top of page
Therapi?

Therapi... Beth yn union ydi o? Mae gymaint o sôn amdano yn y cyfryngau, mewn teledu a ffilm, ac mae’n edrych fel rhywbeth poblogaidd iawn ymysg dylanwadwyr. Ond, beth yn union ydi therapi? I bwy mae o, ac ydi o rywbeth i’w ofni?
Beth ydi therapi?
Does dim un math penodol o therapi. Yn hytrach, mae’n derm ymbarél am lot mawr iawn o driniaethau sydd, fel arfer, yn cynnwys sgwrsio a thrafod. Er bod amryw o driniaethau therapi ar gael, mae sylfaen bob math yn debyg; cynnig man cyfrinachol i drafod gyda rhywun fydd ddim yn dy feirniadu, i dy helpu i deimlo’n ddiogel wrth drafod dy deimladau personol, dod i adnabod dy deimladau a phatrymau ymddygiad. Weithiau, mae therapi ar ffurf un-i-un gyda therapydd, mewn grŵp gydag eraill mewn cwch tebyg neu gyda dy deulu neu annwyliaid - neu’n gyfuniad!
Rhaid cofio, mae sesiynau therapi yn gywaith rhyngot ti a’r therapydd, felly bydd y fethodoleg neu’r canlyniadau yn wahanol iawn i bawb sydd yn mynychu sesiwn therapi yn ei wahanol ffyrdd.
I bwy mae therapi?
Mae therapi yn agored i bawb. Does dim rhaid i ti fod yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl penodol er mwyn mynychu sesiwn a gweld buddion. Does dim rhaid i ti fod yn oedran penodol, chwaith!
Does dim amser penodol er mwyn cychwyn therapi. Os nad wyt ti wedi mynychu yn y gorffennol, dydi hynny ddim yn golygu ei fod ar gau i ti yn y dyfodol! Yr amser delfrydol am therapi ydi pan wyt ti ei angen.
Beth allai ddisgwyl?
Wel, mae profiadau o therapi yn wahanol iawn. Mae pawb yn wahanol ac yn ymdopi mewn ffyrdd gwahanol, felly mae’n deg dweud bod profiadau o therapi yn wahanol, yn unigryw ac wedi cael ei deilwra i’r unigolyn.
Nid yn unig y math o therapi sydd yn amrywio, ond erbyn heddiw mae lleoliadau yn wahanol i bawb. O swyddfa therapydd i allan ym myd natur, heb anghofio opsiwn rhithiol. Mae therapi yn fwy hygyrch nac erioed!


Ydi o’n rhywbeth i ofni?
Yn syml, nac ydi. Ond, dydi hynny ddim yn golygu nad wyt ti’n mynd i deimlo ofn! Bydd gan bawb teimladau gwahanol pan mae’n dod i fynychu sesiwn therapi cyntaf a does dim ffordd gywir i’w deimlo, boed hynny’n cyffro neu’n bryder.
Efallai bod y mynychu therapi’n rhywbeth y byddi di’n dymuno cadw i ti dy hun neu efallai y byddi di’n hapus ac yn awyddus i rannu gyda’r byd. Eto, does dim ateb cywir - dy fywyd di, dy ddewis di! Ond, uwchben popeth, rhaid cofio dylai ti ddim teimlo cywilydd. Mae siarad am dy deimladau, neu weithio tuag at deimlo’n gyffyrddus i drafod dy deimladau, yn arwydd o gryfder.
Am fwy o wybodaeth am iechyd meddwl, cer draw i wefan Meddwl.
bottom of page
