top of page

Y Gêm a Fi

gan Tesni Hughes

thumbnail_image1.jpg

“Mae pêl droed yn fwy na jest gêm”

Dyna ddywediad mae pawb wedi clywed o leiaf unwaith yn eu bywydau. Mae rhai yn cytuno efo’r dywediad ag eraill yn chwerthin ag yn malio dim. Ond i fi, mae’n wir. Mae o lot mwy na dim ond gêm. Mae’n rhan hanfodol o’m mywyd i , a bywydau llawer iawn iawn o bobl eraill. O chwaraeon ar lawr glwad i chware dros dy wlad, gwylio gemau ar y teledu neu yn y cnawd - os ti’n caru’r gêm, ti’n caru’r gêm.

Helo Tesni ‘dwi a dyma blog bach am fy mhrofiad i, dylanwadau'r tîm cenedlaethol ar y genhedlaeth nesaf ac effaith pêl-droed a chadw’n heini ar iechyd meddwl! Mwynhewch!


Dylanwad Tîm Cenedlaethol Cymru

Ers o'n i’n bedair, mae pêl-droed wedi bod o ddiddordeb i mi. Chwarae efo’n nhad a fy ewythr, neu gael pêl wedi ei bletio ataf gan fy nghefndryd... Dwi wedi bod wrth fy modd ers y cychwyn. Nes i gychwyn chwarae i dîm bechgyn pan o'n i’n bump, ag er mai fi oedd y lleiaf ar y cae, un o’r unig ferched ar y pryd, mi o'n i’n benderfynol mai dyma oedd fy hoff beth ac mae blynyddoedd o redeg a chwffio am fy lle mewn timau gwahanol wedi fy ngwneud yn berson penderfynol iawn erbyn heddiw.
 

Tydi bod yn ferch sy’n chwarae pêl-droed ddim yn beth hawdd. Sawl gwaith dwi wedi clywed bechgyn yn gweiddi “gem i hogiau di hwn”, yn gwrthod pasio’r bel, bod yn gas ag yn fy nhynnu lawr a llawer o bethau gwaeth. Dwi wedi cael bechgyn yn bod yn frwnt efo fi mewn sawl ffordd jest achos bo fi, sy’n ferch, eisiau chwarae pêl-droed. Dwi’n siŵr bod sawl merch arall wedi profi’r fath beth neu yn dal i fod!

Dim ond un tîm pêl-droed merched oedd yn fy ardal ar y pryd a dim ond 3 tîm arall yn ein cynghrair, felly doedd yna ddim llawer o brofiadau yn lleol i ni ag oedd rhaid teithio eithaf tipyn (Diolch mam a dad am y liffts!). Ond mae pethau bellach wedi newid, a hynny er gorau!

Pan o'n i’n tyfu fyny, prin oedd gweld merch arall yn chwarae i dîm. Bellach mae yna 20,000 o ferched a genod ifanc wedi cofrestru i chwarae yma yng Nghymru a sawl tîm pêl-droed merched! Yn dilyn llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru yn yr Ewros, mae llawer mwy o ferched yn cael chwarae teg ar ac oddi ar y cae. Mae’r tîm cenedlaethol wedi profi i bawb bod llwyddiant yn bosib i ferched yn y byd pêl-droed. Mae yna sawl clwb merched a sawl sesiwn pêl-droed merched yn cael eu cynnal ar draws y wlad. Does gen i ddim amheuaeth bod y dyfodol yn ddisglair iawn i bêl-droed merched.

Wrth dyfu fyny, o’n i’n cael fy ysbrydoli gan Jess Fishlock. Mi oedd ei hagwedd a dygnwch yn fy ysbrydoli i barhau yn ystod cyfnodau anodd. Nid yn unig mewn gemau anodd ond hefyd mewn treialau neu gyfnodau lle doeddwn i ddim yn teimlo’n ddigon da. Mae’n bwysig iawn bod gan ferched modelau rôl sydd yn ferched hefyd! Ac mae tîm cenedlaethol Cymru yn llwyddo i wneud hynny gydag eiconau fel Ffion Morgan ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n dangos yn union sut beth ydio i dreulio diwrnod fel chwaraewr proffesiynol ac yn sicr wedi dod yn arwres i sawl merch ifanc yma yng Nghymru.

 

thumbnail_image0.jpg
image3.jpeg

Mae’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr fel Mared Griffiths yn dangos i’r merched ifanc sydd yn cychwyn allan bod hi’n bosib llwyddo! Ar ôl blynyddoedd o gael ein barnu am fod yn ferched sydd yn chwarae pêl-droed, erbyn rŵan mae yna fechgyn yn cerdded o gwmpas gydag enwau fel “FISHLOCK” , “INGLE” a “MORGAN”  ar gefn eu crysau. Mae chwaraewyr y tîm cenedlaethol yn hynod o ysbrydoledig ac rydym ni, fel cenhedlaeth, yn falch iawn iawn ohonynt.

Iechyd Meddwl

Mae chwaraewyr pêl-droed, ac unrhyw berson sydd yn cadw’n heini, yn dueddol o ddioddef o sawl anaf gwahanol. Dyna yw natur ein bywyd! Ond, pan fo hynny’n gorfod stopio am gyfnod, mae’n gallu cael effaith andwyol ar berson. Dyma fy stori i o sut nes i ddelio hefo dim pêl-droed na chadw’n heini am gyfnod hir.

Yn fy arddegau, mi oeddwn yn dioddef yn ofnadwy o gur yn ben yn aml iawn. Cychwynodd hyn ar ôl cael cyfergyd, neu concussion, mewn gêm ac am blwynyddoedd wedyn roedd y cur pen yn effeithio ar fy mywyd bob dydd.

Ar ôl sawl apwyntiad a sawl prawf a sgan, dyma’r doctoriaid arbennig draw mewn ysbyty yn Lerpwl yn dod o hyd i cyst ar fy ymennydd ac roedd hyn yn golygu fy mod angen llawdriniaeth i’w dynnu. Cefais y lawdriniaeth yna ym mis Rhagfyr 2024 – andros o lawdriniaeth dros deg awr o hyd. Dwi’n diolch i’r doctoriaid a nyrsys draw yn Ysbyty Walton am bopeth ag hefyd i fy nheulu, fy nghariad a fy ffrindiau am fod yn gefn i mi drwy’r cyfnod yma!

Roedd hi’n gyfnod ofnus ac ansicr iawn i fi ond hefyd i fy nheulu ag y bobl agosaf ata i. Ond, dwi’n falch iawn i ddweud ei bod hi wedi bod yn llwyddiannus a dwi rŵan ar fy ngorau eto.

 

Ond, beth sydd gan hynna i wneud efo pêl-droed a chadw’n heini?

Wel, yn amlwg doeddwn i ddim yn cael gwneud dim math o ymarfer corff am sbel ar ôl y llawdriniaeth a gafodd hynna effaith arna i, nid yn unig yn gorfforol ond hefyd yn feddyliol. Sylweddolais mai pêl-droed neu fynd i'r gampfa oedd fy ffordd i o gymryd cam allan o fywyd go iawn, cael gwared ag unrhyw boenau meddwl neu ddicter oedd gen i. Mi oedd hi’n anodd iawn delio a’r ffaith fy mod yn wannach neu’n arafach ar ôl y llawdriniaeth. Cafodd gymaint o effaith arna i nes i mi ddechrau colli ffydd a hyder yn fy hun ag hefyd yn y gêm.

Roeddwn i’n ofn mynd mewn i dacl ac yn tynnu allan yn ystod gem a doedd hynny ddim yn deimlad da. O'n i’n teimlo fel fy mod yn gadael y tîm a fy hun i lawr. Yn ffodus iawn, mi oedd gen i dîm hynod o ofalgar a chefnogol ar y pryd. Mi wnaethon nhw’n siŵr fy mod yn cael fy hyder yn ôl a fy mod yn cael amser a chefnogaeth i ddod yn ôl yn gryfach felly mae gen i barch enfawr tuag at Dîm Merched Amlwch!

Dwi bellach yn chwarae i CPD Merched Bangor ac yn teimlo fy hun yn dod yn ôl ac yn caru’r gêm a dechrau caru fy hun fwy a fwy. Mae mynd i ymarfer neu fynd i redeg bellach yn hanfodol i fy iechyd meddwl a dwi’n cael amser i fy hun heb orfod meddwl am ddim byd ag wastad yn dod adra yn teimlo’n well. Mae buddion o gadw’n heini wedi ei brofi yn wyddonol, boed hynny’n chwarae pêl-droed, mynd i’r gampfa, mynd i redeg neu ymuno a chlwb chwaraeon. Mae’n gallu cael effaith hynod o bositif ar eich iechyd meddwl. Yn ogystal, mae ymuno a chlwb neu gampfa yn gyfle da iawn i gymdeithasu a chreu ffrindiau efo pobl sy’n joio’r un pethau a chi! Yn ôl ystadegau, mae symud eich corff yn gallu lleihau'r siawns o iselder o 30%! Felly ar ôl diwrnod caled , beth am fentro allan am ‘chydig? Does 'na ddim rhaid i chi fynd i redeg, ewch i gerdded gyda ffrind i ddal fyny, mae mor bwysig i gadw’ch meddwl yn iachus a hapus!

Mae pêl-droed yn fwy ‘na gêm i mi.

 

thumbnail_image2.jpg
bottom of page