top of page
Problem Pwy?
Mae rhai pethau mewn bywyd yn teimlo’n fawr. Rhy fawr i ti hyd yn oed meddwl eu trechu. Boed hynny’n broblem gymunedol, yn her amgylcheddol neu’n anghyfiawnder sy’n teimlo’n haws ei anwybyddu a throi dy sylw at rywbeth arall. Wedi’r cyfan, mae rhywun yn mynd i wneud rhywbeth am y peth, dydi?
Pan fo cwmnïau mawr yn bygwth dy gymuned, mae rhywbeth yn troi y tu mewn i ti a thân yn cael ei gynnau ac awydd greddfol i wneud popeth o fewn dy allu i oedi unrhyw gynllun sy’n rhoi elw o flaen pobl. Ar hyn o bryd, mae trigolion Caerdydd yn brwydro’r posibilrwydd o ganolfan deallusrwydd artiffisial ar eu stepen ddrws. Felly, gyda’r tân wedi ei gynnau a tithau’n barod i weithredu... beth nesaf?

Ei Dorri i Lawr
Pan wyt ti’n gwynebu rhywbeth mawr, mae o’n mynd i deimlo fel ychydig o dalcen caled. A phan wyt ti’n teimlo’n angerddol iawn am achos, yn enwedig os ydi’r achos yn effeithio ar dy fywyd di a dy gymuned, mae awydd i redeg ar dy ben i mewn i wrthwynebiad yn gallu bod yn deimlad naturiol. Wrth gwrs ei fod o, rwyt ti’n caru dy gymuned! Ond wrth ddefnyddio dy holl egni ar y llinell gychwyn, mae’n bosib cael dy ddychryn gan raddfa’r sefyllfa neu i’r cyfan deimlo mor amhosib nes byddi di’n rhoi’r gorau cyn cychwyn. Felly, cymera saib, camu’n ôl a meddwl am dy gam nesaf ac efallai’r cam wedyn - mae’r camau canlynol yn gallu aros eu tro.
Fel man cychwyn, ystyria os oes rhywbeth fedri di ei wneud rŵan hyn. Drafftio llythyr i gynrychiolwyr lleol neu’r rhai sy’n dy gynrychioli yn y senedd, holi aelodau eraill dy gymuned am farn neu gymorth neu greu map meddwl er mwyn cael popeth allan o dy ben ac i lawr ar bapur, rhag ofn i syniad fynd ar goll.
Yna, ysgrifenna nodyn o ddyddiadau ac amseroedd pwysig - dyddiad cau anfon gwrthwynebiad, amser cyfarfod cyhoeddus ac ati. Pan fydd gen ti syniad da o bryd mae pethau’n digwydd, fyddi di mewn lle mwy clir er mwyn gweithredu.
Nerth Mewn Undod
Mae’r awydd i drechu her ar ben dy hun yn ddeniadol, ond cofia nad oes dim yn bod mewn gofyn am gyngor neu am help llaw. Nid gwendid ydi gofyn am help! Mae adnabod pryd wyt ti angen holi am gymorth yn gallu bod o fantais i’r achos. Dydi tîm ddim yn handi o ran mwy o ddwylo, chwaith. Mae tîm yn gallu golygu ystâd fwy eang o brofiadau a syniadau.
Efallai y byddi di’n ymwybodol o warws diwydiannol yn Astley ger Manceinion, ble mae sawl adeilad enfawr - anhygoel o fawr o ystyried ei leoliad - wedi cael ei adeiladu er gwrthwynebiad cryf lleol a chenedlaethol. Cer i gael sbec ar gyfrif Zoe Bread ar Instagram. Er bod y cais cynllunio wedi ei gymeradwyo a’r safle yn gartref i fusnes adnabyddus, y rhai mewn grym yn meddwl eu bod wedi ennill y frwydr, sylwa ar y gwahaniaeth mae Zoe a’i thîm o ddilynwyr, ynghyd a’r gymuned leol, yn ei gael ar weithrediad y safle a’r busnes.


Dydi gweithio gydag eraill ddim yn golygu cadw cyd-weithredwyr yn lleol, chwaith. Ymchwilio i mewn i achosion sy’n debyg i’r un ti’n ei wynebu. Oes grwpiau cymunedol eraill wedi gweithredu mewn modd tebyg, a tybed fedri di gysylltu er mwyn holi a dysgu gwers neu ddau?
Os nad ti, pwy?
Hawdd iawn ydi meddwl bod rhywun arall am wneud y gwaith a sefyll yn erbyn anghydfod ar dy ran, ond beth sy’n digwydd pan fydd pawb yn bwriadu i rywun arall achub y dydd? Efallai mai ti yw’r unig yn ddigon parod i ddod a phawb at ei gilydd er mwyn diogelu dy gymuned.
Felly, cer amdani. Cynllunia, cysyllta, gweithreda!
bottom of page
