top of page

Paid Anghofio’r Hanfodion!

Colorful Cosmetic Tubes

Wyt ti wedi ymweld a dy hoff ŵyl eto? Gyda heuldro’r haf ar drothwy, rydym bellach wedi troedio i mewn i tymor y gŵyliau. Boed yn ŵyl mewn cae dros benwythnos hir neu’n ddathliad undydd mewn dinas, mae paratoi o flaen llaw yn gallu sicrhau yr ŵyl orau erioed... tan y flwyddyn nesaf, o leiaf! Isod, mae rhestr darllenwyr Lysh o’r hanfodion mewn gŵyl, ond tybed beth sydd ar dy restr di?

Eli Haul

Paid â sbwylio diwrnod da gan losgi dy groen a teimlo’r boen am dyddiau wedyn! Buddsodda mewn eli o safon da er mwyn osgoi niwed i dy groen. O, a chofia ei ddefnyddio drwy gydol y dydd. Dydi cadw potel o eli mewn bag heb ei ddefnyddio ddim da i neb!
 

Dŵr

Mae yfed dŵr yn fuddiol mewn sawl ffordd, yn arbennig mewn gŵyl yng nghywydd poeth yr haf! Wrth gwrs mae yfed dŵr yn cadw dy gorff yn iachus ac yn osgoi dadhydriad difrifol mewn tywydd poeth, ond rhaid cofio bod yfed dŵr yn arbennig o bwysig os byddi di’n yfed alcohol yn ystod y dydd. Does neb eisiau methu allan ar yr hwyl ac os wyt ti’n penderfynu yfed, does dim rhaid i ti fethu allan ar hynny chwaith! Drwy yfed digon o ddŵr ac yfed alcohol yn synhwyrol, byddi di’n gallu parhau’r dathlu drwy’r dydd - ac efallai i’r diwrnod wedyn yn ddiffwdan!

Dillad Call

Bydd mynychwyr gwyliau dedwydd yn trefnu eu gwisgoedd gwyliau misoedd o flaen llaw, ac mae hynny am reswm da. Nid ar chwarae bach mae trefnu gwisg sydd yn gyfforddus ac yn dilyn tueddiadau ffasiwn gwyliau ar yr un pryd. Os wyt ti’n bwriadu bod allan drwy’r dydd, yna mae esgidiau da yn hanfodol. Aros allan gyda’r nos? Yna gwna’n siwr bod gen ti rywbeth ger llaw er mwyn cadw’r oerni draw. Does neb eisiau cael eu trechu gan ddewis gwisg wael a gorfod mynd adra’n gynner.
 

summer-clothes_edited.png
hand-sanitiser.jpg

Eli Golchi Dwylo

Mae tymor y gwyliau hefyd yn golygu tymor y portalŵs. Ych! Os wyt ti’n ddigon lwcus i ddod o hyd i doilet gydag offer golchi dwylo call, mae hynny’n bonws. Ond, os dwyt ti ddim, mae cario potel fach o eli golchi dwylo yn gallu achub y dydd. O, a chofia cario paced o bapur tŷ bach gyda ti yn dy fag. Does dim byd gwaeth ‘na ffeindio bod dim ar ôl yn y portalŵ!

Ddim yn siwr beth sydd ymlaen yn dy ardal di? Cer draw i’n
tudalen digwyddiadau i ddarganfod mwy. Cofia, os wyt ti’n ymwybodol o ddigwyddiad sydd ddim ar ein calendr, anfona neges er mwyn ei ychwanegu!

 

bottom of page