top of page
Trefn y Flwyddyn Newydd

Reit, mae pethau’n dechrau mynd yn... gymhleth. Mae mis Medi’n agosáu, profiadau newydd ar y gweill a bob tro ti’n ceisio rhoi pethau mewn trefn, mae rhywbeth arall yn dod i daflu llwch ar y cyfan. Gyda chymaint yn mynd ymlaen, a thithau’n trio dy orau glas i wasgu bob eiliad o fwynhad o’r gwyliau haf, mae’n teimlo nad oes diwedd i’r holl waith trefnu. Efallai dy fod yn trefnu dy fag a dy ffolderi yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd arall, neu efallai dy fod yn paratoi ar gyfer addysgu mewn lleoliad gwbl newydd. Beth bynnag sydd ar y gweill i ti, mae mis Medi bob tro yn amser i hanner edrych ymlaen at, a hanner poeni am ei ddyfodiad!
Yr Ysgol, Chweched a’r Coleg
Os wyt ti’n paratoi at fynd yn ôl i’r ysgol, yna mae’n gyfnod bach rhyfedd, dydi? Dwyt ti ddim o reidrwydd eisiau dychwelyd i’r hen drefn ddiflas, ond rwyt ti’n edrych ymlaen at weld pawb. Mae yna wastad rhywbeth newydd ym mis Medi hefyd, boed hynny’n ddosbarthiadau newydd neu athrawon newydd (o’r diwedd!). Felly, sut mae paratoi? Edrycha yn dy fag ysgol a thynnu bob dim allan. Oes rhywbeth wyt ti’n methu? Ffolder ar gyfer pwnc newydd, neu ydi dy bensiliau di llawer rhy fyr? Gwna restr yn barod ar gyfer mynd i siopa - fel hyn, byddi di’n llai tebygol o anghofio dim!
Efallai bod ysgol newydd yn aros amdanat ti, neu brofiad cyntaf o addysg bellach mewn coleg. Er mwyn paratoi, beth am fynd am dro i’r lleoliad er mwyn cael blas o’r lle, fel nad ydi’r lleoliad yn gwbl ddiarth ar dy ddiwrnod cyntaf? Os bydd di’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cer am brawf bach cyn i ti gychwyn go iawn. Does dim byd gwaeth ‘na mynd ar goll ar dy ddiwrnod cyntaf!


Prifysgol
Does dim dwywaith bod cychwyn yn y brifysgol yn mynd i gymryd ychydig bach mwy o waith paratoi! Wedi’r cyfan, mae’n rhaid i ti gasglu llawer mwy o bethau at ei gilydd ‘na’r hyn sy’n ffitio mewn bag ysgol arferol, yn enwedig os wyt ti’n symud i ffwrdd o adref am y tro cyntaf. Cadwa lygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Lysh, byddwn ni’n rhannu profiadau ein darllenwyr sy’n fyfyrwyr yn fuan!
Mae’n anodd gwybod pryd i gael pethau mewn trefn ar gyfer mynd i’r brifysgol, gan fod y cyffro’n gallu annog ti i baratoi cyn gynted â phosib ond mae cymhlethdod y sefyllfa yn gallu dy ddal di yn ôl! Gyda chymaint i’w wneud, efallai mai gwneud mymryn o bethau ar y tro ydi’r datrysiad - cyn belled a bo ti ddim yn gadael popeth tan y munud olaf!
Prentisiaeth
Dyma brofiad sydd yn hynod o werthfawr - mynediad at waith a dysgu ar yr un pryd? Grêt! Er bod prentisiaethau yn gallu teimlo fel cyfnod trochi rhwng addysg a gwaith, mae’n brofiad tra gwahanol i gymharu gyda dysgu “traddodiadol” mewn ystafell ddosbarth! Gan fod gymaint o gyfleoedd mewn gwahanol meysydd gwaith sydd yn cynnig prentisiaethau bellach, mae’n anodd gwybod yn union sut i baratoi gan fod bob profiad yn unigryw. Ystyria cysylltu gyda’r coleg neu gyflogwr ble byddi di’n gweithio i holi os oes rhywbeth fedri di wneud o flaen llaw er mwyn paratoi a sicrhau bod y diwrnodau ac wythnosau cyntaf yn rhai esmwyth.
Ble bynnag y byddi di’n astudio neu’n gweithio, cofia fod pawb yn yr un cwch ar y diwrnod cyntaf! Os wyt ti dal i deimlo fel nad wyt ti’n barod, cofia bod yna bobl yno i dy gefnogi. Mae pawb eisiau i ti lwyddo, a byddi di’n siŵr o wneud hynny!

bottom of page







