top of page

Pen Mewn Llyfr

Hand Picking Book

Gyda’r haf yn tynnu i derfyn, peth naturiol ydi edrych yn ôl ac ymdrochi yn yr atgofion. Gigs, lan y môr, caffis a joio... Ydi popeth wedi ei dicio oddi ar y rhestr? Beth am y “darllen o leiaf un llyfr”?

Mae “darllen mwy” yn ddyhead poblogaidd. Wrth gwrs ei fod o, mae dianc i fyd rhywun arall am sbel yn wych ac mae’r mwynhad o gael eich tywys ar antur yn deimlad heintus. Wedi dweud hynny, mae dod o hyd i amser a magu arferiad o agor llyfr yn gallu bod reit anodd. 

Ffansi ychydig o gyngor ar sut i blethu joio llên i mewn i dy fywyd? Yna darllena ymlaen...

Llyfrau Llafar

Os nad oes gen ti ddigon o amser i ddarllen, yna paid â throi dy drwyn ar lyfrau llafar. Mae’n hawdd dewis peidio gwrando ar lyfr llafar, gan ei fod yn deimlad reit od bod rhywun yn darllen stori i ti. Ond mae’n rhaid trio rhywbeth newydd weithiau, does?

Y dyddiau yma, mae nifer fawr iawn o lyfrau yn cael eu cyhoeddi ar ffurf llyfra llafar felly does dim diffyg dewis! Os wyt ti’n treulio lot o dy amser yn gyrru neu’n teithio, yn y gampfa neu ffansi gwrando ar rywbeth wrth lanhau, dyma ffordd wych o daro dau dderyn gydag un garreg.

Ddim yn siŵr os bydd llyfr llafar yn dy siwtio? Cyn buddsoddi mewn nofel, mae modd gwrando ar ddetholiad eang o lyfrau Cymraeg drwy app Borrow Box drwy logio mewn gyda dy lyfrgell leol. Cer draw i dy lyfrgell am fwy o wybodaeth.

 

Llyfr llafar.jpg
Reading Session

Clwb Darllen

Wyt ti erioed wedi gorffen llyfr a methu’n glir ag anghofio am y cymeriadau? Rwyt ti wedi bod gyda nhw am benodau ar benodau, yn mynd ar siwrnai emosiynol ac wedi ymrwymo i’r plot nes bod dy sylw di’n gaeth i’r tudalennau. Ti’n YSU i gael trafod y nofel, rhannu barn a chwestiynau, ond does heb o dy gwmpas cweit yn deall am be ti’n sôn.

Wel, mewn Clwb Darllen, mae’n bosib y byddi di ymysg dy debyg! Cei drafod bob dim am yr hyn rwyt ti wedi ei ddarllen gydag eraill sy’n deall pwy ydi pwy a beth ddigwyddodd. Byddi di’n siŵr o fod yn darllen llyfrau fysa ti ddim fel arfer wedi ei ddewis, darganfod awduron sy’n newydd i ti a cheisio ar yr her o orffen llyfr cyn y cyfarfod canlynol. A phwy ag ŵyr, efallai byddi di’n magu criw o ffrindiau newydd!

 

Podlediadau

Os nad oes clwb darllen yn dy ardal di, neu dwyt ti ddim cweit yn barod i ymuno eto, yna mae gwrando ar bodlediad am ddarllen yn wych.  Mae sawl podlediad ar gael yn rhwydd ar y platfformau arferol neu ar wefan Y Pod.

Os wyt ti am wrando ar awduron profiadol yn joio sgwrsio am lên a mynd ar ambell i drywydd diddorol, yna mae Colli’r Plot yn disgwyl amdanat. Os wyt ti am fusnesu i’r math o lyfrau mae rhai o wynebau cyfarwydd Cymru yn mwynhau, yna podlediad Sut i Ddarllen yw’r un i ti.


Ffeirio am Sgrîn

Erbyn rŵan, mae lleihau'r amser rydym yn ei dreulio ar y sgrin fach yn ein dwylo yn gôl i nifer fawr iawn ohonom, yn enwedig yn yr ychydig o oriau cyn i ni fynd i gysgu am y noson. Mae rhai yn dewis darllen am ychydig cyn mynd i gysgu, a pha ffordd well o dynnu dy sylw oddi ar y socials ‘na gyda phlot sydd yn ysbrydoli breuddwydion boncyrs?

Ocê, mae’n hollol bosib, os nad yn debygol, y byddi di’n aros i fyny’n llawer hwyrach nag oeddet ti’n disgwyl yn ymddiddori yn y llyfr, ond o leiaf dim y sgrolio diddiwedd sy’n dy gadw’n effro!

 

Woman Wearing Headphones
bottom of page