top of page

Y Gwest am Ffrindiau Newydd

Teenagers in Park

Dyma gwestiwn sydd yn hÅ·n nag amser; sut yn union mae mynd ati i wneud ffrindiau? Wedi’r cwbl, mae’n debyg bod ffrindiau o dy blentyndod yn y rhai oedd yn sownd gyda ti yn yr ysgol. Dydi hynny ddim yn ddrwg o beth - mae ffrindiau o’r ysgol yn rhai annwyl iawn, gan eich bod wedi treulio gymaint o amser gyda’ch gilydd trwy'r dyddiau drwg a da. Dyma’r ffrindiau rwyt ti’n dysgu gymaint gyda nhw, o sut i gefnogi eraill, sut i ffraeo a dygymod a sut i osod ffiniau personol. Cysylltiadau gwerthfawr sydd yn gosod sail dda pan mae’n dod i gynnal cyfeillgarwch yn y dyfodol.

OND - ac mae hwn yn OND mawr - sut mae mynd ati i ddod o hyd i ffrindiau pan nad oes gennych gaethiwed ysgol i’ch rhwymo gyda’ch gilydd?

Mae’r pynciau tebyg wedi cael ei drafod ar Lysh ac ymysg ein darllenwyr yn y gorffennol - sut i fod yn ffrind, sut i osod ffin pan mae’n dod i berthnasau... ond os nad wyt ti’n gallu dod o hyd i ffrindiau yna beth yw pwynt y cyfan? Felly, gyda chymaint o’n darllenwyr yn yr un cwch yn cychwyn siwrnai newydd ym mis Medi, tyrd i ni edrych ar ambell i ffordd ar sut i ddod o hyd i “dy bobl”.

 

Paid â bod ofn i wneud pethau ar ben dy hun.

Does dim posib i ti ddod o hyd i neb wrth i ti eistedd yn dy lofft drwy’r dydd. Er mor anodd ydi hi i fynd allan ar ben dy hun i weithgareddau cymdeithasol, mae’n un o’r ffyrdd mwyaf llwyddiannus o ddod o hyd i ffrindiau newydd. Cofia, efallai na fyddi di’n dod o hyd i rywun y tro cyntaf y byddi di’n mentro.

Wnei di ddod o hyd i rywun yn naturiol.

Wrth i ti fynd ati yn gwneud yr hyn rwyt ti’n hoffi ei wneud, byddi di’n dod ar draws y rheini sy’n rhannu’n yn ddiddordebau yn gwbl naturiol. Os wyt ti’n berson sy’n hoffi mynd ar antur adrenalin ar y penwythnos neu’n hoff o dreulio amser mewn llonyddwch llyfrgell, cer i wneud hynny. Dyma’n union ble fydd y rhai sy’n rhannu’r un diddordebau yn debygol o fod!
 

Enjoying a Coffee
Friends Walking Home

Does dim rhaid i ti gael grŵp mawr o ffrindiau.

Mae gan rai pobl ffrindiau lu, grŵp mawr o ffrindiau oes sydd wrth eu boddau yn rhannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw wedi dod o hyd i’w pobl nhw, ac mae hynny’n hollol lyfli. Y gwir amdani ydi, nid dyma yw’r “norm” ac mae’r rhan fwyaf ohonom mewn grŵp lot llai o ffrindiau, efallai tair neu pedair yn y grŵp. Ac os oes gen ti dim ond un ffrind gorau yn y byd cyfan, mae hynny’n tu hwnt o werthfawr. Wedi’r cyfan, safon y cyfeillgarwch sydd yn bwysig, nid y nifer o ffrindiau.

Mae rhai pobl yn hoffi bod ar ben eu hunain, ac mae hynny’n iawn!

Os nad wyt ti’n hoff iawn o dreulio diwrnod cyfan gyda grŵp o ffrindiau, yn ffafrio diwrnod yn crwydro dy ardal leol ar ben dy hun fach, does dim byd yn bod ar hynny. Ydi hynny’n golygu na fydd gen ti ffrind yn dy fywyd hyd ddiwedd dy oes? Nac ydi! Gwna’r hyn rwyt ti’n ei fwynhau ac, eto, fyddi di’n dod o hyd i’r ffrindiau sy’n dy siwtio dy yn naturiol.

Wedi hyn oll, dyma sydd rhaid i ti gofio; mae rhai pobl yn mynd i ddod i mewn i dy fywyd di am gyfnod byr, ac eraill am gyfnod hir neu weithiau am byth, ac mae bob un cyfeillgarwch yn werth ei drysori... cyn belled nad ydyn nhw’n croesi ffin bersonol, ond mae hynny’n erthygl wahanol!

 

bottom of page