top of page

Y Da Mewn Byd Drwg

Sunrise

Mae’r byd yn boncyrs, dydi?! Does dim dal pa ddatblygiad ofnadwy bydd yn cyrraedd y penawdau nesaf. A phan ‘da chi’n meddwl bod y gwiriondeb wedi cyrraedd lefel ni ellir ei drechu, mae pethau’n mynd o hurt i hurtach (os ydi hynny’n air!).

Yma ar wefan Lysh, mae iechyd meddwl yn holl bwysig ac rydym yn credu bod camu’n ôl a chymryd saib o’r newyddion drwg yn gwneud byd o les, yn arbennig newyddion amgylcheddol. Mae gor-bryder amgylcheddol yn hen beth cas! Mae sbel fach wedi bod ers i ni grynhoi ychydig o newyddion da y byd ar ein gwefan, felly dyma ychydig o’r uchafbwyntiau o newyddion amgylcheddol positif o’r ychydig fisoedd diwethaf:

 

Ffarwelio gyda Glo

Ym mis Medi 2024, caewyd yr orsaf bŵer olaf oedd yn cynhyrchu ynni gan ddefnyddio glo yn y Deyrnas Unedig. Yr olaf oedd gorsaf Ratcliffe-on-Soar yn Swydd Nottingham, gyda gorsaf pŵer glo olaf Cymru, Gorsaf Pŵer Aberddawan, wedi cau eisoes yn 2020.

Pam bod hyn yn newyddion da? Wel, mae’r llygredd aer o ganlyniad i gynhyrchu ynni gan ddefnyddio glo yn cael effaith niweidiol iawn ar iechyd. Mae’r tocsinau sy’n cael ei ryddhau o ganlyniad i hyn yn cynnwys mercwri, plwm, sylffwr deuocsid, nitrogen ocsid a mwy, ac mae potensial i achosi asma a phroblemau anadlu, problemau gyda’r galon a chyflyrau niwrolegol. Felly, newyddion i’w groesawu, heb ond, ond mae ffordd eto i fynd er mwyn sicrhau ynni glân.

 

Smoke
Nature Walk

Gwlad Gwyllt

Mae ail-wylltio, neu ‘rewilding’ yn ddull cadwraeth sy’n rhoi hwb i fyd natur i fedru cynnal ei hun yn well. Hynny yw, drwy adfer ecosystemau sydd wedi difrodi ac adfer tirweddau, y gobaith yw bod ail-wylltio yn annog bioamrywiaeth. Mae’r dull sy’n galw am flynyddoedd o ymchwil, pwyll a dealltwriaeth ddwys o fioamrywiaeth ardal.

Ers 2005, mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn archwilio i mewn i’r posibilrwydd o ailgyflwyno afancod i Gymru, ac o’r diwedd mae eu hymdrechion wedi derbyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.

Does dim afanc gwyllt wedi bod yng Nghymru ers diwedd y 16eg ganrif, a hynny oherwydd gor-hela gan ddynolryw, oedd yn hela’r afanc ar gyfer cig a ffwr. Mae byd natur Cymru wedi bod ar ei golled heb yr afancod - maent yn greaduriaid arbennig iawn, yn chwarae rhan flaenllaw yn iechyd ein hafonydd ac ecosystemau gwlypdiroedd y wlad. Pwy a ŵyr, efallai welwn ni afanc gwyllt neu ddau yn fuan!

 

Camau Carbon

Mae clwstwr o elusennau natur wedi uno er mwyn cyd-weithio ar brosiect ‘Mapio Carbon Glas’, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, WWF a’r RSPB.

Wrth gwrs, does gan garbon ddim lliw, ond mae’r prosiect yma yn edrych ar garbon sydd yn cael ei storio ar waelod y môr, mewn dolydd morwellt, morfeydd heli, gwymon rhynglanwol a choedwigoedd môr-wiail.

Felly, beth yw amcanion y prosiect yma? Y gobaith yw mesur y nifer o garbon sydd yn cael ei storio ar waelod y môr ac ymchwilio i’r effeithiau mae tarfu o ganlyniad i weithgaredd dynol fel treilio ar y gwaelod ac angorfeydd. Mae tarfu ar waelod y môr yn gallu rhyddhau carbon i’r atmosffer, felly mae mesur yr effaith yn gam mawr ymlaen er mwyn gwarchod ein storfeydd carbon glas naturiol ac amddiffyn ein hamgylchedd.

 

Diver int he Reef
bottom of page