top of page
Y Ddefod Foreol

Wyt ti’n teimlo’n fwy blinedig yn y boreua, yn enwedig a hithau’n dywyllach a llawer oerach y tu allan? Dwyt ti ddim ar ben dy hun! Mae ceisio dianc o gynhesrwydd dy wely tra bod y rhagolygon yn awgrymu gwisgo dau sgarff yn her, ac mae’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw fath o “wmff”, dydi? Oes rhywbeth yn y byd sydd yn gallu gwneud pethau mymryn yn haws?
Wel, oes, mae’n debyg! Yr unig peth ydi, does dim canllaw i’w ddilyn – mae’n rhaid i ti ddarganfod y ddefod boreuol sydd yn gweithio i ti, a hynny drwy trio pethau gwahanol. Er bod y cyfan i fyny i ti mewn gwirionedd, dyma lond llaw o bethau i ti rhoi cynnig arnynt:
Amser Codi
Dyma’r peth cyntaf sydd rhaid i ti wneud, a’r brif beth y byddi di’n casau am y boreua gaeafol! Y clwyd cyntaf ydi’r uchaf, felly unwaith y byddi hi’n gallu codi heb straffaglu gormod mae popeth arall llawer haws.
Mae rhai yn dweud bod bore da yn cychwyn y noson gynt, ac mae hynny’n gallu bod yn wir! Cymera ychydig o amser y noson gynt er mwyn edrych ar ôl ti o’r dyfodol. Cofia osod larwm (yn amlwg), gosod dŵr ger y gwely ac ati. Os wyt ti’n bwriadu mynd i’r cawod yn y bore, gwna’n siwr dy fod gen ti lliain glân yn barod – does neb eisiau tyrchu am dowel tra’n gysglyd! Os mae ystafell blêr yn dy wylltio, yna cymera ychydig o amser y noson gynt i dwtio, hyd yn oed os mae hynny’n golygu taflu bob un dilledyn ar lawr i fewn i’r fasged olchi. Mae syrthio dros pâr o drowsus budur yn syth ar ôl deffro yn siwr o gythryddo unrhyw un!


Hunanofal
Er bod y boreua yn gallu bod bach yn frysiog, mae gosod ychydig o amser am hunanofal yn gallu gwneud byd o les – ac yn rhoi rhywbeth i ti edrych ymlaen at y noson gynt! Os mae ymafer corff yn gweithio i ti, grêt! Efallai mai darllen y byddi di’n ffafrio. Neu, tybed y byddi di’n coginio brecwast anhygoel yn lle ymestyn am dost arall?
Mae blaenoriaethu hunanofal ar gychwyn diwrnod o fudd meddyliol, yn enwedig os wyt ti’n debygol o wynebu diwrnod llawn straen, boed hynny ym myd addysg neu yn y gweithle. Drwy sicrhau dy fod yn edrych ar ôl dy hun, rwyt ti’n lleihau’r risg o orflino ac yn atgoffa dy hun ar ddechrau’r diwrnod dy fod yn bwysig ac yn haeddu cydymdeimlad – hyd yn oed os mai ti sy’n cydymdeimo gyda ti dy hun!
Dal Ati
Mae dod o hyd i ddefod a chadw at dy ganllawiau personol yn cymryd amser. Does dim posib i ti wireddu arfer newydd a gwahanol dros nos ac mae’n bosib y bydd yn cymryd ychydig o wythnosau i ti allu mynd trwy dy arferion heb i ti feddwl am y peth! Dal ati, a chofia newid dy arferion os nad ydi rhywbeth yn dy siwtio di.
bottom of page







