top of page

Diwrnod Rhyngwladol
Merched 2024
Hapus!

Three Women

Eleni, thema Diwrnod Rhyngwladol Merched ydi Ysbrydoli Cynhwysiant. Dewch i ni ddathlu’r diwrnod mawr eleni drwy ysbrydoli eraill, rhannu ein profiadau, gwrando ar hanesion ein cyd-ferched gyda pharch a chariad! Dyma ddiwrnod i ni uno er mwyn clodfori llwyddiannau merched, uno gyda merched ar hyd a lled y byd er mwyn dathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni’n debyg a hefyd parchu’r hyn sy’n ein gwneud hi’n wahanol.

Wyddost ti fod y diwrnod yma wedi bod yn cael ei ddathlu ers dros 100 mlynedd? Yn 2011, fe ddaeth 100 o ferched ynghyd er mwyn dathlu’r diwrnod yn Awstria, Denmarc, y Swistir a’r Almaen. Yn 1977, cafodd Diwrnod Rhyngwladol Merched ei adnabod gan y Cenhedloedd Unedig (United Nations) fel gŵyl ac yn 1996 penderfynwyd rhoi themâu penodol ar gyfer yr ŵyl bob blwyddyn, er mwyn gallu dathlu’r diwrnod ledled y byd.

 

Yn anffodus, mae’r 8fed o Fawrth hefyd yn ddydd pan fydd pobl di-gywilydd arlein yn mynnu gwybod “Wel, os mae Diwrnod Rhyngwladol Merched yn bodoli, pam ddim Diwrnod Rhyngwladol Dynion?!” Wel, i gychwyn, mae Diwrnod Rhyngwladol Dynion yn bodoli ar yr 19eg o Dachwedd, ac mae Diwrnod Rhyngwladol Merched yn bwysig am sawl rheswm. Dewch i ni eu rhestru nhw;

1. 
Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn bodoli ym mhob cwr o’r byd, felly mae’n effeithio ar bob merch.  Yn ôl elusen ActionAid, mae yna fwlch mewn cyflog rhwng merched a dynion o 15.5%. Wrth gwrs, mae pethau yn gwella yn ara’ deg. Y broblem ydi, mae pethau’n gwella’n RHY ara’ deg. Os byddwn ni’n parhau i ddilyn gwelliant ar yr un cyflymder ag sy’n bodoli eisoes, byddwn ni’n llwyddo i gyraedd tâl teg a chyfartal mewn 257 mlynedd.

 

2. Merched mewn tlodi
Ledled y byd, mae tlodi yn bodoli. Mae’n deg i ddweud fod tlodi yn gallu effeithio ar bawb, yn ferched ac yn ddynion. Er hynny, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, o’r 1.3 biliwn o bobl sydd yn byw mewn tlodi, mae 70% ohonynt yn ferched.


3. Dathlu’r siwrna a chofio’r ffordd i fynd
Mae hawliau merched wedi dod yn eu blaen yn sylweddol dros y canrifoedd. Mae gennym ni hawl cyfartal i bleidleisio, diolch i’r merched fu’n ymgyrchu’n ddi-flino er ein lles ni gyd. Mae’r ‘tampon tax’ wedi cael ei ddiddymu, sydd am ddod a prisiau cynnyrch mislif i lawr. Mae cymaint wedi cael ei gyflawni er mwyn ceisio camu’n nes at gydraddoldeb ac mae Diwrnod Rhyngwladol Merched yn ddiwrnod i ddathlu’r llwyddiannau yna. Ond, mae’n rhaid cofio’r ffordd sydd i fynd eto. Mewn sawl lle ar draws y byd, does gan ferched ddim yr hawl i erthylu – nid yn unig hynny, ond mae rhai llefydd yn ystyried erthylu yn drosedd.

 

Lle bynnag yn y byd y byddi di’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol Merched, mae Lysh yn dymuno dyfodol disglair a chyfartal i ti!
 

bottom of page