top of page

Sophia ac Astrid

sophia haden.jpg

Haia. Sophia ydw i a dwi’n 18 mlwydd oed. Dwi yn fy mlwyddyn gyntaf o’r brifysgol yn astudio ffisiotherapi. Dwi’n joio pob math o bethau ac nid yw fy stoma yn stopio fi rhag gwneud y pethau yr wyf yn eu mwynhau!

Ges i ddiagnosis o Ulcerative Colitis pan o'n i’n 17 ar ôl bod yn yr ysbyty am beth amser. Rhoddon nhw gyffuriau i mi a weithiodd hynny am dipyn. Mae ulcerative colitis yn glefyd cronig sydd yn effeithio eich coluddyn mawr ac mae’r corff, basically, yn ymosod ar ei hunan - bach yn rubbish! Mae’n achosi loads o boen, blinder, colli pwysau a’r angen i fynd i’r tŷ bach drwy’r amser. 

Tua thri mis yn ddiweddarach, ym Mehefin 2023, mi oedd angen i fi fynd i’r ysbyty unwaith eto o ganlyniad i’r un broblem. Roedd y cyffuriau yn methu ac nid oedd un rhywbeth yn gweithio, felly’r ateb nesaf oedd llawdriniaeth gan fy mod i’n colli’r frwydr i’r clefyd. Chi’n gallu dychmygu, i ferch 18 mlwydd oed oedd ar fin dechrau yn y brifysgol, roedd e’n anodd clywed hyn ond roedd y llawdriniaeth a’r stoma yma yn mynd i achub fy mywyd. Mewn rhyw olau, mi oedd e’n beth da.

 

Bydde esbonio i chi be’ dydi stoma siŵr o fod yn le da i fynd nesaf! O ganlyniad i fy nghlefyd, mi oedd rhaid iddyn nhw dynnu fy ngholuddyn mawr allan a thynnu rhan o ‘ngholuddyn bach o fy mola fel bod popeth yn gallu dod mas y ffordd yna. Mae bag ‘da fi ar fy mola sydd yn gorchuddio’r stoma er mwyn i bopeth fynd i mewn iddo. Fi’n cofio pan o’n i ar fy ngwyliau, mi oeddwn i’n teimlo bach o bryder dros Astrid, y stoma (coeliwch chi fi, mae enwi’r stoma yn gwneud pethau lot yn haws!) ond weles i rywun gyda mewnblaniad clefyd y siwgr yn dangos gyda balchder, felly roedd hynny’n rhoi hyder i mi fod yn falch hefyd!

Roedd fy iechyd meddwl yn y dyddiau cynnar ar ôl y driniaeth yn iawn gan fy mod jyst eisiau fy mywyd ‘nôl! Ond, roedd yn hynod anodd yn gorfforol gan nad oeddwn i’n gallu gwneud llawer o bethau yn y dyddie cynnar yna. Ar ôl rhai misoedd, fe wnaeth e fwrw fi braidd mai dyma oedd fy mywyd i bellach, a dwi wedi crio llawer am y peth - mae fy nghariad i’n sicr yn dyst i’r holl grio! Er hyn, fe wnaeth y stoma achub fy mywyd ac mae’r ffordd o fyw sydd gennyf nawr shwt gymaint yn well!

 

Sunset Portrait_edited.jpg

Fy mhrif reswm dros rannu fy stori ar draws fy nghyfryngau cymdeithasol yw er mwyn cyfleu’r ffaith nad yw pob anabledd yn weladwy ac i addysgu pobl beth yw stoma ac IBD hefyd. Mae'n bwysig i mi i dorri’r ystrydebau a’r stigma sydd yn amgylchynu’r clefyd a’r driniaeth. Ar hyn o bryd, dwi’n codi arian ar gyfer Crohns and Colitis UK. Mae’n elusen sydd yn agos iawn at fy nghalon ac yn helpu pobl i gael diagnosis a chymorth gan ei fod yn gallu bod yn glefyd erchyll.
 

bottom of page