top of page

Y Twyllwr

Stressed Office Woman

Wyt ti erioed wedi gweithio'n galed er mwyn cyrraedd nod, boed yn arholiad neu'n dy swydd ddelfrydol, ond pan wyt ti'n cyrraedd o'r diwedd yn teimlo fel dy fod wedi twyllo a ddim yn ddigon da? Helo, Imposter Syndrome!

Mae'n deimlad rhyfedd dros ben, achos un munud rwyt ti'n gweithio bob awr o'r sydd er mwyn hawlio dy le ac yn gwybod dy fod yn haeddu bob llwyddiant a'r munud nesaf mae rhywbeth yng nghefn dy ben yn mynnu mai rhywun arall sy'n haeddu dy le di. Mae'r bwystfil "be os" yma yn gallu bod yn uchel ei gloch, yn dy berswadio nad wyt ti'n haeddu'r cyfle. Ond, spoiler alert... Rwyt ti'n haeddu popeth ti'n gweithio amdano.

 

Teimlo fel Twyllwr

Yr hyn sy'n rhyfedd am deimlo fel twyllwr yn yr ystyr yma ydi ei fod o'n bosib bod tystiolaeth gadarn dy fod yn gymwys ac yn alluog. Nid ffaith ydi’r hyn ti’n ei deimlo, gan fod yr oriau o waith ac ymdrech yn dyst i dy ymroddiad a thalent, ac mae’n bosib mai dim ond ti sy’n gweld dy “fethiant”. I ddweud y gwir, mae’n debyg bod sawl yn o dy gwmpas yn teimlo’r un peth am eu gwaith a’u cyfleoedd nhw!

Yr Un Cwch

Coelia neu beidio, ond dydi teimlo fel twyllwr ddim yn rhywbeth sy'n perthyn i un math o berson. Mae'n hen beth amgen sy'n gallu effeithio bob un ohonom - hyd yn oed y rhai mwyaf llwyddiannus yn y byd.

Efallai na fyddai hynny’n llawer o gysur i ti, achos dydi o ddim yn gwaredu ar yr hen deimlad ych-a-fi yna, nac ydi? Ond, mewn gwirionedd, mae rhywbeth bach yn poeni pawb, hyd yn oed y rheini ti’n eu hedmygu am eu bod yn gwneud mor dda ac yn byw'r bywyd sydd, o’r tu allan, yn edrych mor berffaith.

 

Job Interview Meeting
A woman applaused by people in a room

Trechu'r Twyllwr

Y ffordd orau o drechu'r teimlad, fel bron bob problem arall, ydi siarad gydag eraill. Nid yn unig y siarad sy'n gallu bod o gymorth, ond mae derbyn cydnabyddiaeth dy fod wir yn haeddu dy le o bersbectif rhywun arall yn gallu bod o les.

Os wyt ti’n gallu, rho gynnig ar wahanu “ffaith” a “theimlad”. Hynny yw, meddylia am dy holl lwyddiannau, y rhai bach a rhai mawr, ac edrycha ar y dystiolaeth hwnnw. Mae’r rhain yn ffeithiau does dim modd eu dadlau ac mae’n bosib drwy atgoffa dy hun o hyn y byddi di’n dod i adnabod y gwahaniaeth rhwng “ffaith” a “theimlad” yn syth.

Hawdd iawn ydi cymharu dy fywyd di gydag eraill, yn arbennig pan fo pawb yn curadu eu bywydau yn berffaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Wel, mae cymharu yn ffordd arbennig o dda i waethygu imposter syndrome, felly rho’r gorau iddi! Haws dweud ‘na gwneud, wrth gwrs, ond ceisia gwtogi dy ddefnydd o’r socials - a rho wybod i ni am dy brofiad!

 

bottom of page