top of page

Yr Haf Gorau Erioed

Beach

Reit, dyma fo. Yr haf. Y cyfnod hollbwysig ti wedi bod yn edrych ymlaen at ers oes pys! Ti wedi gweithio’n tu hwnt o galed dros y misoedd diwethaf, a’r unig beth sydd wedi cadw ti fynd ydi’r syniad o ymlacio, joio a’r haf gorau erioed.

Ond, rŵan bod yr haf wedi’n cyrraedd ni... Beth os nad hwn fydd yr haf gorau erioed? Beth os bydd planiau yn mynd i’r gweill, nosweithiau allan yn cael eu canslo neu, yn waeth fyth, beth os bydd hi’n glawio nes yr hydref?!

Cyn i ti fynd yn wan gyda’r pwysau o drefnu’r haf gorau erioed, beth am i ni edrych ar yr elfennau craidd sy’n gwneud haf yn un gwerth ei gofio, sef Rhyddid, Joio ac Atgofion!

 

Rhyddid

Dyma sy’n gwneud i’r haf sefyll allan i gymharu efo’r tymhorau eraill. Mae gen ti llawer iawn fwy o amser i wneud pethau ti eisiau. Eisiau cysgu mewn? Grêt! Eisiau mynd am dro i weld yr haul yn codi am wirion o’r gloch? Pam lai? Mae gen ti ryddid i drefnu gweithgareddau lu, neu ryddid i beidio â threfnu dim byd a dilyn dy drwyn.

Efallai y byddi di’n teimlo dy fod wedi “colli” elfen ohonot ti dy hun ar ôl yr holl waith caled, neu wedi esgeuluso hunan ofal er mwyn cyflawni prosiect addysg neu waith. Wel, dyma gyfle euraidd a’r rhyddid i ail-gysylltu gyda thi dy hun a rhoi dy hun yn gyntaf unwaith eto.


Joio

Elfen amlwg, heb os. Ond rhaid cofio bod “joio” yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Efallai bod “joio” i rai yn golygu padl fyrddio a gwylio’r machlud cyn dychwelyd i’r traeth am siocled poeth, ond i eraill mae hynny’n bell iawn o fod yn noson bleserus. Oes, mae’n bwysig trio pethau newydd weithiau a mynd y tÅ· hwnt i dy fan diogel, ond dydi pawb ddim yn joio yr un pethau... ac mae hynny’n iawn.​

​

Paddleboarding
Travel Polaroids

Does dim rhaid i ti aros am neb arall i fynd ati i joio chwaith, cofia. Os oes gen ti awydd mawr i fynd i barc rollercoasters neu fynd i’r sinema, oes rhaid i ti aros am ffrindiau i ddod gyda ti? Mae’n gallu bod yn syniad od i fynd ati i wneud yr hyn sydd fel arfer yn cael ei wneud yng nghwmni eraill, ond efallai os byddi di’n aros am eraill, yna disgwyl byddi di am oes! Cer draw i ddarllen darn Elen Jones a chymera olwg ar ei chyfrifon cymdeithasol er mwyn darganfod mwy o syniadau am weithgareddau.

Atgofion

Paid â phoeni gormod am wneud atgofion. Ocê, rwyt ti’n siŵr o weld lluniau o eraill ar y cyfryngau cymdeithasol gyda caption “Gwneud atgofion” a sawl emoji hafaidd, a hawdd iawn yw cymharu hyn gyda dy fywyd ti dy hun. Does dim bwys faint o sbri wyt ti’n cael, mae wastad rhywun yn cael fwy o hwyl, does? Y gwir amdani ydi, cyn belled a bo ti’n wirioneddol mwynhau dy haf di, yn dy ffordd ti dy hun, byddi di’n edrych yn ôl gydag atgofion melys tu hwnt. Wedi’r cyfan, dy haf di yw hon.
 

bottom of page