top of page
Teithio’n Feddylgar

Oes gen ti wyliau ar y gweill eleni? Boed hynny’n wyliau dramor neu wyliau yng Nghymru fechan, mae cael saib rhag yr un hen drefn yn gwneud byd o les!
Wyt ti wedi gweld y newyddion diweddar am brotestio yn erbyn gor-dwristiaeth mewn ambell i wlad, fel Sbaen? Wel, mae pobl sydd yn byw mewn mannau sydd yn boblogaidd gyda thwristiaid wedi cael digon, a gyda phrisiau rhent a chostau byw yn cynyddu, maent yn erfyn ar eu gwleidyddion i weithredu.
Dydi twristiaid ddim yn anghyfarwydd i ni yng Nghymru - wedi’r cyfan, byddwn ni wrth ein boddau yn dod ar wyliau i wlad mor brydferth! Ond rydym hefyd yn gyfarwydd gyda sgil effeithiau negyddol twristiaeth, o’r ymwelwyr amharchus i brisiau tai yn cynyddu tu hwnt i gyrraedd pobl ifanc lleol.
Serch hynny, rydym dal eisiau mynd ar wyliau, does?! Felly, sut mae mynd ati i deithio’n feddylgar?
Parchu’r Iaith
Wyt ti’n teithio i rywle gydag iaith wahanol? Cer ati i ddysgu ychydig o’r eirfa. Paid â phoeni, does dim rhaid i ti fod yn rhugl o gwbl, ond mae dangos parch a pharodrwydd i ddysgu yn mynd yn bell iawn! Fel man cychwyn, mae’r geiriau ar gyfer ‘helo’, ‘plîs’ a ‘diolch’ yn hanfodol. Os wyt ti’n teimlo’n fwy mentrus, ceisia ddysgu brawddeg fer ar dy gof, fel ‘sori, dydw i ddim yn siarad dy iaith’. Bydd pobl yn siŵr o fod llawer fwy parod i sgwrsio’n barchus!
Paid â Gor-yfed
Mae hyn yn arbennig o wir os wyt ti’n mynd ar wyliau am y tro cyntaf heb dy rieni! Mae’n bwysig joio dy wyliau, heb os, ond mae’n bwysig cydnabod pryd mae pethau’n mynd ychydig yn rhy bell. Cofia, er dy fod ar dy wyliau, nid pawb sydd ar eu gwyliau - mae pobl yn byw yno hefyd, ac ambell un yn gorfod deffro i’r gwaith y bore canlynol.
Gwesty!
Problem sy’n rhy gyfarwydd iawn i ni yng Nghymru ydi tai lleol yn cael eu trosi o fod yn dai teuluol i fod yn llety gwyliau, yn ei gwneud hi’n anodd iawn i bobl leol aros yn eu cymunedau. Dydi hyn ddim yn broblem sy’n unigryw i’n gwlad ni. Mae’n digwydd yn Sbaen, yn Ffrainc... unrhyw le ble mae modd gwneud arian o dwristiaeth! Drwy ddewis aros mewn gwesty (sydd, erbyn hyn, yn costio’n debyg) rwyt ti’n cefnogi busnes lleol, swyddi lleol ac yn sefyll yn erbyn y gorddefnydd o lety gwyliau er mwyn cefnogi’r bobl leol.


Prynu’n Lleol
Mae pawb yn joio prynu gan gwmnïau lleol adra, yn cefnogi busnesau annibynnol fel bod yr arian sy’n cael ei wario yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned leol. Wel, mae’r un peth yn wir ar gyfer dy wyliau! Cefnoga bobl leol drwy brynu’n lleol, boed hynny’n ginio mewn marchnad neu geiriach i gofio dy drip.
Antur Wahanol
Does dim dwywaith dy fod eisiau gweld a phrofi’r lleoliadau eiconig i gyd. Mae Rhufain a Fenis ar restr nifer fawr iawn ohonom, ond wyt ti wedi ystyried lleoliadau amgen? Hynny yw, er dy fod wedi eisiau gweld Ffynnon Trevi ers oes pys a cherdded ar y strydoedd hanesyddol, wyt ti wedi edrych ar leoliadau mwy tawel cyfagos? Efallai byddi di’n darganfod trysor er mwyn argymell i dy ffrindiau!
bottom of page







