yn gallu digwydd mewn perthynas gyda ffrindiau - ac mae o'n brifo cymaint. Yn dilyn cael dy ‘ysbrydio’ gan dy ffrind, mae cwestiynau yn cael eu gofyn drosodd a drosodd; pam, sut, a beth yn y byd ddigwyddodd?!

Pam fod colli ffrind yn ddistaw, heb siw na miw, yn brifo? Os nad oes ffrae fawr wedi bod, anodd iawn yw ceisio dod o hyd i reswm am y distawrwydd. Weithiau, mae dau berson yn tyfu ar wahân ac mae misoedd, os nad blynyddoedd, yn mynd heibio heb sylwi nad ydach chi'n ffrindiau bellach. Ond, dro arall, bydd ffrind yn diflannu, yn dy adael di'n sydyn heb eglurhad. Mae colli ffrind agos yn brofiad yr un mor gas â cholli cariad ac felly mae ymdopi gyda’r golled yn yr un modd yn gallu bod o gymorth.

 

Pam fod rhywun yn diflannu heb ddweud gair? Mae'n debyg fod sawl rheswm posib, ond efallai doedd un ffrind ddim eisiau brifo'r llall. Efallai fod un ffrind yn teimlo eu hunain yn tyfu ar wahân i'r llall, yn darganfod diddordebau newydd ac yn treulio mwy o amser gyda phobl wahanol. Efallai nad ydyn nhw eisiau sgwrsio am y teimlad o dyfu ar wahân oddi wrth ffrind annwyl. Neu, efallai, fod yr un sydd yn dy ghostio di yn meddwl dy fod yn gwybod y rheswm dros y diffyg cysylltu, heb sylweddoli dy fod ddim callach. Mae’n hollol bosib nad ydi’r unigolyn wedi sylweddoli eu bod nhw wedi diflannu o dy fywyd di ac mae'n bosib nad wyt ti wedi gwneud dim o'i le ac nid dy fai di ydi hyn o gwbl!

Sut mae ymdopi gyda colli ffrind? Wel, ei drin yn union fel colli perthynas gydag unrhyw un arall. Mae'n brofiad poenus, yn arbennig os ydi'r cyfeillgarwch wedi para blynyddoedd a thrwy gyfnodau heriol, ac mae dy deimladau yn hollol ddilys. Dwyt ti ddim yn gor-ymateb, rwyt ti'n brifo ac mae hynny'n normal. Mae mynegi dy hun yn bwysig felly paid â chadw bob dim i ti dy hun. Er, os wyt ti wedi colli dy ffrind agosaf un, gyda phwy wyt ti’n mynd i siarad?! Tybed, oes gen ti aelod o dy deulu all fod yn glust? Efallai eu bod nhw wedi bod trwy brofiad tebyg. Wedi’r cwbl, nid ti yw’r person cyntaf i golli cysylltiad gyda ffrind, ac nid ti fydd yr olaf!

​

"Sut mae ymdopi gyda colli ffrind? Wel, ei drin yn union fel colli perthynas gydag unrhyw un arall."
 

Sad on Couch

Stryglo'n gweld posts dy gyn-ffrind ar y socials? Ystyria dad-ddilyn neu hyd yn oed mudo eu cyfrif fel nad wyt ti'n gweld beth maen nhw’n eu rannu - dwyt ti ddim angen cael dy atgoffa yn gyson am dy hen ffrind, ac mae pawb yn gwybod pa mor wenwynig ydi cymharu dy fywyd gydag eraill ar y cyfryngau cymdeithasol!

Y prif beth i gofio ydi, mae colli ffrind yn brifo, ac yn brifo’n waeth pan mae rhywun yn diflannu heb eglurhad. Bydd yn garedig â thi dy hun a rho amser i dy hun i brosesu bob un teimlad - a phaid ag ‘ysbrydio’ neb arall dy hun!

 

bottom of page