top of page

O'r Archif

Penbleth Penderfynu

Beth i’w wneud pan dwyt ti ddim yn gwybod beth i’w wneud?

Dyma adeg y flwyddyn ble mae pawb yn gwneud penderfyniadau mawr. Ble wyt ti am fynd i’r brifysgol, os wyt ti am fynd o gwbl? Efallai mai mynd yn syth i’r byd gwaith sydd orau i ti, ond ble i gychwyn? Mae’r rhain yn benderfyniadau caled a thrafferthus, ond mae’n rhaid eu gwneud nhw. Felly, dewch i ni dynnu’r erthygl yma o’r archif i gymryd bob cam fel mae’n dod.
 

pexels-rfstudio-3843257.jpg

Yn dy arddegau, mae yna gymaint o benderfyniadau i’w gwneud a bob un yn siapio dy ddyfodol di. Boed hynny’n dewis pa bynciau i’w hastudio ar gyfer TGAU neu ble i chwilio am swydd Dydd Sadwrn, neu efallai rydych chi’n meddwl mabwysiadu anifail anwes a methu’n glir a phenderfynu ar fochdew neu gwningen? Mae’r rhain yn benderfyniadau mawr ac mae’n hawdd iawn i’r pwysau o ddewis mynd yn ormod.

Efallai fod y dewisiadau yma yn hawdd i chi, neu efallai eich bod chi’n llwyr ar goll a jest eisiau gweiddi dros bob man “Dwi ddim yn gwybod beth i’w wneud!”

Y gwir ydi, mae beth bynnag fyddwch chi’n teimlo yn gwbl normal ac mae pawb yn teimlo felly o dro i’w gilydd. Mae’n bwysig cofio eich bod chi ddim ar ben eich hun.

 

Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun yn eich cyfyng gyngor, felly dyma ychydig o gyngor i’ch rhoi chi ar ben ffordd.

•    Gofynnwch gwestiynau.
Mae’n anodd iawn gwneud penderfyniad yn ddall a heb wybodaeth i’ch llywio chi, felly gofynnwch gwestiynau i ffrindiau neu oedolion. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu rhannu cyngor da, mae siarad am eich cwestiynau a phroblemau yn mynd i wneud byd o les, beth bynnag!

 
•    Cymerwch eich amser.
Os oes gennych chi amser penodol i wneud penderfyniad, er enghraifft mis i benderfynu pa bynciau i ddewis ar gyfer astudiaethau TGAU, yna defnyddiwch y mis yna i gyd. Manteisiwch ar yr amser yna i siarad, gofyn am gyngor ac efallai y byddwch chi’n newid eich meddwl sawl gwaith yn y cyfnod yna cyn setlo ar eich dewis terfynol.

 

pexels-engin-akyurt-2283803.jpg
pexels-julia-m-cameron-4144923.jpg

•    Mae’n iawn newid eich meddwl.
Efallai mewn amser, bydd eich diddordebau yn newid a’ch planiau ar gyfer y dyfodol yn hollol wahanol i beth oedden nhw. Nid yn unig mae hynny’n normal, ond mae hynny weithiau yn anochel a does dim byd o’i le yn hynny.

•    Mae’n amhosib trefnu ar gyfer bob posibilrwydd yn y dyfodol.
Mae pethau yn newid trwy’r adeg. Efallai fod y penderfyniad y byddwch chi’n gwneud heddiw ddim o bwys mewn cwpwl o flynyddoedd. Gwnewch y penderfyniad sy’n bwysig i chi yn y foment. Hynny yw, os fyddwch chi’n penderfynu astudio Daearyddiaeth ar gyfer gradd TGAU, nid oes rhaid i chi barhau i astudio hynny yn y dyfodol ac yn sicr dydi hynny ddim yn golygu for rhaid i chi ddilyn gyrfa fel daearegwr! Mae’r dyfodol yn gyfrinach, a dim ond efo amser y mae’n cael ei ddatgelu!

 

•    Dyfodol chi, penderfyniad chi!
Mae pawb yn wahanol, felly mae dewisiadau eich ffrindiau yn mynd i fod yn wahanol i’ch dewisiadau chi. Peidiwch â dilyn llwybr sydd ddim yn eich siwtio chi drwy ddilyn eich ffrindiau. Fydd eich ffrindiau ar lwybr gwbl wahanol, ond er hynny mae dal modd i chi gefnogi eich gilydd ar eich siwrnai unigol.

Er bod penderfyniad yn teimlo’n un mawr, drwy siarad am eich gofidiau gyda theulu neu ffrindiau, mae’n sicr y bydd grym y penderfyniad yn cael ei haneru’n syth!

Ydych chi wedi gwneud penderfyniad mawr yn ddiweddar? Oes gyda chi gyngor i’w rannu? Rhowch wybod i ni!

 

pexels-belle-co-1000445.jpg
bottom of page