top of page

Technoleg Werdd

Renewable Energy Field

Byw’n wyrdd - pwy fyddai’n dadlau mai dyma’r ffordd orau i fyw, er ein lles ni a phawb o’n cwmpas? Neb llawer siŵr o fod, ond wedi dweud hynny, pwy fyddai’n dadlau bod byw’n wyrdd yn hawdd?

Dros y blynyddoedd, rydym wedi mabwysiadu sawl ffordd wahanol o fyw’n fwy cynaliadwy. O ailgylchu bwyd a pheidio defnyddio plastig untro i siopa am ddillad ail law a gwneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, mae bob gweithred fach yn cyfri. Felly, gyda’n bywydau “go iawn” ni mor wyrdd â phosib, tybed pa mor wyrdd ydi dy fyd digidol?

Hawdd iawn ydi meddwl bod y byd digidol yn gynaliadwy. Wedi’r cyfan, does dim sbwriel ‘na gwastraff i’w weld o’n hamgylch a dim llygredd yn dod o’n gliniaduron chwaith. Wel, dim sbwriel traddodiadol, beth bynnag! Wyddost ti fod y dewisiadau rydym yn ei wneud yn y byd digidol yn cael effaith sylweddol ar ein planed?

 

Deallusrwydd Artiffisial

Mae’n debyg y byddi di wedi clywed si bod deallusrwydd artiffisial, neu artificial intelligence, yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Sut? Wel, mae’r dechnoleg sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer meddalwedd chwilio neu sgwrsio gyda deallusrwydd artiffisial yn dibynnu ar ganolfannau data anferth, sy’n defnyddio lot mawr iawn o egni a lot mawr iawn o ddŵr er mwyn osgoi gorboethi. Rhaid cofio bod “deallusrwydd artiffisial” yn derm sydd yn cwmpasu sawl wahanol fath o dechnoleg sydd yn ceisio meddwl mewn ffordd ddynol wrth brosesu data’n gyflym, ond dechnoleg sydd yn fwy cyfarwydd (a’r mwyaf niweidiol) i ni ydi bots sgwrsio, sy’n cynnig cyngor diddiwedd ar sawl bwnc a’r dechnoleg yma sydd yn peri pryder modern i’r amgylchedd.

Un tro, ddim rhy bell yn ôl, roedd osgoi'r bots sgwrsio yn hawdd - jest paid â’i ddefnyddio! Ond, erbyn heddiw, mae’r dechnoleg yn cael ei gynnig heb i ti ofyn amdano, yn benodol wrth chwilio am rywbeth gyda pheiriant chwilio. Erbyn gweld, mae ‘na mwy na dim ond y peiriannau chwilio poblogaidd ar gael, ac un sydd hyd yn oed yn defnyddio refeniw o hysbysebion er mwyn plannu coed a rhoddi arian ar gyfer prosiectau amgylcheddol. Ecosia yw’r peiriant hwnnw, ac mae’n un ffordd fach o leihau dy ôl carbon ddigidol.

 

Data Server Room
Phone Circuit Board

Ffôn Lôn

Mae ffôn newydd sbon yn grêt, ond o ti’n gwybod bod modd prynu ffôn sydd ddim o reidrwydd yn newydd, ond yn hytrach yn newydd i ti? Gyda chymaint o ffonau symudol yn y byd, mae'n gwneud synnwyr bod ffonau ail law ar gael yn hawdd ac, os wyt ti'n chwilio yn y mannau cywir, mae'r safon cystal ag un newydd sbon o'r ffatri.

Beth fyddi di'n gwneud efo dy hen ffôn? Wel, yn hytrach 'na'i gadw mewn drôr i hel llwch, mae'n bosib ei werthu (neu ei roi yn anrheg os wyt ti'n teimlo'n hael!). Achub y blaned wrth wneud ychydig o arian - dau dderyn, un garreg!

 

Siopa’n Synhwyrol

Rhaid cyfaddef ein bod ni gyd rhyw ben wedi siopa gyda chwmni sydd ddim yn grêt o ran moeseg amgylcheddol. Wedi'r cyfan, mae dod o hyd i frand sy'n becso am y blaned yn her ac maent yn dda iawn am daflu llwch i'n llygaid er mwyn smalio bod yn frand eco.

Er mwyn darganfod pa frandiau sy'n wirioneddol rhannu dy ddyhead am amgylchedd iach, cer draw i wefan GoodOnYou. Maent yn rhoi sgôr i frandiau ffasiwn a harddwch, a hynny'n seiliedig ar ei effaith ar y blaned, sut maent yn trin pobl yn y gadwyn creu a hefyd effaith ar anifeiliaid.

 

Browsing
bottom of page