top of page

Rysáit Cawl Cynnes

1.png

Mae ‘na rhywbeth reit reddfol am swatio ac ymddwyn yn unol â’r tymor, does? Digon teg, mae arafu yn ystod tymhorau tywyll ac oer y flwyddyn yn her y dyddiau yma - dydi peidio mynd i’r gwaith oherwydd amser y flwyddyn ddim yn esgus da, erbyn gweld! Ond, gyda’r gaeafau yn gwaethygu a El Nino bron yn gaddo tymor i’w gofio, rydym yn cael ein gorfodi i arafu, swatio a hyd yn oed celu adref rhag y stormydd.

Felly, os wyt ti’n cael dy orfodi i fochel adref yna mae’n rhaid meddwl am bethau i gadw’r hwyliau i fyny does? Pan fo’r sgrolio wedi dy ddiflasu a’r oerni yn dy fygwth, pa ffordd well o ddiddanu a chynhesu ‘na gyda chawl da?

 

Yr hyn sy’n wych am y rysáit yma ydi does fawr o bwys faint o’r cynnyrch sydd gen ti, felly does dim angen rhedeg allan i’r siop os wyt ti un moron yn brin! A phan fyddi di’n hen law ar y blas, fyddi di’n siŵr o allu ychwanegu neu dynnu cynhwysion fel y mynnat gyda chanlyniadau blasus a llesol!

Fyddi di angen:

•    Pwmpen cnau menyn
•    Tatw melys
•    Moron
•    Nionyn
•    Garlleg
•    Sinsir
•    Hufen dwbl (opsiynol)
•    Stoc llysiau

 

3.png
2.png

1.  Paratoi’r llysiau a’u torri’n weddol fach. Rho’r cyfan mewn sosban fawr gydag ychydig o olew ar wres isel a gadael iddyn nhw chwysu am ychydig funudau. Fyddi di’n gwybod pan fyddant yn barod i’r cam nesaf gan ddefnyddio dy drwyn!
​
2.  Ar ôl rhyw 10-15 munud, rho’r stoc llysiau a hufen i mewn gyda’r llysiau - digon i orchuddio’r llysiau i gyd.
​
3.  Am ryw 20 munud, cadwa’r cawl ar ferw isel, hyd nes bod y llysiau yn feddal. Cofia ei gymysgu bob ychydig o funudau.
​
4.  Pan fydd y llysiau yn feddal, mae’n amser ei gymysgu gyda phrosesydd bwyd.
​
5.  Os ydi’r cawl yn rhy dew, yna ychwanegu ychydig o ddŵr neu hufen - mae’r cyfan i fyny i ti, sut bynnag wyt ti’n mwynhau cawl.​

​

Os wyt ti’n rhoi cynnig ar y rysáit, rho wybod i ni!

bottom of page