top of page
Stopia sgrolio – gigs yw’r gorau!
Gan Tesni Hughes

Dan ni i gyd wedi bod yna. Sgrolio trwy TikTok am 2 y bore, clustffonau ymlaen, yn cael dy hudo gan y trac nesa sy’n glanio ar dudalen For You. Neu ella dewis a dethol rhestr chwarae Spotify, gan ddarganfod bod y gân yna sy’n llawn rhegi wedi'i hysgrifennu ar dy gyfer di’n arbennig. Iep. Mae gan gerddoriaeth ffordd o'n tynnu i mewn, ble bynnag dan ni.
Ond wsti be? Ni all unrhyw nifer o lŵps TikTok na sesiynau Spotify gyd-fynd ag egni cerddoriaeth fyw. Gwylio band yn chwarae mewn amser real, y bas yn ysgwyd y llawr, y dorf yn canu fel un - mae'n hollol wahanol.
Pan wnes i helpu trefnu ein gig cyntaf Miwsig Môr a Mynydd yn Wellman’s yn Llangefni ym mis Tachwedd y llynedd, welish i’r hud yma yn datblygu. Roedd cael gweld Maes Parcio, Buddug, a Celt ar y llwyfan yn fwy na jyst cerddoriaeth; roedd yn gysylltiad. Roedd y bobl nid yn unig yn gwrando, ro’n nhw’n rhan o'r foment. Dyna’r peth am gigs byw: dwyt ti ddim yn clywed y gerddoriaeth yn unig; rwyt ti'n ei deimlo.
Yn sicr, gall TikTok roi remixes cŵl ac artistiaid newydd diddiwedd i ti eu darganfod, ond mae hefyd yn, wel ... unig, dydi? Dydy gwylio clipiau ar dy ffôn ddim yr un peth â sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â phobl eraill, sgrechian geiriau cân dach chi i gyd yn ei charu. Mae cerddoriaeth fyw yn eich tynnu allan o'r sgrin ac i fywyd go iawn.
A Spotify? Paid â'm camddeall i, dw i'n byw am restr chwarae dda (mae eu gwneud nhw’n gelfyddyd, dydi?), ond go wir – rwyt ti yn dy fyd bach dy hun gyda dy glustffonau ymlaen. Mewn gig, mae'r gerddoriaeth yn cymryd drosodd yr ystafell. Mae'n amrwd, yn amherffaith ac yn anrhagweladwy. Efallai y byddi di'n colli dy lais, yn chwysu, ac yn taro i mewn i ddieithriaid yn ddamweiniol, ond dyna'r eiliadau na fyddi di byth yn eu hanghofio.


Y rhan orau? Does dim rhaid i ti deithio i Fanceinion i gael y teimlad hwn. Gall ddigwydd yn dy gymuned dy hun. Dyna hanfod Miwsig Môr a Mynydd - dod â bwrlwm cerddoriaeth fyw i Ynys Môn a’i wneud yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei rannu. Ni fyddai’r cyfan wedi bod yn bosib heb gefnogaeth Llwyddo’n Lleol, prosiect sy’n grymuso pobl ifanc ardal Arfor i greu cyfleoedd ac adeiladu cymunedau ffyniannus. Roedd y gefnogaeth yn galluogi ni i gychwyn ar y daith heb orfod mentro’n ariannol o’n pocedi ein hunain. Roedd yn rhoi’r hwb a’r safety net oedd ei angen i roi cynnig ar y syniad am gig cyntaf, ac i brofi os oedd galw am y math yma o beth. Heb yr arian, byddai’n anodd iawn gweld y weledigaeth yn dod yn realiti.
Tro nesa y byddi di'n sgrolio TikTok, yn edrych ar glipiau gig rhywun arall, cofia: fe allet ti fod yn creu dy atgofion dy hun. Chwilia am gig lleol, casgla dy ffrindiau ynghyd, a jyst DOS. Rho dy ffôn yn dy boced am ychydig oriau ac amsugna’r cyfan i mewn.
Oherwydd ni waeth faint o ffiltyrs, lŵps, neu restrau chwarae sydd gen ti, does dim byd yn well na sefyll o flaen llwyfan, teimlo'r gerddoriaeth yn dy galon, a gwybod dy fod di’n rhan o rywbeth go iawn.
Be nesa i Miwsig Môr a Mynydd? Mwy o gigs, mwy o egni, a chynlluniau mwy fyth i gadw'r gerddoriaeth yn fyw ac yn ffynnu yma ar Ynys Môn – cadwa lygad allan ar ein tudalen Instagram!


bottom of page