top of page
Pigion Lysh:
Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025

Os fyddi di’n edrych am arwydd cadarn bod tymor yr haf ar y ffordd, yna Eisteddfod yr Urdd ydi’r arwydd perffaith.
Eleni, mae’r ŵyl ym ymweld â Pharc Margam draw ym Mhort Talbot. Nid dyma’r tro gyntaf i Mistar Urdd a’r criw ymgartrefu am yr wythnos yma, gan fod y cystadlu wedi cael eu cynnal eisoes yno yn 2003. 22 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae gymaint wedi newid – mae’r rhai fu yno’n cystadlu yn 2003 bellach yn dod a’u plant nhw i gystadlu, ac eto dydi Mistar Urdd heb heneiddio, sydd ddim yn deg o gwbl. Serch yr amser sydd wedi mynd heibio, mae rhai pethau’n aros yr un fath, fel yr holl ddigwyddiadau, cystadlu, perfformiadau a joio sy’n ein disgwyl ar y maes.
Isod, mae ein pigion ni ar gyfer yr ŵyl sy’n cynnwys cymysgedd o gyfleoedd i arbrofi a dysgu a hefyd digwyddiadau i fwynhau gyda ffrindiau. Cofia ddilyn ni ar ein cyfrifon cymdeithasol, ble byddwn ni’n rhannu rhagor o ddigwyddiadau.
​






bottom of page