top of page

Sbeicio:

Gwirionedd y Drosedd

Gwirionedd brawychus y dyddiau hyn ydi ein bod ni i gyd yn wyliadwrus am y peryg o gael ein sbeicio. Gyda 4 o bob 5 dioddefwr yn ferch, mae’n bwnc llosg ymysg merched ifanc. Er bod y pwnc yn cael ei drafod yn agored ac yn gyson, mae’n drosedd sy’n digwydd o hyd ac o hyd. Yn wir, mae yna gynnydd o 108% yn y nifer o achosion ers 2015, yn ôl yr elusen Stamp Out Spiking.

Wrth i dymor freshers ddangos ei ben, mae’n bwysig ein bod ni gyd yn atgoffa ein hunain o’r peryglon, sut i osgoi cael ein brifo, beth yw’r symptomau posib a beth i wneud mewn argyfwng.

 

Beth yw sbeicio?

Mae sbeicio yn gallu digwydd mewn sawl ffordd wahanol. Gall rywun roi rhywbeth yn dy ddiod ar noson allan heb yn wybod i chi, neu gall rywun gynnig vape i chi, sy’n edrych yn ddiniwed, ond sy’n cynnwys cemegau niweidiol.

Gyda sbeicio trwy ddiod, mae’r troseddwr yn rhoi sylwedd ychwanegol yn niod rhywun heb iddyn nhw wybod neu heb ganiatâd. Mae yna ddulliau gwahanol o sbeicio ond, yn ôl yr elusen Stamp Out Spiking, sbeicio dryw ddiod yw  79% o achosion sbeicio.

Er mai’r troseddau rydym yn clywed amdanynt fwyaf ydi achosion o sbeicio diod, mae sbeicio drwy vape hefyd yn gallu digwydd. Digwyddodd hyn llynedd i ferch o Ynys Wyth (Isle of Wight) pan gafodd hi gynnig vape gan ddieithryn. O fewn munudau, roedd y ferch wedi cwympo ac wedi colli ymwybyddiaeth. Diolch byth, roedd ei ffrindiau o gwmpas ac wedi nôl help yn syth. Dyma’r achos mwyaf adnabyddus, ond yn sicr nid dyma’r unig achos o’r fath. 

 

Cocktail_edited.jpg
Trendy Bar_edited.jpg

Symptomau

Mae dod i wybod eich bod chi wedi cael eich sbeicio yn anodd. Fel arfer, nid oes gan y cyffur sy’n cael ei ddefnyddio i sbeicio unrhyw arogl, lliw na blas. Mae offer ar gael er mwyn profi eich diod, ond mae’n bwysig hefyd adnabod y symptomau fel eich bod chi’n gallu chwilio am gymorth mor sydyn â phosibl.

Dyma restr o symptomau posib:
-    Colli balans
-    Cyfog neu taflu fyny
-    Problemau gweld
-    Dryswch
-    Anymwybyddiaeth (Unconsciousness)
-    Problemau anadlu
-    Teimlo’n fwy meddw na ddylet fod.

 

Osgoi Sbeicio

Mae’n bwysig cofio – nid bai'r dioddefwr ydi sbeicio – bai'r troseddwr ydi o yn llwyr. Er hynny, mae’n syniad da i leihau’r tebygolrwydd o gael dy sbeicio gymaint â phosib, felly dyma gamau i’w cymryd ar noson allan:

-    Paid â gadael dy ddiod ar ben ei hun
-    Cadw lygaid allan ar ddiodydd dy ffrindiau!
-    Ystyria gadw at ddiodydd mewn potel
-    Os wyt ti’n meddwl bod dy ddiod wedi cael ei sbeicio, paid â’i yfed
-    Ystyria ddefnyddio teclynnau, fel caeadau arbennig, sy’n ceisio atal sbeicio.

 

Crowd_edited.jpg
Dance Floor_edited.jpg

Beth ddylet ti wneud os wyt ti’n meddwl dy fod wedi cael dy sbeicio?

Os wyt ti ar noson allan, mae adnabod symptomau sbeicio yn anodd iawn gan eu bod mor debyg i sut mae pobl wrth yfed gormod o alcohol. Ond, os oes gen ti unrhyw amheuaeth dy fod wedi cael dy sbeicio, mae’n holl bwysig i ti ddweud wrth berson rwyt ti’n nabod ac yn trystio.

Os wyt ti angen help ar frys, mae ffonio 999 wastad yn syniad call. Fel arall, gofynna i ffrind fynd a ti i adran achosion ysbyty ac egluro beth sydd wedi digwydd yn glir.

Mae’n holl bwysig pwysleisio’r gair ffrind neu rywun rwyt ti’n trystio. Bydda’n wyliadwrus o ddieithriaid sy’n ceisio dy helpu a phaid â gadael gyda rhywun dwyt ti ddim yn eu hadnabod.

Mae’r cam nesaf yn gallu bod yn anodd – dweud wrth yr heddlu. Nid yw’n brofiad braf, ond mae’n bwysig gwneud y cam yma mor fuan â phosib. 

 

Ti’n siwr o fod yn gwybod fod siarad am dy brofiad yn gwneud byd i wahaniaeth. Yndi, mae o lot haws dweud ‘na gwneud, ond mae’n dda cael opsiynnau trafod wrth law. Clicia yma i ymweld â thudalen Llinellau Cymorth Lysh.
 

bottom of page