top of page
Y Gêm ar Droed...

Dim ond ychydig dros wythnos sydd nes y bydd Tîm Peldroed Menywod Cymru yn gwynebu’r Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth yr Ewros draw yn y Swistir, ac mae’r bwrlwm i’w deimlo ym mhob ar o’r wlad.
Un o’r ffans peldroed mwyaf brwdfrydig yn ein plith ydi Ffion Eluned, sef awdures y llyfr Ewro 2025: Y Swistir, llawlyfr i gefnogwyr y tîm. Cyn iddi fynd draw i’r Swistir er mwyn ymgolli yn y gêm go iawn, sgwrsiodd Ffion gyda Lysh i drafod y gêm a tebyg pwy yw’r chwaraewyr dylid cadw llygaid arnynt?
Lysh Cymru: Mae’r tîm wedi cyrraedd yr Ewros o’r diwedd! Wyt ti’n edrych ymlaen am y bencampwriaeth i ddod?
Ffion Eluned: Mae o’n rili gyffrous, dydi? Am y tro cyntaf erioed yn ein hanes ni ‘da ni wedi cyrraedd prif bencampwriaeth. Yn amlwg, dwi’n dilyn y dynion a dwi’n dilyn y menywod, a ges i fynd i Ffrainc yn 2016 pan lwyddodd y dynion gyda champ debyg, sef cyrraedd yr Ewros am y tro cyntaf ers y 50au. Roedd hwnnw’n haf anhygoel, a does dim dwywaith y bydd haf eleni’n un bythgofiadwy.
LC: Mae’r tîm wedi dod yn agor iawn at gyrraedd yr Ewros o’r blaen, do?
FfE: Do, cwpwl o weithiau ac wedi dod o fewn trwch blewyn i bencampwriaeth Cwpan y Byd hefyd, felly bod yma o’r diwedd yn golygu gymaint i nifer ohonom ni, ond hefyd i beldroed a’r gêm yng Nghymru hefyd - dyna dwi’n gobeithio bydd yr effaith fwyaf, bod yna fwy o ddiddordeb a brwdfrydedd i’r gêm. Da ni’n gweld yn aml fod llwyddiant yn magu diddordeb, ac mae’r un peth yn wir gyda’r tîm dynion, felly gobeithio daw mwy o fuddsoddiad wedi perfformiad y menywod yn yr Ewros.
LC: Dwi’n siŵr fod o’n golygu lot i’r chwaraewyr wedi blynyddoedd o waith caled, ac mae o’n teimlo fel bod y merched yn gorfod gweithio can gwaith mwy caled na’r dynion, dydi?
FfE: Yndi. Wedi’r cwbl, mae yna hanner canrif o fwlch, os nad mwy ‘na hynny, rhwng tîm peldroed dynion a thîm y menywod, oherwydd bod hanner canrif o waharddiad wedi bod. Mae o’n golygu lot ar gymaint o wahanol lefelau i gefnogwyr ac yn amlwg i chwaraewyr. Mae o’n golygu lot hefyd i gyn-chwaraewyr Cymru hefyd! Yn amlwg, dydi hanes heb wneud pethau’n hawdd i ferched allu chwarae peldroed yma yng Nghymru nac yn Ewrop. Fyddai’n meddwl am y dair aeth ati i ofyn am ffurfio tîm yn 1992... mae yna gymaint o bobl sydd wedi chwarae rhan yn y siwrnai i le yda ni rŵan ac mae cyrraedd y lefel yma yn goron ar y cyfan, ond eto dwi’n gobeithio mai cychwyn rhywbeth arbennig ydi o hefyd.


LC: Dwi’n siŵr byddwn ni gyd yn dod i adnabod y tîm yn well drwy gydol y twrnament, ond pwy yw’r chwaraewyr dylid cadw llygaid arnynt?
FfE: Mae Jess Fishlock un yn, heb os, a fydd hi’n ddiwrnod du iawn pan fydd hi’n rhoi’r gorau i chwarae i Gymru!
Angharad James ydi capten Cymru, ac mae hi’n dod o Sir Benfro. Mae hi hefyd yn chwarae i Seattle Reign allan yn America. Fyswn i’n sicr yn cadw llygad arni hi!
Ceri Holland - hi oedd enillydd chwaraewr y gêm mewn gêm ddiweddar yn erbyn yr Eidal. Mae hi’n chwarae i dîm peldroed Lerpwl, hefyd, ac mae hi wastad yn edrych fel bygythiad pan mae hi ar y bêl! Mae hi’n chwarae yn ganol cae, ond mae hi’n gallu ymosod ac amddiffyn yn wych, felly mae hi’n chwaraewr pwysig iawn i ni, ac i Lerpwl wrth gwrs.
Sophie Ingle ydi’r chwaraewr mwyaf adnabyddus yn y tîm gan ei bod hi wedi bod yn chwarae i Chelsea yn ddiweddar, ond mae hi wedi bod allan ers mis Medi gydag anaf i’w phen glin. Mae hi wedi bod yn ôl yn y sesiynau hyfforddi felly roedd o’n hyfryd gweld hynny.
LC: Dychmyga dy fod gen ti dau docyn i wylio gêm peldroed, ond rhaid i ti roi’r ail docyn i un o chwaraewyr Cymru i ddod i wylio’r gêm... i bwy fysa ti’n rhoi’r ail docyn?
FfE: W, mae hwna’n gwestiwn da! T’bod be, mae Ffion Morgan yn dda iawn ar TikTok ac ati ac mae hi’n dod drosodd fel person cymdeithasol iawn, ac mae hi’n siarad Cymraeg felly fysa hynny’n lot o help pan ti’n trafod y chwarae!
Awydd dysgu mwy am y tîm a’r hyn sydd i ddod yn ystod y bencampwriaeth, gan gynnwys cyfweliad gyda rhai o’r chwaraewyr? Mae Ewro 2025: Y Swistir ar gael nawr, o’ch siop lyfrau lleol neu ar-lein.
bottom of page