top of page

Y Prif Gymeriad

Sunset

Os wyt ti wedi gwario mwy na pum munud ar y cyfryngau cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf, byddi di’n hen gyfarwydd gyda’r term “main character energy”. Dyma derm sydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn disgrifio rhywun sydd yn hawlio eu lle nhw fel y prif gymeriad yn eu bywydau. Hynny yw, y syniad mai ti sydd yn llywio dy fywyd a magu’r hyder a phwrpas y wireddu’r bywyd rwyt ti’n dymuno.

Mae’n swnio’n ddelfrydol, dydi? Dy fod yn byw dy fywyd yn union fel rwyt ti eisiau, heb falio dim am yr hyn mae eraill yn ei feddwl!  Ond, sut un union mae mynd ati i fyw bywyd fel y prif gymeriad? Os wyt ti eisiau byw dy fywyd fel y prif gymeriad, sut mae mynd ati i fagu’r hyder i wneud hynny? Mae’n debyg bod sawl ffordd wahanol, ac yn union fel prif gymeriadau yn y ffilmiau, mae pob un yn unigryw. Dewch i ni edrych ar yr hyn sydd yn diffinio “bywyd prif gymeriad”;

 

1. Ti sydd berchen dy stori

Mae gan bawb stori wahanol. Hyd yn oed os mae rhywun wedi mynd trwy brofiadau tebyg i ti, mae dy stori dy yn hollol unigryw i ti. Felly, paid â chymharu dy fywyd di gyda bywyd eraill - mae pawb yn wahanol! 

​
2. Ymddiried yn y reddf
 
Mae gan bawb reddf, neu “instincts”, sydd yn ein helpu i wneud penderfyniadau. O bryd i’w gilydd, mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau - penderfyniadau sydd yn gallu bod mor fawr nes mae’n cymryd wythnosau o bendroni! Ac, hyd yn oed ar ôl gwneud y penderfyniad, mae poeni os wyt ti wedi gwneud y penderfyniad cywir yn gallu gyrru rhywun o’u co’! Wel, rwyt ti’n brif gymeriad dy fywyd rŵan, ac felly mae’n rhaid i ti ymddiried ynddo ti dy hun - rwyt ti  wedi gwneud y penderfyniad cywir. Hyd yn oed os fydd di’n darganfod dy fod wedi gwneud camgymeriad llwyr, rhaid i ti ymddiried ynddo ti dy hun dy fod yn gallu sortio’r broblem.
​

AEnB2Uq9PhzcsbJeaE4Clbtn-DVQaY4nfoWRuddW
Listening to Music on Phone

3. Dy drac sain

Mae gan brif gymeriad bob sioe trac sain benodol - boed hynny’n gân ar gychwyn y rhaglen neu’n sain cefndir pan fo’r cymeriad yn cerdded i mewn i’r olygfa. Rŵan, dwyt ti ddim angen cerdded i bob man gyda chân yn chwarae’n uchel o dy ffôn, achos fysa ti’n siŵr o ddenu ambell i edrychiad rhyfedd! Yn hytrach, cer i guradu rhestr chwarae gyda dy hoff ganeuon i gyd. Does dim rhaid i ti ddangos y rhestr chwarae i neb, felly cer amdani gyda’r holl ganeuon sydd yn gwneud i ti wenu, hyd yn oed y rhai mwyaf cawslyd!

4. Camu o’r glydfan

Er ei fod yn gallu bod yn her fawr, mae camu allan o dy glydfan, neu “comfort zone”, yn gallu rhoi hwb mawr i dy hunanhyder, a dy fywyd di fel prif gymeriad. Does dim rhaid i’r gam yma fod yn un mawr o gwbl. Yn wir, gall camu allan o dy glydfan fod mor syml â archebu coffi gwahanol y tro nesaf y byddi di mewn caffi! Os wyt ti’n dymuno, mae modd cymryd gwahanol gamau allan o dy glydfan er mwyn adeiladu dy hyder - mae hynny i fyny i ti’n llwyr!

5. Bydda’n ti dy hun

Y cam olaf,  a'r cam pwysicaf, o fyw bywyd prif gymeriad ydi i fod yn ti dy hun. Dydi prif gymeriad ddim yn smalio bod yn neb arall. Wedi’r cyfan, beth yw’r pwynt o geisio bod yn gymeriad gwahanol pan ti’n hollol wych, yn union fel wyt ti?!
 

bottom of page