top of page
Sôn am Sgrinio

Wyt ti erioed wedi clywed sôn am sgrinio serfigol? Neu, fel yr hen enw oedd yn peri gofid â’i sain ych-a-fi, “smear test”? Wel, os oes gen ti serfics, mae’n bosib y byddi di’n derbyn llythyr drwy’r post pan fyddi di’n 25 (a bob 5 mlynedd wedi hynny) yn dy wahodd di ar gyfer sgrinio serfigol. Mae gen ti hawl derbyn y prawf hwn. Efallai na fydd y llythyr hwn yn cyrraedd dy stepen ddrws di am sawl blwyddyn eto, ond rhag ofn dy fod di’n poeni am ddyfodiad y diwrnod hwnnw, tyrd i ni edrych ar beth yn union sydd ynghlwm...
Be di be?
Prawf eithaf syml o ran ei dechneg ydi sgrinio serfigol, sydd yn defnyddio sbecwlwm a brwsh bach i gasglu celloedd o’r serfics, neu geg y groth. Mae’r sampl yma yn cael ei ddadansoddi mewn labordy er mwyn chwilio am fathau risg uchel o feirws papiloma dynol, neu HPV.
Y Drefn
Cyn mynd ymlaen, mae'n rhaid cofio bod profiadau yn gallu amrywio. Amlinelliad bras ydi hwn, ac mae'n bwysig cysylltu gyda'ch canolfan iechyd gyda chwestiynnau penodol.
Mae mynd am sgrinio serfigol yn gallu bod yn brofiad ych-a-fi os nad wyt ti’n gwybod beth sydd o dy flaen. Wel, i ddweud y gwir, dydi o ddim yn brofiad braf iawn hyd yn oed os wyt ti yn gwybod beth sydd o dy flaen, ond dydi o’n sicr ddim yn rhywbeth mae rhywun yn edrych ymlaen at! Ta waeth, tyrd i ni edrych ar sut y drefn yn fras.
Yn gyntaf, bydd gweithiwr iechyd yn dy alw di i mewn. Efallai byddan nhw’n holi ychydig o gwestiynau i ti. Os wyt ti’n pryderu am unrhyw beth, boed hynny oherwydd ansicrwydd neu os wyt ti wedi cael profiad gofidus yn y gorffennol, mae’r gweithwyr proffesiynol yna i dy gefnogi di. Cofia fod modd i ti ofyn i rywun i ddod i mewn gyda ti
Cyn mynd ymlaen, os wyt ti’n teimlo’n ansicr neu os wyt ti mewn poen ar unrhyw adeg, rho wybod i’r gweithiwr iechyd gan fod modd gwneud addasiadau.


Nesaf, byddi di’n cael dy wahodd i orwedd ar y gwely meddygol ar ôl tynnu dy ddillad isaf. Mae cryn dipyn o drafod ymysg merched o ran ble mae rhywun i fod i osod nicyrs. Wedi ei blygu’n dwr ar ben dy drowsus sydd wedi ei blygu ar y gadair... Wedi ei guddio yn dy drowsus... Yn dy drainers... Efallai nad oes ateb cywir!
Pan fydd amser yn dod, bydd gofyn i ti orwedd yn ôl gyda dy ben gliniau wedi plygu a dy draed efo'i gilydd. Weithiau, maent yn gofyn i ti i osod dy ddwy law mewn dwrn o dan dy ben ôl er mwyn medru cyrraedd y serfics yn haws, ond mae corff pawb yn wahanol!
Bydd y gweithiwr iechyd yn defnyddio sbecwlwm, sef offeryn plastig sy’n ei wneud yn haws i weld a chyrraedd y serfics. Gan fod corff pawb yn wahanol, weithiau mae angen sbecwlwm maint gwahanol er mwyn osgoi ychydig o boen. Does dim byd yn bod gyda hyn - eto, mae pawb yn wahanol!
Mae swab yn cael ei ddefnyddio nesaf, yn cael ei roi drwy’r sbecwlwm er mwyn brwsio yn erbyn y serfics a chasglu sampl.
Ar ôl chau’r sbecwlwm a’i dynnu allan, dyna ni! Mae’r drefn i gyd wedi ei orffen mewn llai o amser ‘na mae’n cymryd i ddarllen yr erthygl yma!
Yr aros yw’r cam nesaf, ble mae’r swab yn cael ei anfon draw er mwyn ei ddadansoddi. Bydd y canlyniadau yn cael ei rannu gyda ti ymhen ychydig, ond bydd dy weithiwr iechyd yn gallu egluro mwy i ti am amseroedd aros ac ati.
Dy Normal Di
Does dim rhaid aros am lythyr pan wyt ti’n 25 oed os wyt ti’n poeni bod rhywbeth o’i le, ac mae hynny’n wir gydag unrhyw beth! Os wyt ti’n sylweddoli ar rywbeth sydd ddim yn normal i ti (ac mae normal pawb yn wahanol), yna mae cysylltu gyda’r meddyg teulu yn fan cychwyn gwych. Cofia, ti sy’n adnabod dy gorff di yn well ‘na neb arall!

bottom of page
