top of page
Os Am Sgrolio, Joia!

​Wyt ti wedi bod yn teimlo’n ddiweddar bod y cyfryngau cymdeithasol yn troi’n wenwynig? Bod y sŵn yn mynd yn ormod a’r algorithm yn mynnu hysbysebu sothach rhwng bob reel?
Dydi hyn ddim yn newydd - mae’r cyfryngau cymdeithasol fel tasa nhw wedi cael eu dylunio’n arbennig i dy ypsetio, gydag ambell i edefyn o bositifrwydd er mwyn cadw ni’n gaeth.
Wyddost di, does dim rhaid i ti deimlo felly? Mae’n bosib i ti fwynhau’r sgrolio, heb deimlo’r awch i daflu dy ffôn drwy’r ffenest (ond os wyt ti am wneud, cofia agor y ffenest yn gyntaf, mae ailosod ffenest yn joban ddrud). Sut? Wel, drwy ddilyn cyfrifon sydd wirioneddol o ddiddordeb i ti!
Pan fyddi di’n sgrolio, mae’n bwysig cofio mai ti sydd berchen ar dy ffrwd a ti sy’n cael penderfynu pwy ti’n eu dilyn a phwy sydd ddim yn haeddu lle yn dy ffrwd. Wedi’r cwbl, os na fysa ti’n gwahodd rhywun i dy dÅ· am baned a ‘sgedan, pam fysa ti’n rhoi lle iddynt ar dy ffrwd bersonol?!
Dydi hynny ddim yn golygu anwybyddu materion cyfoes a newyddion sydd wir yn bwysig. Fedri di wastad mynd ati i chwilio yn y mannau priodol am rheini pan fyddi di yn y lle cywir i wneud hynny, ond drwy deilwra dy ffrwd bersonol byddi di’n osgoi cael braw annisgwyl.
Felly, pwy wyt ti’n hoffi dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol? Holodd Lysh ar ein cyfrif Instagram am argymhellion, a dyma’r canlyniadau...

Mirain Iwerydd (@mirainiwerydd)
Mewn byd sydd llawn llymder, Mirain ydi’r goleuni a’r positifrwydd mae pawb angen! O fewnwelediad i’w gyrfa cyflwyno ar y radio ac ar y teledu, mae Mirain hefyd yn rhannu ei theithiau o amgylch siopau elusen ac yn trîtio ei dilynwyr i fanylion gwisgoedd hollol anhygoel.
Elen Wyn (@_elenwyn)
Y ffyddlon Elen... sydd yn ffyddlon i’w dilynwyr! Mae Elen yn creu cynnwys sydd yn ffocysu ar fod yn garedig i chi’ch hun, boed hynny’n mynd ar solo date neu’n siarad yn onest am iechyd. Os wyt ti’n chwilio am chwa o awyr iach ac onest, dyma’r cyfrif i ddilyn!
Caryl Bryn (@_carylbryn)
Mae cyfrif Caryl wir yn un sydd yn mynd i godi calon. Yn ogystal â’r direidi ar raglen Heno, mae hi’n rhannu detholiad o’i bywyd y tu ôl i’r llen gan fod yn neb ond hi ei hun. Ddim yn siŵr ble i gychwyn? Cer i chwilio am y fideo meddyliau wrth frwsio dannedd... Mae’n siŵr o godi gwên a byddi di’n siŵr o uniaethu!
Sioned Dafydd (@sioned_dafydd)
Os wyt ti’n hoff o chwaraeon, o bêl-droed i’r darts ac o Fae Colwyn i’r Swistir, mae Sioned yn cyflwyno’r cyfan i ti! Dyma’r cyfrif i’w ddilyn os wyt ti awydd dal i fyny gyda’r newyddion chwaraeon diweddaraf, eisiau pip y tu ôl i’r llen ym maes cyfryngau chwaraeon neu yn chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth.
bottom of page









