top of page

Y DARLUN LLAWN

Newspapers

Y dyddiau yma, anodd iawn yw osgoi'r newyddion. Mae’r penawdau ymhobman; ar ein ffonau symudol, ar y radio ac ar y teledu. Ond, y rhan helaeth o’r amser, dyna’r oll fyddwn ni’n ei weld, sef y penawdau. Cipolwg sydyn. Mewnwelediad brys ac nid y darlun llawn.

Rhaid cofio fod gan benawdau un prif nod, sef i ddenu dy sylw ac i dy hudo i glicio ar ddolen i ddarllen mwy. Mewn papur newydd, mae’r penawdau ar flaen y papur yn rhai sy’n dychryn neu’n cynnig jôc drwy chwarae ar eiriau, er mwyn dy bryfocio i brynu’r papur. Y gwir amdani yw, hyd yn oed os wyt ti’n clicio linc neu’n prynu’r papur newydd i ddarllen yr erthygl am ddigwyddiad penodol, efallai na fydd hynny’n rhoi darlun teg o sefyllfa. Mae ffynonellau newyddion yn amrywio o ran y ffordd maen nhw’n adrodd straeon. Tra bod un yn ffafrio un ochr o’r ddadl heb roi chwarae teg i ochr arall y geiniog, efallai fydd gwefan newyddion arall yn adrodd yr un stori mewn modd hollol groes.

 

Felly, sut mae dod o hud i ddarlun llawn? Wel, mae angen i ti roi ychydig bach o ymdrech i mewn i’w ddarganfod! Sori, mae o’n dipyn bach o boen ond unwaith fyddi di’n gwybod sut i fynd ati i ddod o hyd i adlewyrchiad teg o stori newyddion, fyddi di’n gallu gwneud hynny mewn dim.

Un fantais o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ydi fedri di ddilyn cyfrifon ac unigolion sy’n byw ymhell i ffwrdd. Mae modd gweld beth yw realiti unigolion sy’n byw mewn ardal rhyfela, er enghraifft, a gweld y stori o’u persbectif nhw. Wrth gwrs, mae gan raglenni newyddion ohebwyr ar leoliad pan fo newyddion mawr yn torri, ond y dyddiau yma does dim rhaid dibynnu arnynt i ddarganfod barn neu brofiadau lleol.

Wedi dweud hynny, mae’n bwysig cofio fod y cyfryngau cymdeithasol yn poethi pan fo newyddion am bwnc dadleuol yn cael ei gyhoeddi. Ni fydd popeth sy’n cael ei rannu yn ffeithiol a hawdd iawn yw rhannu newyddion ffug ar y we. Yn y gorffennol, mae lluniau ffug wedi cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, gan dwyllo miliynau o bobl. Pan mae o’n dod i ffeithiau, mae’n holl bwysig bod y ffynhonnell yn un dibynadwy.

 

Woman Holding a Mobile Phone_edited.jpg
Pile of Newspapers

Gyda chymaint o gyflenwyr newyddion, mae’n bwysig ein bod ni’n darllen neu’n gwylio’r newyddion gan wahanol ffynonellau. Efallai dy fod wedi sylwi fod ambell i bapur newydd yn adrodd y newyddion o bersbectif asgell dde, eraill yn adrodd o safbwynt asgell chwith ac mae yna sawl un sydd rhywle rhwng y ddau. Mae’n bwysig nad ydi’r newyddion ti’n ei ddarllen neu’n gwylio yn dod o un lle yn unig, ac mae darllen amrywiaeth o safbwyntiau yn bwysig am sawl rheswm. Wrth i ti ddarllen y newyddion gan wahanol ffynonellau, rwyt ti’n dod i adnabod y ffeithiau yn well, yn dysgu sut i ystyried a dadansoddi barn eraill, a dod i gasgliad dy hun a ffurfio barn ar bwnc neu sefyllfa.

Cofia, mae cwestiynu erthyglau newyddion yn bwysig, hyd yn oed os wyt ti wedi bod yn darganfod y newyddion gan y gwefan neu raglen yna ers blynyddoedd! Os oes gen ti 5 munud i ddisgwyl am fws neu wrth ddisgwyl am apwyntiad, edrycha ar y we am yr un stori wedi ei hadrodd gan newyddiadurwr arall. Weithiau, mae’r ffeithiau’r peth ac yn gywir, ond fod y steil o ysgrifennu yn portreadu’r sefyllfa mewn golau gwahanol.

 

Y peth pwysicaf oll ydi cofio cymryd saib. Paid â mynd ati i ddarllen erthyglau lu yn syth ar ôl ei gilydd - mae hynny’n ddigon i flino unrhyw un! Pwyll pia hi a chwilia am yr amrywiaeth yn ara’ deg. 
 

bottom of page