top of page
Swatio

Sawl gwaith wyt ti wedi clywed y geiriau “mae’r tywydd wedi troi, do?” wythnos yma? Neu, sawl gwaith wyt ti dy hun wedi ei adrodd?!
Wel, sori, ond mae’r tywydd wir wedi troi, ac mae’n hen bryd i ni baratoi ar ei gyfer a dechrau swatio. Ychydig o wythnosau yn ôl, roeddwn ni’n trafod haenau’r hydref a sut i gadw’n gynnes (heb fod yn rhy boeth) yn ystod y tymhorau oer, ond y tro hwn byddwn ni’n ystyried dy dŷ! Sut mae cadw hafan glyd, heb wario ffortiwn?
Llenni
Wyddost ti fod llenni yn gallu cadw’r oerni draw, nid dim ond golau dydd yn unig? Os wyt ti wedi bod yn meddwl buddsoddi mewn llenni newydd, yna mae’n werth ystyried llenni sydd wedi cael eu dylunio er mwyn cadw’r ystafell yn gynnes. Does dim rhaid iddynt fod yn rhai diflas, chwaith, gan fod dewis eang o ddyluniadau ar gael bellach! Cadw’n gynnes a chadw’n steilysh? Lysh!
Carped
Os wyt ti’n mynd i siopa am lenni, yna ystyria ryg os nad oes gen ti un yn barod. Mae carped diddorol yn gallu clymu edrychiad ystafell yn berffaith! Nid yn unig hynny, ond mae’n gallu cynhesu ystafell, yn arbennig os oes gen ti loriau pren neu oer. Cofia, mae’r ryg yn gallu bod yn hen beth drud, felly cadwa lygaid allan am un ail law.
Goleuadau tylwyth teg
Ocê, dydi goleuadau tylwyth teg ddim yn mynd i gynhesu mymryn arnat yn gorfforol, ond maen nhw’n hanfodol er mwyn creu awyrgylch clyd! Os wyt ti’n mynd i fod yn sownd yn y tŷ yn mochel rhag y tywydd garw, mae’n bwysig bod dy ardal fach di mor gysurus â phosib. O, a chofia batris ar gyfer y goleuadau tylwyth teg!


Cau’r Drysau
Mae’n haws cadw un ystafell ‘na chynhesu’r tŷ cyfan, sy’n gwneud synnwyr, dydi? Felly, os wyt ti’n bwriadu aros mewn un ystafell neu fentro i un arall yn ystod y dydd, cofia cau’r drws ar dy ôl! Dyma ffordd syml ond effeithiol iawn o gadw’n gynnes yn y tŷ heb wario ar ddim. Rhaid rhybuddio, fodd bynnag, unwaith y byddi di’n dechrau dod i arfer â chau drysau ar dy ôl, fyddi di’n dechrau brathu ar unrhyw un sy’n anghofio cau’r drws - rhag eu cywilydd nhw yn gadael y gwres allan!
Dillad clyd
Beth yw’r pwynt i gadw’r tŷ yn gynnes os nad wyt ti’n cadw dy gorff dy hun yn gynnes?! Sanau da a thrwchus, un o’r siwmperi ‘na sydd fel un blanced fawr neu efallai bod hi’n amser i ti ddechrau trend newydd gyda siôl dda (sydd, eto, fel blanced fawr). Os nad oes gen ti’r uchod yna mae’n bryd i fi brynu rhai (yn ail law, wrth gwrs) achos mae’n braf cael rhywbeth drwy’r post i godi calon ar ddiwrnod llwyd a llwm!
bottom of page
