top of page
Y Cyfnod Coll
Beth i’w wneud rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd?
Pa ddiwrnod ydi hi?! Roedd hi’n ddydd Iau ddoe, neu echdoe oedd hynny? Ta waeth, mae un peth yn sicr – mae amser ei hun yn mynd ar ben ei waered yn ystod y cyfnod od yma rhwng Diwrnod Nadolig a Nos Galan ac mae angen i wyddonwyr astudio’r ffenomena yma!
Yng nghanol holl sŵn y dathlu a’r melysion, mae pawb yn cyrraedd pwynt ble ’dan ni wedi diflasu’n llwyr. Ond daw Lysh i’r adwy gyda llond erthygl o syniadau am bethau i’w gwneud, a does dim rhaid gwario dima’ arnynt (sy’n beth da ar ôl gorwario ar bresantau!).
​
Mynd am dro
Ocê, mae mynd am dro yn rhywbeth rwyt ti’n ei wneud drwy gydol y flwyddyn, ond adeg y Nadolig mae mwy o bobl i ffwrdd o’r gwaith neu’r ysgol, felly dyma gyfle euraidd i joio ychydig o awyr iach gyda’r rhai fyddi di ddim fel arfer yn treulio amser gyda nhw. Cer amdani i drefnu amser pan mae dy anwyliaid i gyd – neu y rhan fwyaf, o leiaf – i gyd yn ymuno am dro o gwmpas y fro.
​
Cysylltu gyda hen ffrindiau
Oes gen ti ffrind sydd wedi symud i ffwrdd ac sy’n ymweld ag adref, neu wyt ti wedi dychwelyd adref i fro dy febyd ar gyfer y Nadolig? Anfona neges i’r ffrind nad wyt ti wedi eiweld ers tro byd er mwyn trefnu cwrdd am baned. Rhoi’r byd yn ei le dros mins pei… perffaith!
​
Neidio mewn i nofel
Gest ti nofel yn anrheg eleni? Wel, pa gyfle gwell i’w darllen nag yn y Cyfnod Coll, pan does dim byd arall i dynnu dy sylw? Casgla digon o snacs, estyn am y flanced a diflanna am ychydig i fyd arall.
Rhoi cynnig ar goginio
Gormod o fwyd yn weddill ar ôl y gwledda? Dyna sefyllfa tu hwnt o gyfarwydd, ond dyma gyfle hefyd i fod yn greadigol! Sawl pryd gwahanol fedri di ei wneud gyda’r twrci? Her a hanner i dy ddiddanu!
Cyfres… neu bump!
Gyda chymaint o gyfresi da ar yr holl lwyfannau ffrydio, mae cadw ar ben bopeth yn amhosib. Diolchwn, felly, am saib yn ein hamserlenni er mwyn dal fyny!
Twtio a sortio
Mae lle i bopeth, ond dy her di ydi rhoi popeth yn ei le! Mae twtio yn ddiflas, ond mae rhoi dy anrhegion newydd i gadw yn gwneud pethau ychydig yn haws. Efallai bod hyn yn gyfle i newid dy lofft yn gyfan gwbl, neuwaredu ar hen bethau ac efallai sortio hen ddillad i’w gwerthu… Arian ychwanegol i’w gwario yn y sêls ym mis Ionawr!
​
bottom of page