top of page

Sara Seren y Sîn

Sara 1.jpg

Delwedd: S4C

Mae rhaglen Y Llais, er dim ond un gyfres sydd wedi ei ryddhau hyd yn hyn, wedi taflu’r golau ar sawl dalent cerddorol sydd yn bodoli yn ein cymunedau. Rhaid cofio mai’r rhaglen The Voice oedd y rhaglen i’n cyflwyno ni i un o feirniad y rhaglen Cymraeg, sef Bronwen Lewis!

Un seren sydd wedi disgleirio ymysg y cystadleuwyr ydi Sara Owen, sydd wrthi’n brysur yn ysgrifennu a chyflwyno ei chaneuon gwreiddiol ei hun i’r byd. Gyda'i sengl ddiweddaraf, “Symud Ymlaen”, wedi ei ryddhau, bachodd Lysh ar y cyfle i’w holi am ei phrofiad ar y teledu, ei steil o gerddoriaeth a mwy.

Lysh Cymru: Wnes ti’n hollol wych ar raglen Y Llais. Mae’n debyg ei fod o’n sbel hir nôl i ti ers y cyfnod ffilmio ac ati, ond sut brofiad oedd o?

Sara Owen: Diolch, diolch! Oedd o’n brofiad hollol anhygoel a dwi isio gwneud o eto! Dwi’n methu’r profiad a’r bobl gymaint. Dwi’n teimlo mor lwcus fy mod i wedi cael bod ar y rhaglen a dwi’n wir gobeithio y bydd pawb sydd ynghlwm â’r ail gyfres yn mwynhau bob eiliad.

 

LC: Ai dyna oedd y profiad cyntaf di o berfformio, neu wyt ti wedi bod yn perfformio erioed?

SO: Dwi’n canu ers erioed ac wedi cael llu o gyfleoedd yma ac acw efo’r coleg ac ati, ond hwn oedd y peth mwyaf erioed i mi wneud - oedd o ar raddfa gwbl wahanol!

LC: Fedri di ddatgelu mwy am sut wyt ti’n mynd ati i ysgrifennu dy ganeuon?


​SO: Wel.. hollol random! Weithiau mae rhywbeth yn dod i mewn i 'mhen, fel rhywbeth am sut dwi’n teimlo a fyddai’n gweithio efo hwnna wedyn. Os ydi o’n syniad dwi’n licio, wnâi drio ail ganu hi ac anfon nodyn sain i fi’n hun ac yna pan fydd gennai’r amser a’r capasiti meddyliol fyddai’n eistedd i weithio arno fo a meddwl am bwrpas y gân, lle mae’r stori’n mynd ac ati.

LC: Mae “Symud Ymlaen” yn gân mor bersonol, dydi? Sut brofiad oedd gweithio gydag eraill er mwyn cynhyrchu’r trac?


SO: Wnes i ysgrifennu’r gân yn wreiddiol sawl blwyddyn yn ôl bellach, ac roedd o’n gân am brofiad gwahanol i’r profiad mae’r gân yn ei adrodd rŵan. Mae’r elfen wreiddiol yno o hyd ond mae o’n gân fwy positif ‘na beth oedd hi arfer bod. Wnes i fynd ati i newid y geiriau a newid neges y gân ac roedd mynd ati i’r stiwdio i weithio gyda Rich a’r arbenigedd o fynd a’r gân i lefel wahanol. Dwi mor falch ohoni. O’n i’n nerfus ofnadwy i gychwyn gan fod hyn hollol newydd i fi, ond erbyn gweld doedd dim angen bod!

Sara 2.jpg
Sara 3.jpg

LC: Sut fysa ti’n disgrifio dy steil di o gerddoriaeth?

SO: I fod yn onest, dwi’n meddwl bod gen i steil penodol. Dwi’n licio gwrando ar bob math o gerddoriaeth felly dwi eisiau gwneud bach o bob dim! Gen i feib yn fy mhen a pan dwi’n anfon rhywbeth i gynhyrchu dwi’n egluro wrth Rich be dwi isio. Efo Symud Ymlaen, wnes i egluro ‘mod i eisiau build up epig a dwi’n meddwl bod hynny i’w glywed yn “Symud Ymlaen”. Dwi’n licio cerddoriaeth ffilm a sŵn mawr felly... Dyna ydi’r steil!

LC: Os fysa ti’n cael dewis unrhyw lwyfan yn y byd i berfformio arni, pa lwyfan fysa hwnna?

SO: Ers erioed dwi wedi bod eisiau canu'r anthem yn Stadiwm Principality. Fyswn i wrth fy modd yn canu cyn gêm rygbi! Er, mae’r anthem yn ei gywair gwreiddiol yn rhy uchel i fi... problemau alto!

LC: Oes gen ti gynlluniau cyffrous ar y gweill?

SO: Mynd yn ôl i’r stiwdio c.g.a.ph. er mwyn gorffen gweddill o’r caneuon! Y gobaith ydi cael detholiad o ganeuon gwreiddiol y bydd pobl yn eu mwynhau. O, a gen i gwpwl o briodasau flwyddyn nesaf, hefyd! Dwi wrth fy modd yn canu mewn seremonïau a gweld pobl yn hapus ar ddiwrnod mor arbennig. Mae cerddoriaeth yn dod a phawb at ei gilydd ac yn gwneud y diwrnod hyd yn oed fwy sbeshal.

 

bottom of page