top of page

Dan Straen:

Ein Perthynas Gyda’n Hedrychiad

Wel, dyma ni. Reit yng nghanol tymor y Gwanwyn a chymaint i edrych ymlaen ato dros yr Haf. Dyma dymor o greu atgofion, o hwyl a sbri a digonedd o hynt a helynt. 

Mae un agwedd benodol sy’n gwenwynu ein mwynhad, a hynny ydi pla'r ‘beach body’. Er ein bod ni gyd yn hollol ymwybodol fod y lluniau fyddwn ni’n eu gweld mewn cylchgronau ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwbl anghyraeddadwy a bod y nifer helaeth wedi cael eu golygu a’u photoshopio, mae’r pwysau i newid ein cyrff i edrych mewn ffordd benodol i’w deimlo o hyd.

Pwy well, felly, i holi na Cadi Fôn, hyfforddwr personol a pherchennog stiwdio ffitrwydd yn Ninas Dinlle.

 

Photo 09-05-2023, 19 55 51.jpg

Teimlo’r Pwysau

Coeliwch neu beidio, mae hyn oed hyfforddwr ffitrwydd profiadol wedi teimlo’r pwysau i edrych mewn ffordd benodol. Mae’n digwydd i ni gyd!

“Yn sicr, dwi wedi teimlo o dan bwysau i edrych mewn ffordd benodol, yn enwedig ers dechrau gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd yn fy ugeiniau cynnar,” eglurai. “O’ni’n arfer mynd hynod o stressed wrth roi pwysau ymlaen gan fy mod yn meddwl bod angen i mi edrych fel y stereoteip ‘hyfforddwr personol’. Ar y pryd, o’ni reit obsessed efo be oni’n bwyta a pha faint dillad oeddwn i eisiau bod a doedd o ddim yn iach.”

“Dwi ddim yn teimlo fel hyn rŵan. Mae’r ffordd dwi’n hyfforddi eraill yn pwysleisio ar gryfhau, gwella iechyd, cyrraedd targedau personol, teimlo’n dda, a mwynhau bywyd wrth wneud hyn. Dyma’n union y ffordd dwi’n hyfforddi fy hun. Dwi’n teimlo’n fwy hyderus am sut dwi’n edrych rŵan, er gennai mwy o rannau wobli ers cael plant.”

 

“Dwi yn meddwl bod gan y cyfryngau cymdeithasol ran i chwarae gan fod lluniau pawb yn eu bikinis ac yn y blaen! Dydi hyn ddim yn rhywbeth newydd, roedd y cylchgronau o’ni’n prynu wrth dyfu fyny yn llawn lluniau selebs yn eu bikinis hefyd!”
 

Dod i ddeall pam

Mae’n wir i ddweud fod bob un ohonom ni wedi teimlo pwysau i edrych mewn ffordd benodol rhyw ben, ac mae’n bwysig i ni ddod i ddeall pam.

“Dwi’n meddwl ei fod o bron yn reddf naturiol, ein bod ni’n fwy ymwybodol o’n cyrff yn arwain at yr haf gan ein bod ni’n gwisgo llai o ddillad ac yn aml dwi’n meddwl bod llawer o bobl yn colli pwysau yn naturiol yn y cyfnod yma gan ein bod ni’n dueddol o fwyta llai ac yn treulio mwy o amser y  tu  allan , yn symud fel mae’r tywydd yn cynhesu,” esboniai Cadi. 

Daw ychydig o newyddion da, gan fod Cadi yn credu fod taith y ‘beach body’ yn dod i ben!

“Yn y byd ffitrwydd, dwi’n gweld marchnata ‘beach bod’ yn dechrau marw allan, diolch byth! Mae ‘na lot fwy o bwyslais ar wneud pethau yn raddol, gan ddefnyddio dulliau mwy holistig.”

 

Photo 09-05-2023, 19 55 21.jpg

“Be dwi’n meddwl sydd angen newid? ‘Diet culture’ a marchnata ffug, sef y cwmnïau mawr sy’n gwneud i ni feddwl bod bwydydd a chynnyrch penodol yn dda i’n hiechyd pan dydyn nhw ddim!”, meddai. “Y peth pwysicaf, yn fy marn i, ydi addysgu’r genhedlaeth nesaf â’u hiechyd, delwedd corff, maeth, coginio, a hyn i gyd heb bregethu.”
 

Photo 09-05-2023, 19 55 23.jpg

Lleddfu’r pwysau

Mae teimlo pwysau i edrych mewn ffordd benodol yn brofiad sy’n gyfarwydd i ni gyd felly mae’n bwysig dod i wybod sut allwn ni lleddfu ychydig ar y straen yna.

“O ran lleddfu straen, dwi’n meddwl y peth gorau un ydi darganfod ymarfer rwyt ti’n ei fwynhau a gwneud hynny’n rhan naturiol o dy fywyd a ddim yn faich,” eglurai. “Mae gan bawb rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau, ac weithiau tydi pobl ddim yn darganfod y peth yma tan eu bod nhw’n hŷn, ond tydi o byth yn rhy hwyr.”

“Dwi bob tro’n trio annog pobl i osod targedau personol, fel gallu gwneud pressup llawn hefo techneg da, neu rywbeth mwy eang, fel magu’r hyder i allu ymuno â grŵp ffitrwydd ac ymarfer corff o flaen pobl eraill. Mae bod yn hapus hefo’r ffordd ti’n edrych yn aml iawn yn dod fel by-product o osod targedau fel hyn.”

 

bottom of page