top of page

Ydi hyn yn “normal”?

gan Begw Fussell

Begw llun.jpg

Mae bod yn fenyw yn gallu fod yn uffern - yn enwedig pan mae'r mislif yn dod. Os wyt ti unrhyw beth fel fi, yr unig gyngor ges i ym mlwyddyn 6 oedd; “Chi yn mynd i waedu unwaith y mis, ond mae pob merch yn mynd trwyddo felly byddi di'n hollol iawn. O, a paid defnyddio tampons, mae ei defnyddio’n anghywir yn gallu arwain at farwolaeth”. And that was it. Y gwir amdani yw bod 1 mewn 4 o ferched yn profi anomaleddau yn ei mislif, felly nid yw pawb yn hollol iawn wedi’r cwbl. Ar ôl i mi frwydro am flynyddoedd am ddiagnosis endometriosis, dyma fy nghyngor gorau i chi.

Mae GYMAINT o stigma dal i fod am y pwnc yma. Mae’r stereoteip bod angen i fenywod fod yn feddyliol gryf yn dal i fodoli a bechgyn dal i neud hwyl am ein pennau. Ond un peth sydd dal ddim yn cael ei addysgu’n ddigon da i fenywod yw’r anomaleddau yn ystod y mislif. Mae’n hefyd bwysig iawn nodi cyn dechra nad oes un mislif yr un peth ac mae pob menyw yn wahanol. Ti yw person dy hun.

 

Beth sydd ddim yn normal?

Ocê, mae poen misol yn normal. Mae’r rhan fwyaf o fenywod yn cael cramps. Mae gan bawb eu “normal” eu hunain, ond ni ddylid unrhyw fenyw gorfod newid tampon neu bad bob awr yn gyson, colli clotiau mawr o waed a byw trwy boen sydd yn atal chi fynd i’r gwaith na gwneud tasgau bob dydd. NID yw hyn yn normal.

🚩 Poen wrth gael rhyw a phoen a gwaedu ar ôl rhyw

Roeddwn i yn bersonol wedi anwybyddu’r symptom hyn am flynyddoedd, roeddwn yn llawn embaras, teimlo fel babi ag yn pathetic bob tro roeddwn yn meddwl bod hyn yn broblem. Mewn gwirionedd, dyma’r red flag mwyaf i fi. Nid yw hyn yn normal o gwbl!
 

pink-menstrual-cup-in-box-1560288.jpg
Bathroom Tile Floor

🚩 Newidiadau i arferion mynd i’r tŷ bach

Mae gymaint o bwyse ar fenywod i ofalu am ei deiet fel mae ac felly roeddwn i yn meddwl roedd fy newidiadau mewn arferion tŷ bach i gyd lawr i beth oeddwn yn bwyta ond y gwir oedd, roedd endometriosis wedi dechrau rheoli fy ngholuddyn a bladder ac yn gwneud mynd i’r tŷ bach yn dasg uffernol o boenus. Nid yw hyn yn normal o gwbl!

🚩 Blinder parhaus

Os ydych yn profi blinder parhaus a diffyg egni, nid yw hyn yn meddwl eich bod yn ddiog. Mae hyn yn un o’r ffyrdd mae dy gorff yn trio dal eich sylw i ddweud wrthot ti bod angen ymlacio, slow down a gofyn am help. Mae blinder sydd yn para misoedd, colli pwysau, edrychiad gwelw a gwaedu trwm yn gallu fod yn graidd i lawer o broblemau. Nid yw blinder parhaus gydag un o’r symptomau hyn yn normal o gwbwl!
 

Os wyt ti wedi profi poen yn ystod neu ar ôl rhyw, newidiadau i arferion tŷ bach yn ystod eich mislif (neu unrhyw adeg y mis) neu yn profi blinder parhaus yna plîs cer i weld dy Feddyg Teulu. Os oes rhywbeth yn teimlo’n anghywir i ti - mae’n ddigon o reswm i ofyn am gymorth. Mae gofyn am help yn gryfder, dim gwendid. Nid oes neb yn mynd i dy farnu di. Y gwir yw, y mwyaf chi’n dechrau trafod eich symptomau, y mwyaf o bobl bydd yn cynnig cefnogaeth!

Y pethau gorau i wneud yw cadw dyddiadur gyda’r holl symptomau misol. Gallai hyn fod ar bapur neu ar ap, hyd yn oed. Gyda dy symptomau yn barod i’w rannu, mae’n sicrhau dy fod yn gallu gwneud y mwyaf o’r amser gyda’r Doctor fel eu bod nhw yn cael y mewnwelediad gorau i’ch patrymau mislifol. Gwna’n yn siŵr i ddweud popeth wrthynt, hefyd - does dim byd yn wirion a phwy â ŵyr beth all fod yn berthnasol!

A plîs bydd yn garedig i ti dy hun. Mae bod yn fenyw yn ddigon anodd ond hefyd, mae 'na ddigon o fenywod arall yn yr un cwch a ti. Ti sydd yn adnabod dy gorff di yn well ‘na neb.

Pharmacy Shelf Stock
bottom of page