top of page

Syrthio am Sgam

Cyber_security.jpg

Wyt ti’n credu dy fod yn seibr-ymwybodol? Hynny yw, os wnei di ddod ar draws sgâm, boed hynny’n e-bost, neges destun neu alwad gan rif anhysbys neu lythyr drwy’r post, wyt ti’n hyderus y byddi di’n gallu adnabod y sgâm cyn i ti syrthio mewn i’r trap?

Does gan sgamwyr ddim cynulleidfa darged penodol - maen nhw’n targedu pawb, yn y gobaith o ddod ar draws unigolyn diniwed i ymddiried ynddynt. Yn ôl gwefan UK Safer Internet Centre, mae 79% o bobl ifanc yn dod ar draws sgams ar-lein yn fisol a 20% yn dod ar draws sgâm bob dydd. Nid yn unig hynny, mae 46% o’r bobl ifanc hynny wedi syrthio am sgam.

 

“Ydw hwn yn wir...?”

Os wyt ti’n derbyn neges sy’n gofyn i ti glicio ar linc neu’n dy fygwth am arian o gan smalio eu bod o gwmni swyddogol, y peth gorau i ti wneud ydi amau popeth. Amheuaeth yw’r arf orau! Paid â chlicio ar yr un linc a phaid ffonio unrhyw rif ar lythyr, chwaith. Cer ar y we dy hunan er mwyn edrych am rif ffon ar wefan swyddogol. Os ydi’r neges yn un gwir, fe all y cwmni wirio hynny. Os ydi’r neges yn un ffug, diolcha dy amheuaeth!

Os wyt ti’n derbyn galwad gan fy fanc, mae’n bwysig cofio na fydd yr un banc yn dy ffonio heb rybudd er mwyn holi am dy gyfrinair, dy rif PIN na chwaith er mwyn gofyn i ti symud dy arian. Petai ti’n derbyn galwad o’r fath, rho’r ffôn i lawr yn syth. Os wyt ti eisiau gwirio’r hyn ddigwyddodd, ffonia dy fanc yn ôl ar y rhif swyddogol sydd ar eu gwefan.

​

Laptop Keyboard
Mobile Phone

“Neges Gymraeg... Ond mae’r geiriad yn rhyfedd...”

Yr hyn sy’n cadw’r sgamwyr mewn busnes ydi pobl ddiniwed a newid tactegau’n gyson. Coeliwch neu beidio, allwn ni ddim hyd yn oed cuddio y tu ôl i’n mamiaith bellach! Efallai y byddwch wedi gweld pobl yn rhybuddio ar-lein am y fath yma o sgam, neu wedi derbyn un eich hun. Dyma dacteg eithaf clyfar, sy’n chwarae ar gymaint mae rhywun yn ymddiried yn eu cyd-ddyn o’r un famiaith. Os yda chi’n derbyn neges yn y Gymraeg gan ddieithryn, ble mae’n edrych fel tasai rhywun wedi cyfieithu gyda theclyn ar-lein, yna’r peth callaf i wneud ydi ei anwybyddu a rhybuddio eich ffrindiau, wrth gwrs.

Does gan sgamwyr ddim yn gwahaniaethu. Maen nhw’n taflu’r rhwyd mor eang ag sy’n bosib yn y gobaith y bydd un neu ddau yn bachu. Mae ambell un wedi rhannu profiadau ar-lein am dderbyn neges gan ffrind neu aelod o’r teulu yn erfyn arnynt am gymorth ariannol brys - eto, sgamiwr sy’n gobeithio cyrraedd cyfaill ffyddiog. 
​

“Wnes i syrthio am sgam... Be nesa’?!”

Os wnes di syrthio am sgam, mae’n siŵr dy fod yn teimlo’n hollol ych-a-fi. Mae hynny’n hollol ddealladwy, ond dim nawr yw’r amser i ymdrybaeddu. Gei di ypsetio wedyn, ond am y tro, mae’n rhaid i ti sicrhau bod dy ddata a dy arian yn ddiogel. Cer ar dy deulu neu ffonia ffrind, a cher i ddiogelu dy hun!

Os wyt ti wedi anfon arian i sgamiwr, neu yn credu bod dy fanylion ariannol wedi cael eu dwyn, mae’n holl bwysig dy fod yn ffonio’r banc. Bydden nhw’n siŵr o siarad trwy bob cam, ac yn annog chi i ffonio’r heddlu er mwyn adrodd y sgam.​

Os wyt ti wedi rhoi mynediad i dy gyfrifiadur neu unrhyw declyn arall drosodd i sgamiwr, cer ati i newid dy holl gyfrineiriau - ia, bob un, gan gychwyn gyda dy gyfrif banc ar-lein. Cofia ddefnyddio teclyn gwahanol i wneud hyn, i fod yn hollol ddiogel!

Weithiau, mae sgamwyr yn hacio eich cyfrifon cymdeithasol. Eto, cerwch ati i newid holl gyfrineiriau eich cyfrifon eraill, yn enwedig os yda chi’n defnyddio’r un cyfrinair i bob cyfrif. Os yda chi wedi cael eich cloi allan o’ch cyfrif, mae mynd ati i adfer eich mynediad yn gallu bod yn boen. Am fwy o fanylion ar sut i wneud hyn, cerwch draw i wefan y Ganolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol, yma:


https://www.ncsc.gov.uk/guidance/recovering-a-hacked-account
 

Using a Tablet_edited.jpg
bottom of page