top of page

Straen y Socials:
Pethau i Gofio Wrth Sgrolio

Straen y Socials 2.jpg

Rhaid dechrau yn blwmp ac yn blaen - does dim modd osgoi pwysau a straen sy’n dod law yn llaw gyda’r cyfryngau cymdeithasol. Ac ar yr un pryd, does dim modd osgoi’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfan gwbl chwaith, nag oes? Er bod ochr bositif i’r holl wefannau ac aps cymdeithasol, sy’n gallu creu cymunedau cefnogol ac agor drysau na fyddai’n bodoli fel arall, mae yna wastad agwedd dywyll yn stelcian yn y cefndir - un post sy’n disgwyl yn eiddgar amdanat ti, cyn chwalu dy fwynhad di’n deilchion!

Wedi i ni holi darllenwyr Lysh, daeth i’r amlwg bod gwarchod iechyd meddwl wrth ddefnyddio’r socials yn her, gyda 75% yn credu bod defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Pan mae’n dod i reoli defnydd o’r holl aps, mae 90% o’n darllenwyr wedi mynd ati i geisio cyfyngu’r amser maent yn treulio ar y cyfryngau cymdeithasol gyda dim ond 30% wedi llwyddo.

 

Bywydau Perffaith
 
Oes rhywbeth mwy rhwystredig ‘na eistedd i lawr i edrych ar fideos doniol, ond i ddarganfod lluniau gwyliau merch oeddat ti’n ysgol gyda. Ei thrydydd gwyliau eleni, dim llai! A be ti wedi bod yn gwneud? Lle wyt ti wedi bod am wyliau? Wel, yng ngeiriau Meinir Gwilym, dim byd a nunlla!

Mae’r persbectif sy’n cael ei gynnig gan y cyfryngau cymdeithasol a’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i ni yn sych. Yn y foment yna ble ‘da ni’n edrych ar fywydau grand pobl eraill, mae fel petai’n ymennydd ni’n cuddio bob dim da sydd yn ein bywydau ni neu’r holl bethau cyffrous sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn ein bywydau. Rhaid camu yn ôl weithiau er mwyn gwerthfawrogi’r darlun llawn. Mae pawb yn byw bywydau sy’n hollol unigryw, bob bywyd yn dilyn trywydd gwahanol - does dim rhaid i ti gymharu dy fywyd di gydag unrhyw fywyd ar-lein.
 

Straen y Socials.jpg
Work Desk

Dydi socials ddim yn fywyd go iawn

Ar y nodyn yna, dydi’r bywydau sgleiniog sy’n cael ei bostio ar-lein ddim yn fywydau go iawn. Rhaid i ni gyfaddef, dyda ni ddim postio ein bywyd go iawn ar-lein fel rheol, achos pwy sydd eisiau gweld y llanast llwyr sydd ar dy ddesg a’r gadair sydd bellach yn domen ddillad?

Er dyda ni ddim yn rhannu ein bywydau go iawn ar-lein, am ryw reswm da ni’n anghofio bod pobl eraill, selebs a dylanwadwyr, yn osgoi rhannu eu bywydau go iawn, hefyd. Mae’n hen beth rhyfedd, dydi? Beth yw’r ateb, felly? Wel, mae treulio llai o amser ar-lein yn un opsiwn.

Paid â phoeni, dyda ni ddim am awgrymu taflu’r ffôn mewn cwpwrdd drwy’r dydd. Wedi’r cwbl, da ni angen cadw yn y lŵp efo digwyddiadau! Os ‘da chi’n teimlo bod sgrolio yn cael effaith negyddol, mae’n gwneud synnwyr i leihau’r amser da chi’n treulio arno. Er, mae’n debyg nad ydi’r hyd perffaith i dreulio arlein yn bodoli, gyda rhai arbenigwyr yn cynnig hanner awr y dydd ac eraill yn cynnig dwy awr y dydd. Felly, ceisia ddod o hyd i dy hyd perffaith di. Os oes teclyn rheoli defnydd ac amser sgrin ar dy ddyfais di, rho gynnig arni a lleihau’r defnydd o’r socials o chwarter awr bob dydd. Pwy a ŵyr, ella gei di amser i sortio’r tomen o ddillad ‘na o’r diwedd!

 

bottom of page