top of page
Sgwennu a serennu:
Cofia ddechrau wrth dy draed
Gan Lleucu Non

Mae’n hawdd meddwl bod ysgrifennu’n rhywbeth i bobl eraill. Pan oeddwn i’n blentyn, roedd fy mhen yn llawn straeon, a’m breuddwyd oedd gallu eu rhannu ag eraill un diwrnod, felly dyna beth rwyf wedi bod yn gweithio tuag ato. Roedd cystadlu yn yr Eisteddfod ysgol yn rhywbeth roeddwn i’n ei wneud bob blwyddyn, ond roedd hynny’n wahanol i weld fy ngeiriau mewn llyfr go iawn.
Felly pan gefais y cyfle i gyfrannu at Fesul Darn — casgliad o straeon byrion gan awduron ifanc o Arfor, wedi’i gyhoeddi fel rhan o brosiect Llwyddo’n Lleol — doedd dim rhaid i fi feddwl ddwywaith. Mae’r gyfrol yn tynnu sylw at leisiau newydd sy’n archwilio bywyd, gwaith a hunaniaeth yn y siroedd lle mae’r Gymraeg yn greiddiol i’r cymunedau. Ond roedd un peth yn gwneud y cyfle hwn hyd yn oed yn fwy cyffrous — am y tro cyntaf erioed, roeddwn i’n cyhoeddi stori wedi’i lleoli yn fy milltir sgwar, Dyffryn Nantlle.
Ac roedd hynny’n newid popeth.
Ble i ddechrau? Wrth dy draed
Os wyt ti eisiau ysgrifennu, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau, dyma fy nghyngor cyntaf: dechreua wrth dy draed. Ysgrifenna am yr hyn rwyt ti’n ei wybod. Dy ardal, dy gymuned, dy brofiadau di.
Pan ddechreuais ysgrifennu fy stori ar gyfer Fesul Darn, roeddwn i ar drên rhwng Gwynedd a Cheredigion, yn meddwl am y cyfnodau hynny pan rwyt ti’n gadael un lle ond heb gwbl ymgartrefu yn unman arall. Roeddwn i wedi bod adref am y penwythnos ac yn teimlo'r hiraeth yn fy esgyrn. O hynny, daeth syniad fy stori: Ani, merch sydd wedi symud yn ôl i Ddyffryn Nantlle ar ôl y brifysgol, ond sydd wedi gorfod gadael ei chariad ar ôl.
Dydy’r stori ddim yn hunangofiannol — ond mae wedi’i wreiddio ym mhrofiadau ac emosiynau go iawn. Ac os wyt ti eisiau ysgrifennu, dyna’r ffordd orau i ddechrau.
Ysgrifenna am bethau cyfarwydd:
Dy bentref neu dy gartref – beth sy’n ei wneud o’n arbennig?
Unrhyw brofiad sydd wedi aros yn y cof – rhywbeth bach neu fawr.
Rhywun rwyt ti wedi cwrdd â nhw – efallai bod sgop creu cymeriad?
Lle sy’n teimlo’n bwysig i ti – beth yw’r atgofion rwyt ti’n eu cysylltu ag o?
Pan fyddi di’n dechrau gyda rhywbeth gwir, go iawn, mae’r ysgrifennu’n teimlo’n haws. O hynny, fe all syniadau eraill ddatblygu.


Sna’m fath beth â “Pherffaith”
Bydd llawer yn dweud bod angen i ti gael “syniad mawr” cyn dechrau ysgrifennu. Ond mae hynny’n gelwydd llwyr.
Weithiau, mae’n dechrau gyda dim ond un llinell.
Yn fy ap ‘Notes’ ar fy ffôn mae rhestr hir o linellau a syniadau hollol ar hap. Weithiau bydd rhywbeth yn fy nharo i’n sydyn — a fydda i’n ei nodi cyn i mi anghofio. Weithiau, misoedd yn ddiweddarach, byddaf yn tynnu’r syniad hwnnw allan a gweld sut gallaf ei droi’n rhywbeth mwy.
Os oes unrhyw syniad yn dy ben — ysgrifenna fo lawr. Paid â cholli’r foment honno, oherwydd does dim teimlad gwaeth na gwybod dy fod wedi colli syniad oedd â photensial go iawn! Efallai na fydd o’n troi’n stori heddiw, ond bydd gen ti rywbeth i fynd yn ôl ato pan fydd yr ysbrydoliaeth yn taro eto.
Gwna fo’n Gymraeg!
I fi, mae ysgrifennu yn Gymraeg yn ail natur. Os ydw i’n teimlo rhywbeth yn gryf ac yn methu ei fynegi mewn geiriau llafar, rwy’n ei ysgrifennu i lawr. Mae’n ffordd o wneud synnwyr o bethau.
Mae ysgrifennu yn gallu bod yn therapi neu’n ffordd o ddod i nabod dy hun. Ac mae gwneud hynny yn dy famiaith dy hun yn bwysicach fyth. Mae’n sicrhau bod y Gymraeg yn fyw ac yn greadigol.
Os nad ydyn ni’n ysgrifennu ein straeon ein hunain yn ein hiaith ein hunain — pwy fydd?
Cwyd dy lais
Mae Fesul Darn wedi bod yn agoriad llygad i mi. Roedd gweld fy ngwaith yn y gyfrol hon yn profi bod lle i’n lleisiau ni, a bod lle i ni ym myd cyhoeddi wrth i ni fagu hyder a ffynnu.
Mae llawer o bobl ifanc yn gadael Arfor i chwilio am gyfleoedd, ac mae hynny’n ddealladwy. Ond mae’n bwysig cofio bod opsiynau eraill. Mae’n bosib creu, ysgrifennu, ac adeiladu dyfodol yma hefyd.
Felly os wyt ffansi rhoi tro ar sgwennu, dechreua heddiw.
Paid â disgwyl am yr amser perffaith — mae’r amser perffaith yn gelwydd chwedlonol.
Paid â phoeni am wneud camgymeriadau — mae’r drafft cyntaf bob amser yn un blêr.
Ysgrifenna am rywbeth sy’n golygu rhywbeth i ti — pan fydd y stori’n bwysig i ti, fe fydd hi’n taro deuddeg gyda darllenwyr hefyd.
Mae pob awdur yn dechrau rhywle. Felly dyma dy amser i hel syniadau, crisialu dy brofiadau, a hawlio dy hunaniaeth — dos i’w sgwennu nhw i lawr.
Mae dy stori di werth ei hadrodd. A pwy a ŵyr ble gall o fynd â thi?

Mae Fesul Darn ar gael fel e-lyfr a llyfr sain drwy wefan Atebol:
Llyfr Sain: https://atebol.com/cy/shop/fesul-darn-sain/
E-lyfr: https://atebol.com/cy/shop/fesul-darn-casgliad-o-straeon/
​
​Gweithgareddau addysgol i gyd-fynd â’r gyfrol Fesul Darn: https://atebol.com/cy/shop/gweithgareddau-i-gyd-fynd-ar-gyfrol-o-straeon-fesul-darn/
bottom of page