top of page

Wyt Ti’n Ffrind?

Friends in Nature

Dros y blynyddoedd, rwyt ti’n siŵr o fod wedi gwneud ystâd eang o ffrindiau. Ffrindiau oes, ffrindiau dwyt ti heb glywed oddi wrthynt ers dros ddegawd a’r “ffrindiau” dwyt ti ddim yn rili siarad gyda nhw, ond mae’n ddiddorol cael busnesu ar eu socials!

Wrth i ti dyfu’n hŷn, efallai y byddi di’n teimlo bod gwneud ffrindiau newydd yn llawer mwy anodd ‘na o ti yn yr ysgol. Wedi’r cwbl, pan wyt ti’n styc gyda’r ‘run bobl am chwe awr y dydd am gwpwl o flynyddoedd, does gen ti ddim dewis ond dod yn ffrindiau (er, mae rhai yn hynod o lwcus ac yn magu criw o ffrindiau am byth, sy’n hollol lyfli). I ddweud y gwir, os wyt ti’n teimlo’r dasg o wneud ffrindiau newydd yn drwm ar dy ysgwyddau, yna dwyt ti ddim ar ben dy hun. Mae 71% o ddarllenwyr Lysh yn teimlo’r run fath.

Rŵan, does dim canllaw arbennig ar sut i ddod o hyd i ffrindiau newydd ac yna sut i gadw’r ffrindiau yna. Mae’n debyg bod y ffrindiau mwyaf gwerthfawr yn dod i mewn i dy fywyd heb i ti feddwl am y peth! Ond gallwn ni gynghori, gydag ychydig o gymorth gan ein darllenwyr, ar beth yn union sy’n gwneud ffrind a chyfeillgarwch da. Dyma ganllaw Lysh a’n darllenwyr:

 

“Mae ffrind go iawn yn dweud y gwir, bob tro. Dydyn nhw ddim yn dweud beth wyt ti eisiau ei glywed, achos er bod hynny’n neis weithiau mae angen ychydig o onestrwydd, yn enwedig pan mae’n dod i benderfyniadau mawr... fel barn onest am gariad hollol anobeithiol. Dydi hyn ddim yn esgus i fod yn gas o gwbl ac mae’n rhaid i ti fod yn ofalus sut wyt ti’n geirio rhai pethau, ond mae ffrind da yn adnabod ti digon da i wybod beth i ddweud.”

“Dydw i a fy ffrind ddim yn rhannu’r un diddordebau. Mae ein diddordebau ni’n cyferbynnu’n llwyr! Ond da ni’n parchu hynny, ac yn ffrindiau mawr serch y gwahaniaethau.”

“Mae’n rhaid i gyfeillgarwch cyd-bwyso. Os wyt ti’n teimlo dy fod yn gwneud bob ymdrech i blesio dy ffrind ac i edrych ar ei hôl a dydi dy ffrind ddim yn gwneud ymdrech o gwbl, yna dydi hynny ddim yn sefyllfa ddelfrydol. Os mai ti yw’r un sy’n cychwyn bob sgwrs ac yn trefnu bob digwyddiad, mae’n gallu mynd yn reit flinedig. Efallai byddai dy ymdrech yn cael ei werthfawrogi gan berson gwahanol, a ffrind newydd.”

 

Girls in a Coffee Shop
Arm Around Shoulder

“Dwi’n gallu ymddiried yn fy ffrind gorau i, sy’n brofiad mor braf. Dwi’n gwybod bydd hi’n ateb y ffôn pryd bynnag wnâi alw ac yn dod am sbin i roi'r byd yn ei le unrhyw bryd, a finnau’n ei chefnogi hi unrhyw bryd hefyd.”

“Dydw i ddim yn gweld fy ffrind i yn aml. Y tro diwethaf i mi ei gweld hi oedd ar gychwyn 2024 ac mae hi bellach yn byw dramor, ond pan fyddwn ni’n cwrdd mae’n teimlo fel does dim amser wedi mynd heibio a bob dim mor naturiol.”

“Gen i ffrindiau o 'mhlentyndod, ffrindiau diweddar... ond dwi’n meddwl y peth pwysig ydi, er mod i’n gwerthfawrogi nhw’n fawr, dwi’n gyflawn ar ben fy hun. Dwi’n mwynhau fy nghwmni fy hun, gymaint â dwi’n mwynhau cwmni fy ffrindiau ac weithiau mae’n well gen i fy nghwmni fy hun!”

 

bottom of page