top of page

Ymgolli’n yr Ysgrifennu

Holi Kayley Roberts

Tybed, oes gen ti hoff genre o lyfrau? Boed hynny’n llyfrau dirgel neu antur, rhamant neu barddoniaeth, mae yna lyfr i siwtio bawb yn ôl y sôn!

Ond, beth sy’n digwydd pan wyt ti’n mwynhau genre penodol gymaint, cyn sylweddoli nad oes digon o lyfrau Cymraeg ar gael? Wel, ysgrifennu un dy hun, wrth gwrs! Dyma’n union oedd profiad yr awdur Kayley Roberts wrth fynd ati i ysgrifennu Lladd Arth ac mae Lysh wedi bod yn ei holi am y nofel a mwy.

 

1c6590b7-88a6-49d7-be16-121561670133.jpg

Lysh Cymru: O le ddath y syniad i ti o’r nofel Lladd Arth?

Kayley Roberts: Cwestiwn da! O le mae syniadau yn dod? Mae’n eithaf anodd hoelio’r peth lawr, i ddeud y gwir. Dwi’n meddwl fod o’n gyfuniad o nifer o bethau. Ar y pryd, mi oeddwn i’n gwylio lot o raglenni fel The Wilds a Yellowjackets, am griw o ferched ar ynysoedd pellennig. Roedd y syniad o arth wedi dod i’m mhen. Pa fath o berson fysa’n medru lladd un a sut fysa hynny’n ei effeithio nhw - dyma oedd prif destun o’r nofel yn wreiddiol, ond, fel mae’r darllenwyr yn gwybod erbyn hyn, tydi o ddim yn rhan o’r nofel bellac - dim ond y teitl sydd wedi sticio! I gychwyn, dim ond un prif gymeriad oedd yna a dyn oedd o ac roedd o am fynd i fyw ar ynys ben ei hun, ond bod o’n sylwi fod 'na arth yna hefyd. Wedyn, nes i benderfynu na dynes ddylsa fod y prif gymeriad, ac erbyn y diwedd mae 'na griw o 5. Hefyd nes i roi o ar ynys yn yr Arctig fel bod o ddim rhy debyg i’r rhaglenni uchod, a bod y 5 yn oedolion a ddim yn harddegwyr. Ac wrth gwrs, mae yna eirth yn yr Arctig, ag roedd o’n bwysig fod yna siawns o weld arth.

Mae yna rhai wedi ei gymharu i Annihilation gan Jeff VanderMeer. Dwi’n dallt pam, ond tydw i heb ddarllen hwnnw eto felly dwi’n meddwl bydd rhaid i fi neud! Roedd o’n bwysig i fi fod o’n nofel Gymraeg, er bod y cymeriadau ddim wir yn siarad Cymraeg efo’i gilydd a tydi o heb ei leoli yng Nghymru, felly doedd yna ddim rheswm iddo fod yn y Gymraeg, heblaw mod i isio ychwanegu at ein diwylliant mewn rhyw ffordd fach! A bod o’n bach o adloniant a rhywbeth rhyfedd a wahanol, ddim yn llenyddol o angenrheidrwydd, ac yn hygyrch i nifer o ddarllenwyr sydd ella heb ddarllen nofel yn y Gymraeg o’r blaen.

 

LC: Wyt ti'n mwynhau darllen y math yma o nofelau dy hun, neu oedd hwn yn genre newydd i ti archwilio?

KR: Yndw, dyma’r union y math o beth dwi’n ei fwynhau, a rhywbeth dwi’n teimlo nad oes ddigon ohono yn y Gymraeg. Felly dwi’n gobeithio fod hyn yn dangos i unrhyw nofelydd newydd bod ganddynt hawl i sgwennu yn arddull eu hunain, am bethau maen nhw’n mwynhau, heb boeni am sut mae darllenwyr am ymateb, oherwydd hyd yma mae’r ymateb wedi bod mor gefnogol a dwi’n wir ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd yr amser i ddarllen, adolygu, a rhannu am Ladd Arth, ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefannau fel Goodreads a Storygraph.


Mae yna sawl haen i’r nofel, ac ambell i
easter egg, a dwi’n gweld pobol yn dechrau darganfod a thrafod y rhain, sydd yn neud fi mor hapus! Dwi wedi creu unreliable narator efo Nia, felly mae’n adio rhywbeth ychwanegol i unrhyw ddarlleniad o’r nofel, a dwi yn annog pobol i’w darllen hi dwywaith, oherwydd fydd y pethau bach dwi wedi eu cuddio, neu’r haenau ychwanegol, yn fwy amlwg ar ail neu trydydd darlleniad. Roedd yn bwysig i fi hefyd, am fod o wedi ei sgwennu yn llais y person gyntaf, fod y cymeriad anneuaidd ddim yn adrodd y stori, neu bysa na ddim ffordd i ddefnyddio’u rhagenwau nhw ac felly ddim yn amlwg eu bod nhw’n anneuaidd. Roedd o’n bwysig i fi fod y defnydd o’r rhagenw ‘nhw’ yn cael ei bwysleisio a’i normaleiddio, ac mewn gwirionedd mae’r 5 cymeriad ar yr ynys i gyd yr un mor haeddiannol o’r teitl ‘prif gymeriad’. Choose your fighter!
 

9442ba04-06d1-4b0b-abc7-8e1169157051.jpg
37be92bf-603d-4562-901c-45493e541fc0.jpg

LC: Sut brofiad oedd o i ysgrifennu nofel? Mae o'n gallu bod yn rhywbeth reit bersonol ar ol gweithio ar rywbeth am cyn gymaint o amser dydi, oedd hynny yn rywbeth oedda ti'n boeni am neu o ti'n edrych ymlaen i bobl fwynhau dy waith?

KR: Nes i fwynhau sgwennu ac ymgolli ym myd y nofel, a dod i nabod y cymeriadau, yn fawr iawn. Rhywbeth hwyl i fi oedd hi i gychwyn. Doeddwn i ddim wedi bwriadu ei gyrru hi i’r wasg o gwbl, i fod yn hollol onast. Fyswn i’n cynnig i ffrindiau ei ddarllen weithiau, ac roeddwn i’n falch o fod wedi sgwennu nofel, ond doeddwn i ddim yn meddwl bysa fo’n rhywbeth fysa’n medru cael ei gyhoeddi. Ar brosiect Kathod yn Nhŷ Newydd, sef encil i fenywod a phobol anneuaidd i greu a chyfuno cerddoriaeth a cherddi llafar, roedd Llio Maddocks wedi fy annog i’w yrru i’r Lolfa, felly dyma fi’n neud oherwydd bod hi’n mynnu, a dwi’n meddwl os fysa ni heb gael y sgwrs yna, fysa’r nofel dal yn ista ar y laptop genna’i! Ond, dwi mor falch ac mor ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi i gyrraedd y pwynt yma, ac os oes yna hyd yn oed un person yn gweld eu hunain yn y nofel, neu’n teimlo eu bod nhw’n fwy hyderus yn darllen yn y Gymraeg, neu wedi mwynhau ac yn caru’r nofel, wel, fedra’i ddim gofyn am fwy na hynny!

 

LC: Oes yna lyfrau neu awduron sydd yn dy ysbrydoli di?

KR: Mae 'na nifer o lyfrau ac awduron sy’n fy ysbrydoli. Dwi’n teimlo’n gryf fod bob un llyfr dwi erioed wedi darllen wedi fy nylanwadu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Fy hoff awdur ydi Robin Hobb, sydd wedi sgwennu cyfres o 16 nofel ffantasi, ac os oes rhywun allan yna eisiau cyfres i lwyr ymgolli ynddo, hon ydi’r un, yn sicr.

Yn y Gymraeg mae ganddom ni gymaint o awduron ysbrydoledig, gan gynnwys Gwenno Gwilym, Llŷr Titus, Gareth Evans-Jones, Megan Angharad Hunter, Peredur Glyn, Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, Llwyd Owen... mae’r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen, ond mae yna bob tro le i awduron newydd, a straeon newydd, yn fy marn i. A sut fedra’i beidio son am fy hoff awdur - Islwyn Ffowc Elis! Roedd o’n sgwennu sci-fi a ffantasi yn ôl yn y 1960au, yn ogystal â chlasuron fel Cysgod y Cryman. Icon, lejand, versatile king!


LC: Oes gen ti lyfr fysa ti'n licio ddarllen o'r cychwyn am y tro cyntaf eto?

KR: Llyfrau Robin Hobb, heb os. Dwi wedi ail-ddarllen y gyfres, a chael gymaint o fwynhad yn ail-ddarganfod pethau a sylwi ar bethau newydd. A Little Life gan Hanya Yanagihara, dwi erioed di crio gymaint o weithiau mewn un llyfr! I ddeud y gwir, fyswn i’n licio darllen Lladd Arth am y tro cyntaf, fel darllenydd a nid yr awdur, i weld sut beth ydi hi o’r tu allan!

 

7685bf6b-71bc-4cd6-ba19-ee10eb8d5a9f.jpg

LC: Pa mor bwysig wyt ti'n meddwl ydi darllen ar gyfer iechyd meddwl?

KR: Pwysig iawn, iawn, yn enwedig i ddysgu empathi. Erbyn i fi gyrraedd fy arddegau, mi roeddwn i wedi byw sawl bywyd, ac wedi dysgu gymaint am fod yn berson, a dwi’n meddwl dyna’r unig ffordd i ni gerdded yn sgidia rhywun arall mewn difri. Dim gwylio reels neu tiktoks amdanynt, ond i fyw eu bywydau nhw, drwy’r llyfr. Mae’n dysgu ni nad ydan ni ar ben ein hunain, mae rhai o’r cymeriadau dwi wedi cwrdd ar hyd y blynyddoedd wedi aros efo fi ar hyd fy oes, am fy mod i’n gweld fy hun ynddyn nhw. Fyswn i’n caru sgwennu nofel sy’n medru neud hyny, i ddangos i bobol, yn enwedig merched ifanc - a rhai mewn oed, i ddeud y gwir - eu bod nhw ddim ar ben eu hynain.

--

Mae Lladd Arth ar gael yn eich siop lyfrau lleol ac, os yda chi awydd llyfr arbennig wedi ei arwyddo gan Kayley yna mae copiau ar gael yn siop Palas Print, Caernarfon, neu ar eu gwefan.

bottom of page