top of page

Y Berthynas Berffaith

Couple Holding Hands

Mae bod mewn perthynas yn gallu bod yn brofiad arbennig iawn. Er ei bod hi’n gallu bod yn her dod o hyd i rywun sydd nid yn unig yn ffrind gorau i ti ond hefyd yn gariad, pan fyddi di’n dod o hyd i’r “un”, mae’n debyg iawn i ennill y loteri!

Beth ydi fflag werdd a sut mae mynd ati i ddod i adnabod y rhai coch? Darllena ymlaen!


Y Fflagiau Werdd

Os wyt ti’n teimlo dy fod yn gallu ymddiried yn dy barner, mae hynny’n arwydd wych. Rhaid i ti fedru ymddiried ynddynt mewn sawl wahanol ffordd. Er enghraifft, mae’n rhaid i ti deimlo dy fod yn gallu rhannu dy deimladau gyda dy bartner, a bod yr hyn sydd yn cael ei drafod yn gyfrinachol rhyngoch yn aros yn union hynny - yn gyfrinachol. Os mae hyn yn wir am eich perthynas chi, yna mae hynny’n arwydd o barch, sydd yn elfen hanfodol mewn unrhyw berthynas, boed hynny’n un rhamantus neu beidio!
 

Wyt ti’n teimlo bod dy annibyniaeth a dy ofod personol di yn cael ai barchu? Llongyfs, mae hynny’n fflag werdd! Does dim dwywaith bod gwirioneddol mwynhau cwmni dy bartner yn bwysig dros ben, ond mae’n rhaid cofio dy fod yn berson annibynnol o hyd! Dim pawb sydd yn hoff o dreulio bob awr o’r dydd gyda phartner, ac mae’n bwysig fod y ddau ohonoch yn cyfathrebu er mwyn sicrhau eich bod yn cyd-fynd ac yn gyffyrddus gyda’r amser rydych yn treulio gyda’ch gilydd. 

Sôn am gyfathrebu, mae’n fflag werdd amlwg iawn pan fyddi di’n teimlo’n ddigon hapus i sôn wrth dy bartner am eu hymddygiad sydd yn dy boeni (os ydyn nhw’n rhy gwtchlyd, ddim yn rhoi digon o ofod personol i ti neu’n dy anwybyddu, er enghraifft) ac maen nhw’n gwrando a thrafod, yn parchu dy deimladau ac yn newid ymddygiad mewn ffordd bositif.


Y Fflagiau Coch

Mae’n siŵr dy fod wedi clywed y term “fflag goch”, sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn disgrifio rhywbeth dylai fod yn rhybudd i ti. Hynny yw, ymddygiad person neu hanes rhywun sydd yn bethau ni ddylid eu hanwybyddu. Er hynny, dydi’r rhybuddion yma ddim wastad yn amlwg i ni yn y fan a’r lle ac weithiau, wrth edrych yn ôl, mae’r cyfan yn gwbl glir. Felly, mae’n bwysig dod i adnabod yr hyn dylid edrych allan amdanynt.

 

Couple Walking Outdoors
Woman in the Beach

Cyn i ni fynd ati i edrych ar enghreifftiau o’r fflagiau coch, mae’n bwysig cofio does dim rhaid i ti fynd i edrych am resymau difrifol er mwyn gadael perthynas. Does dim rhaid i ti aros oherwydd does dim byd o’i le - mae gen ti berffaith hawl i adael perthynas a gadael yn ddiogel.

Heb os, mae ymddygiad sy’n ceisio dy reoli di yn rhywbeth i’w ystyried fel fflag goch. Ond, beth yn union mae hynny yn ei olygu? Wel, mae’n gallu digwydd mewn sawl wahanol ffordd. Weithiau, mae’n golygu rheoli pwy fyddi di’n weld o ddydd i ddydd, dy deulu, ffrindiau ac ati, a hynny’n arwain at dy ynysu dy oddi wrth yr unigolion oedd arfer bod yn bwysig iawn yn dy fywyd. Tro arall, mae’n golygu rheoli dy arian di a’r ffordd y byddi di’n gwario dy arian dy hun. Mae ceisio rheoli rhywun yn gallu digwydd yn ddigidol, hefyd, drwy fynnu mynediad i dy ffôn a dy gyfrifon cymdeithasol. Os wyt ti’n teimlo fel dy fod yn cael dy reoli mewn unrhyw ffordd, fel yr uchod neu’n wahanol, mae’n bwysig dy fod yn sôn wrth rywun, boed hynny’n rhywun sy’n agos atat neu’n fudiad fel Byw Heb Ofn.

Dwy fflag goch sydd yn cyd-fynd ydi’r amharodrwydd i ymddiheuro a beio eraill o hyd a pheidio cyfaddawdu er mwyn cyfarch anghenion eraill. Mae’r ddau agwedd yma yn rhywbeth i gadw llygaid arnynt, a bendant yn rhywbeth i’r trafod gyda ffrind neu rywun ti’n ymddiried ynddynt.

 

Os wyt ti’n teimlo bod rhywbeth o’i le, yn teimlo’n ofn neu’n anniogel yn dy berthynas, yna mae cymorth ar gael. Os wyt ti mewn peryg ddifrifol ar hyn o bryd, mae galw’r gwasanaethau brys yn ddoeth. Os wyt ti eisiau trafod dy brofiadau, neu os wyt ti’n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu, yna cer draw i wefan Byw Heb Ofn, llinell gymorth sydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ar y ffon neu drwy anfon neges ar-lein; https://www.llyw.cymru/byw-heb-ofn
 

bottom of page